Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Kevin Thomas 01267 224027
Rhif | eitem | ||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb. |
|||||||||
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol. |
|||||||||
EFFAITH CREDYD CYNHWYSOL A COVID-19 AR ÔL-DDYLEDION RHENT Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau. |
|||||||||
CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd. |
|||||||||
STRATEGAETH TRAWSNEWID DIGIDOL 2021-2024 PDF 315 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ar fabwysiadu Strategaeth Trawsnewid Digidol ar gyfer y cyfnod 2021-2024. Nodwyd bod y Strategaeth, a fyddai'n disodli strategaeth 2017-20, yn seiliedig ar y cynnydd a wnaed dros y pedair blynedd diwethaf, roedd yn manylu ar flaenoriaethau a dyheadau digidol strategol y Cyngor ac yn amlinellu'r hyn yr oedd angen ei wneud i gyflawni'r weledigaeth ar gyfer Sir Gaerfyrddin ddigidol dros y tair blynedd nesaf.
Nodwyd bod y Strategaeth yn rhoi eglurder ynghylch:- · Y weledigaeth ddigidol ar gyfer Sir Gaerfyrddin · Beth yw Strategaeth Trawsnewid Digidol · Adeiladu Sylfeini Digidol yn Sir Gaerfyrddin · Meysydd Blaenoriaeth allweddol · Y prosiectau allweddol a'r deilliannau sydd i'w cyflawni · Yr Adnoddau sydd eu hangen i gyflawni'r weledigaeth ddigidol.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Strategaeth Trawsnewid Digidol 2021-2024. |
|||||||||
ACHREDIAD YMGYRCH Y RHUBAN GWYN PDF 307 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ynghylch y Cyngor yn ymgeisio o’r newydd am achrediad gan Ymgyrch y Rhuban Gwyn i ddod â thrais gan ddynion yn erbyn menywod i ben. Nodwyd bod yr Achrediad blaenorol, a dderbyniwyd ym mis Awst 2018, bellach wedi dod i ben ac er mwyn adnewyddu’r achrediad roedd y Cyngor wedi paratoi Cynllun Gweithredu i'w gyflwyno a chael ei gymeradwyo gan Ymgyrch y Rhuban Gwyn. Drwy gefnogi'r ymgyrch a chodi ymwybyddiaeth o gam-drin domestig, byddai'r Cyngor yn gweithio i fynd i'r afael â phob math o gam-drin a thrais, nid yn unig gan ddynion yn erbyn menywod.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:
|
|||||||||
EFFAITH CREDYD CYNHWYSOL A COVID-19 AR ÔL-DDYLEDION RHENT PDF 641 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ar effaith Credyd Cynhwysol a Covid-19 ar ôl-ddyledion rhent Tai Cyngor. Nododd y Bwrdd mai nod yr adroddiad oedd:- · Rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am lefel yr ôl-ddyledion rhent gan denantiaid y Cyngor; · amlinellu cynlluniau sydd wedi cael eu rhoi ar waith i liniaru'r effaith a chefnogi tenantiaethau ar hyn o bryd ac yn y dyfodol; · ceisio cymeradwyaeth i gynnal achos llys lle mae pob cam arall i ymgysylltu a chefnogi tenantiaethau wedi methu.
Roedd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Dai wedi tynnu sylw'r Bwrdd at lefel yr ôl-ddyledion rhent a nodwyd ar dudalen 65 yr adroddiad sef £1.537m ar ddiwedd blwyddyn ariannol 2020/21, a dywedodd y dylid cywiro'r ffigur a nodi £1.193m, sef cynnydd o £69k o'i gymharu â blwyddyn ariannol 2019/20.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL
|
|||||||||
UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL, 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw eitemau eraill o fater brys. |
|||||||||
GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R MATER CANLYNOL GAN EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y BWRDD, AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf. |
|||||||||
DATBLYGIAD PRESWYL AR DIR YNG NGORLLEWIN CAERFYRDDIN Cofnodion: Ar ôl cynnal prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 9 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu faterion busnes unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf). Roedd prawf budd y cyhoedd mewn perthynas â'r adroddiad hwn yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth a geir ynddo oherwydd byddai datgelu'r wybodaeth hon yn anfantais faterol i'r awdurdod mewn unrhyw drafodaethau dilynol â thrydydd partïon, a gallai gael effaith niweidiol ar y pwrs cyhoeddus.
Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ynghylch gwaredu tir sy’n eiddo i’r Cyngor yng Ngorllewin Caerfyrddin.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:
|