Agenda a Chofnodion

Cyllideb ddraft, Cabinet - Dydd Llun, 18fed Ionawr, 2021 10.00 yb

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin S. Davies  01267 224059

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

3.

COFNODION - 21AIN RHAGFYR 2020 pdf eicon PDF 352 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 21 Rhagfyr 2020 yn gofnod cywir.

 

4.

CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN YR AELODAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau.

 

5.

CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

6.

DARPARU GWASANAETHAU BWYD A BWYD ANIFEILIAID 2020-2021 pdf eicon PDF 505 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad yn manylu ar gynllun arfaethedig ar gyfer gwaith rheoli bwyd a bwyd anifeiliaid ymgynghorol/swyddogol yn seiliedig ar ganllawiau'r Asiantaeth Safonau Bwyd hyd at 31 Mawrth 2021. O ganlyniad i COVID-19 roedd swyddogion o'r adain Diogelwch Bwyd ac Iechyd, a fyddai fel arfer yn gweithredu'r rheolaethau bwyd a bwyd anifeiliaid swyddogol (archwiliadau), wedi bod ynghlwm â’r gwaith o weithredu deddfwriaeth berthnasol COVID dros y chwe mis diwethaf. Roeddent hefyd wedi cael eu symud/secondio i'r Tîm Atal a Rheoli Heintiau. Fodd bynnag roedd y tîm Bwyd, Diogelwch ac Iechyd bellach mewn sefyllfa lle gellir adfer a gweithredu rheolaethau ymgynghorol/swyddogol ar gyfer bwyd a bwyd anifeiliaid. Roedd yr Asiantaeth Safonau Bwyd wedi darparu canllawiau yn ddiweddar ar gyfer darparu rheolaethau bwyd swyddogol yng nghyd-destun yr ymateb parhaus i'r pandemig COVID-19.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL i gymeradwyo'r cynigion ar gyfer rheolaethau ymgynghorol/swyddogol mewn busnesau bwyd a bwyd anifeiliaid hyd at 31 Mawrth 2021.

 

7.

CYNLLUN DIGARTREFEDD TROSIANNOL pdf eicon PDF 407 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am effaith barhaus COVID-19 ar y ddarpariaeth o ran digartrefedd, yn enwedig o ran pobl sengl, cais i Lywodraeth Cymru am gyllid i helpu i ddatblygu cynlluniau i fynd i'r afael â’r galw ychwanegol a chynlluniau i ailgartrefu a chefnogi pobl sengl sy'n ddigartref yn enwedig dros y 12 mis nesaf ac yn y dyfodol. Roedd Llywodraeth Cymru wedi cytuno i barhau i ariannu darpariaeth gwely a brecwast ychwanegol o'r Ddarpariaeth Frys ar gyfer Digartrefedd. Byddai hyn yn cyfateb i tua £350,000 erbyn diwedd mis Mawrth 2021.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

7.1 nodi effaith barhaus Covid-19 ar y ddarpariaeth o ran digartrefedd;

7.2 nodi canlyniad y cais i Lywodraeth Cymru am gymorth ychwanegol a'r cynnydd a wnaed o ran cynlluniau digartrefedd yr Awdurdod;

7.3 cymeradwyo amrywio'r Polisi Mynediad i Dai Cymdeithasol i gynnal ymarferiad peilot i helpu i ailgartrefu pobl sengl sy'n ddigartref mewn tai o blith stoc y Cyngor gan gynnwys:

·   Defnyddio 6 fflat gwag dwy ystafell wely ar y llawr uchaf ar gyfer pobl sengl; a

· Defnyddio 3 t? gwag lle rhoddir cyfle i ddau berson sengl rannu tenantiaeth;

7.4 bod astudiaeth yn cael ei chynnal gyda'r nod o brynu llety yn y sector preifat sy’n addas i berson sengl fel rhan o gynlluniau cyffredinol yr Awdurdod i gynyddu nifer y stoc.

 

8.

STRATEGAETH CYLLIDEB REFENIW 2021/2022 I 2023/24 pdf eicon PDF 266 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi golwg gyffredinol ar y Strategaeth Cyllideb Refeniw ar gyfer 2021/22 a'r ddwy flynedd ariannol ganlynol. Roedd yr adroddiad yn rhoi manylion am broses y gyllideb, crynodeb o setliad presennol dros dro Llywodraeth Cymru ac amserlen y setliad terfynol ac yn clustnodi'r gwasgfeydd dilysu a'r gwasgfeydd cyllidebol y byddai'n rhaid i'r Aelodau roi sylw iddynt wrth bennu cyllideb refeniw'r flwyddyn nesaf. Byddai'r adroddiad yn sail i'r broses ymgynghori ar y gyllideb a fyddai'n cael ei chynnal yn ystod Ionawr a Chwefror 2021.

 

Nododd yr adroddiad, ar ôl yr addasiadau ar gyfer trosglwyddiadau a nodwyd gan Lywodraeth Cymru, fod y cynnydd yn y setliad dros dro ar gyfer Sir Gaerfyrddin yn 3.8% (£10.466 miliwn). Felly, roedd y Cyllid Allanol Cyfun wedi cynyddu i £284.820 miliwn yn 2021/22 a oedd yn cynnwys £244k mewn perthynas â chyflog athrawon.

 

Er bod llawer o waith eisoes wedi'i wneud wrth baratoi'r gyllideb, nodwyd mai dim ond datganiad sefyllfa cychwynnol oedd yr adroddiad hwn a fyddai'n cael ei ddiweddaru dros y misoedd i ddod wrth i'r gyllideb gael ei datblygu ymhellach, wrth ymgysylltu ag aelodau'r cyngor, cynnal ymgynghoriad cyhoeddus a derbyn y setliad terfynol gan Lywodraeth Cymru ar 2 Mawrth 2021.

 

Diolchodd yr Arweinydd i holl staff y Cyngor am eu hymroddiad a'u gwaith caled yn cynnal gofal a chymorth i gymunedau Sir Gaerfyrddin yn ystod y pandemig Covid presennol. Ychwanegodd, er ei fod yn cydnabod y rhesymau, o ran doethineb a chyfrifoldeb cyllidol, pam fod swyddogion yn argymell 4.89% ar gyfer y Dreth Gyngor yn yr adroddiad, rhoddodd gynnig gerbron, sef wrth ystyried yr amgylchiadau sy'n gysylltiedig â Covid 19 a'i effaith ar gynifer o bobl yn y sir, y dylid gostwng y Dreth Gyngor i 4.48%. Eiliwyd y Cynnig.

 

Eglurwyd gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol y byddai'r gostyngiad arfaethedig o 4.48% yn y Dreth Gyngor yn cael ei ystyried fel rhan o'r broses o gwblhau'r gyllideb dros y mis nesaf ar y cyd â'r adborth o'r ymgynghoriad. Byddai'r cynigion a'r opsiynau terfynol ynghylch y gyllideb yn cael eu cyflwyno i'r Bwrdd Gweithredol ddiwedd mis Chwefror, gan felly sicrhau bod cyllideb gytbwys yn cael ei chyflwyno i'r Cyngor Sir.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod cynnwys yr adroddiad yn cael ei nodi ac, yn amodol ar ostwng y Dreth Gyngor i 4.48% [yn hytrach na 4.89% fel y nodwyd yn yr adroddiad], bod strategaeth y gyllideb 2021/22 hyd at 2023/24 yn cael ei chymeradwyo fel sylfaen i ymgynghori, a bod ymgais benodol yn cael ei gwneud i gael sylwadau gan ymgyngoreion ynghylch y cynigion effeithlonrwydd y manylwyd arnynt yn Atodiad A i'r adroddiad.

 

9.

RHAGLEN GYFALAF PUM MLYNEDD (CRONFA'R CYNGOR) - 2021/22 - 2025/26 pdf eicon PDF 453 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a oedd yn manylu ar y cynigion diweddaraf ar gyfer y Rhaglen Gyfalaf Bum Mlynedd (Cronfa'r Cyngor) 22021/22 hyd at 2025/2026, a fyddai'n sail i'r broses ymgynghori ynghylch y gyllideb gyda'r aelodau a phartïon perthnasol eraill. Byddai adborth o'r broses ymgynghori hon, ynghyd ag unrhyw ddiweddariadau ar ffigurau'r setliad a cheisiadau am grant, yn llywio adroddiad terfynol cyllideb y Rhaglen Gyfalaf a fyddai'n cael ei chyflwyno i'r Bwrdd Gweithredol ym mis Chwefror 2021 a'r Cyngor Sir ym mis Mawrth 2021.

 

Nodwyd mai £127.1m oedd gwariant gros arfaethedig y rhaglen gyfalaf am 2021/22. Y bwriad oedd i'r Cyngor Sir gyllido £63.854m o'r rhaglen drwy ddefnyddio benthyciadau, derbyniadau cyfalaf, arian wrth gefn a'r grant cyfalaf cyffredinol a bod y £63.239m oedd yn weddill yn dod o ffynonellau allanol. Roedd y ffigurau hyn yn cynnwys prosiectau a gafodd eu gohirio yn 2020/21, yn bennaf oherwydd cyfyngiadau Covid-19, a oedd wedi cael eu trosglwyddo a'u cynnwys yng nghyllidebau'r blynyddoedd i ddod.

Rhagwelwyd y byddai'r rhaglen gyfalaf yn cael ei hariannu'n llawn dros y pum mlynedd. Roedd yn cynnwys gwariant disgwyliedig ar brosiectau Bargen Ddinesig Dinas-ranbarth Bae Abertawey byddai'r awdurdod yn benthyca yn eu herbyn, gyda'r cyllid yn cael ei ddychwelyd gan lywodraethau Cymru a'r DU dros gyfnod o 15 mlynedd (o 2018/19).

 

Er y mynegwyd siom ynghylch y cynnig i leihau cyllid y Cyngor ar gyfer Llwybr Dyffryn Tywi oherwydd anawsterau yn sicrhau cyllid allanol, rhoddodd yr Arweinydd sicrwydd bod yr Awdurdod yn parhau’n gwbl ymrwymedig i'r prosiect, yn enwedig o ran teithio diogel, ac y byddai'n parhau i gyflwyno'r achos i Lywodraeth Cymru am gymorth.

 

PENDERFYNWYD yn UNFRYDOL i gymeradwyo'r adroddiad fel rhaglen gyfalaf dros dro at ddibenion ymgynghori, gan gynnwys ystyriaeth gan y Pwyllgor Craffu Polisi ac Adnoddau yn ei gyfarfod ar 3 Chwefror.

 

10.

UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL, 1972

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw eitemau eraill o fater brys.