Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd L.M. Stephens.

 

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

 

3.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y BWRDD GWEITHREDOL A GYNHALWYD AR Y 6 RHAGFYR 2021 pdf eicon PDF 234 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 6 Rhagfyr 2021 yn gofnod cywir.

 

4.

CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN YR AELODAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau.

 

 

5.

CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

6.

ADRODDIAD CHWARTEROL YNGYLCH RHEOLI'R TRYSORLYS A DANGOSYDD DARBODAETH- EBRILL 1AF 2021 I MEDI 30AIN 2021 pdf eicon PDF 215 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad diweddaru ar weithgareddau rheoli'r trysorlys a'r dangosyddion darbodus ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2021 a 30 Medi 2021. 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR ei fod yn derbyn Adroddiad Canol Blwyddyn ynghylch Dangosyddion Darbodaeth a Rheoli'r Trysorlys am y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2021 a 30 Medi 2021.

 

 

7.

SYLFAEN TRETH Y CYNGOR - 2022-23 pdf eicon PDF 319 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cabinet yn ystyried yr adroddiad ar Sylfaen y Dreth Gyngor 2022-23.  Atgoffwyd Aelodau'r Cabinet ei bod yn ofynnol i'r Cyngor benderfynu, yn flynyddol, ar Sylfaen y Dreth Gyngor a Sylfaen y Dreth Gyngor ar gyfer pob cymuned yn ei ardal, at ddibenion cyfrifo lefel y Dreth Gyngor am y flwyddyn ariannol oedd i ddod a bod y gwaith cyfrifo blynyddol wedi cael ei ddirprwyo i'r Cabinet, o dan ddarpariaethau Adran 84 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 a Rheoliadau Trefniadau Gweithrediaeth Awdurdodau Lleol (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Diwygio) (Cymru) 2004.

 

Roedd cyfrifiad Sylfaen y Dreth Gyngor ar gyfer y Cyngor Sir am 2022-23 wedi'i nodi yn Nhabl 1a ac wedi'i grynhoi yn Nhabl 1b, a oedd wedi'u hatodi i'r adroddiad.  Roedd y cyfrifiad yng nghyswllt Cynghorau Tref a Chymuned unigol ar gyfer 2022-23 wedi'i grynhoi yn Nhabl 2 a'r manylion yn Atodiad A, a oedd hefyd wedi'u hatodi i'r adroddiad.

 

Nododd Aelodau'r Cabinet fod adroddiad y Sylfaen Dreth yn darparu cyfrifiadau ar gyfer yr Awdurdod cyfan, yn ogystal â manylion ar gyfer pob ardal cyngor tref a chyngor cymuned at ddibenion eu praesept, ac mai Sylfaen y Dreth Gyngor ar gyfer blwyddyn ariannol 2022-2023 oedd £74,698.57.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

7.1. bod y cyfrifiadau o ran pennu Sylfaen y Dreth Gyngor ar gyfer blwyddyn ariannol 2022-23, fel y manylwyd arnynt yn Atodiad A o'r adroddiad, yn cael eu cymeradwyo;

 

7.2. bod Sylfaen y Dreth Gyngor o £74,698.57, fel y manylwyd arni yn Nhablau 1a ac 1b o'r adroddiad, yn cael ei chymeradwyo yng nghyswllt ardal y Cyngor Sir;

 

7.3.  bod y sylfeini treth perthnasol yng nghyswllt y Cynghorau Cymuned a Thref unigol, fel y manylwyd arnynt yn nhabl 2 o'r adroddiad, yn cael eu cadarnhau.

 

 

8.

FORWM DERBYNIADAU SIR GAERFYRDDIN - AELODAETH pdf eicon PDF 380 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Derbyniodd y Cabinet adroddiad am aelodaeth Fforwm Derbyn Sir Gaerfyrddin a oedd yn egluro, yn unol â pholisi penodi'r Awdurdod Lleol ar gyfer y Fforwm Derbyniadau Addysg, ei bod yn ofynnol adolygu aelodau craidd ac aelodau ysgolion y Fforwm bob 4 blynedd a bod yr adolygiad llawn diwethaf o'r aelodaeth wedi'i gynnal yn hydref 2017.

 

Nodwyd y byddai adnewyddu aelodaeth fel arfer yn digwydd ar y cyd ag etholiadau aelodau'r Cyngor Sir, ond oherwydd etholiadau Llywodraeth Cymru yn 2021, gohiriwyd etholiadau'r cynghorau lleol am flwyddyn tan 2022.   Felly, er mwyn cydymffurfio â Chôd Derbyn Llywodraeth Cymru, roedd angen ailethol yr aelodau craidd ar gyfer y cyfnod rhwng mis Tachwedd 2021 a'r Etholiadau Llywodraeth Leol ym mis Mai 2022. Nododd Aelodau'r Cabinet fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn cadarnhad bod ailbenodi aelodau presennol yn dderbyniol.

 

Roedd yr adroddiad yn cynnig y dylid ailethol yr holl aelodau etholedig craidd presennol ar gyfer y cyfnod rhwng mis Tachwedd 2021 a mis Mai 2022. Cafodd y dull hwn ei gefnogi gan Fforwm Derbyn Sir Gaerfyrddin yn ei gyfarfod ar 25 Tachwedd 2021.

 

Byddai adolygiad llawn o aelodau'r Fforwm yn cael ei gynnal yn dilyn etholiadau'r Cyngor Sir ym mis Mai 2022 a phob 4 blynedd ar ôl hynny.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL y dylid ailbenodi'r cynrychiolwyr etholedig presennol ar y Panel, fel y nodir yn yr adroddiad, i'r Fforwm Derbyn hyd at 9 Mai 2022.

 

 

9.

RHYBUDD GYNNIG A GYFEIRIWYD GAN Y CYNGOR (15 MEDI 2021) - CAMERÂU ACWSTIG pdf eicon PDF 309 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd Aelodau'r Cabinet adroddiad a oedd yn manylu ar Rybudd o Gynnig ynghylch camerâu acwstig, a gyfeiriwyd at y Cabinet gan y Cyngor ar 15 Medi 2021.

 

Adroddwyd bod ymchwil i'r defnydd o gamerâu acwstig gan awdurdodau lleol eraill wedi digwydd ers mis Medi 2021 gyda'r bwriad o ddeall sut y gellid cyflwyno'r rhain yn Sir Gaerfyrddin.  Roedd yr ymchwil yn datgelu fod dwy her sylweddol ar y cyfan o ran adnoddau a chwmpas.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau Cabinet nad oedd camerâu acwstig symudol wedi'u datblygu eto a bod yn rhaid eu gosod â gwifrau sefydlog ar bostyn lamp. Gallai symud camerâu acwstig wedi'u gosod â gwifrau sefydlog i ardaloedd penodol lle ceir cwynion ddefnyddio llawer o adnoddau a gallai fod yn gostus. Yn ogystal, nododd Aelodau'r Cabinet y byddai prynu a gosod pedwar camera acwstig ar draws y Sir yn costio tua £110,000+ i'r Cyngor gyda chost ychwanegol sylweddol am adnoddau i'w cynnal.  Barnwyd bod y gost hon yn ffordd ariannol anghymesur o ddelio â'r mater.

 

Hefyd, rhoddwyd gwybod mai dim ond 5% o gwynion y Cyngor a briodolwyd i s?n cerbydau ar hyn o bryd a bod pob cwyn yn cael ei hymchwilio yn unol â hynny, gan geisio datrysiad lleol.

 

Wrth gydnabod bod s?n cerbydau uchel yn fater a effeithiodd ar rai trigolion, cytunodd yr Aelodau mai'r dull mwyaf cost-effeithiol o reoli hyn ar hyn o bryd fyddai parhau i ffafrio'r dull lleol, drwy barhau â'r dull rhagweithiol presennol a chysylltu â Heddlu Dyfed-Powys yn ôl yr angen.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

9.1 derbyn y Rhybudd o Gynnig ynghylch Camerâu Acwstig a gyfeiriwyd gan y Cyngor ar 15 Medi 2021;

 

9.2 parhau i fonitro'r dull rhagweithiol presennol a nifer y cwynion a dderbynnir ar y mater hwn.

 

9.3 cyflwyno adroddiad i'r Cabinet mewn 12 mis os bydd cynnydd amlwg mewn cwynion ac unrhyw newidiadau sylweddol o ran datblygiadau technolegol.

 

 

10.

RHYBUDD GYNNIG A GYFEIRIWYD GAN Y CYNGOR (8 RHAGFYR 2021) SYSTEM ALWADAU 101 pdf eicon PDF 392 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd Aelodau'r Cabinet adroddiad a oedd yn manylu ar Rybudd o Gynnig ynghylch y system alwadau 101, a gyfeiriwyd at y Cabinet gan y Cyngor ar 8 Rhagfyr 2021. Rhoddwyd gwybod i Aelodau'r Cabinet fod Heddlu Dyfed-Powys yn ceisio caffael System Rheoli Cyfathrebu Integredig a Datrysiad Rheoli Cysylltiadau ar hyn o bryd a oedd yn cynnwys y llwyfan teleffoni ar gyfer Ystafell Reoli'r Heddlu yn y Pencadlys yng Nghaerfyrddin.

 

  Cyn bo hir, byddai Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys yn cael tendrau gan sefydliadau profiadol sydd â chymwysterau addas ar gyfer cyflenwi, gweithredu, cefnogi a chynnal Datrysiad Rheoli Cysylltiadau. 

 

Wrth ystyried bod Heddlu Dyfed-Powys wedi ymrwymo i gaffael System Rheoli Cyfathrebu Integredig newydd a Datrysiad Rheoli Cysylltiadau, cynigiwyd bod y Cabinet yn ysgrifennu llythyr at y Prif Gwnstabl i gydnabod ac annog ei fwriad i wella'r system alwadau 101 bresennol.  Eiliwyd y Cynnig.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y Cabinet yn ysgrifennu llythyr at Brif Gwnstabl Heddlu Dyfed-Powys i gydnabod ac annog gosod datrysiad newydd fel gwelliant ar y system alwadau 101 bresennol.

 

 

11.

UNRHYW FATER ARALL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw eitemau eraill o fater brys.

 

12.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R MATER CANLYNOL GAN EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y BWRDD, AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.

 

 

13.

CAFFAELIADAU STRATEGOL CREU LLEOEDD TRAWSNEWID TREFI

Cofnodion:

Yn sgil cynnal prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 12 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad am ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).

 

Yr oedd y prawf budd y cyhoedd o ran y mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth fanwl am faterion busnes ac ariannol penodol. Yn yr achos hwn, yr oedd y budd i'r cyhoedd o ran cynnal yr eithriad uchod o dan Ddeddf 1972 mewn perthynas â'r adroddiad hwn, yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth a geir ynddo, gan y gallai datgelu'r wybodaeth danseilio'r Cyngor mewn trafodaethau dilynol ac effeithio'n andwyol ar y pwrs cyhoeddus.

 

Ystyriodd Aelodau'r Cabinet adroddiad a oedd yn rhoi gwybodaeth am gaffaeliadau strategol eiddo gan ddefnyddio'r cyllid Creu Lleoedd Trawsnewid Trefi.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

13.1 y dylid cymeradwyo caffael eiddo gan ddefnyddio cyllid Creu Lleoedd Trawsnewid Trefi

 

13.2  dirprwyo awdurdod i'r Pennaeth Adfywio a Phennaeth Gweinyddiaeth a'r Gyfraith, mewn ymgynghoriad ag Aelodau'r Cabinet sy'n gyfrifol am Adfywio ac Adnoddau, i gwblhau'r caffaeliadau arfaethedig;

 

13.2 Dirprwyo awdurdod i'r Pennaeth Adfywio, mewn ymgynghoriad â'r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol ac Aelodau'r Cabinet dros Adfywio ac Adnoddau, gaffael eiddo arall o natur strategol a fyddai'n ychwanegu gwerth at gynigion adfywio canol tref y Cyngor, rhag ofn na ellir prynu'r eiddo a nodir yn yr adroddiad hwn (Tabl 13.2) ac er mwyn sicrhau'r gwariant grant mwyaf posibl.

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau