Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Martin S. Davies 01267 224059
Rhif | eitem | ||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd L.M. Stephens.
|
|||||||
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
|
|||||||
COFNODION - 22AIN TACHWEDD 2021 PDF 309 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 22 Tachwedd 2021 yn gywir.
|
|||||||
CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN YR AELODAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau.
|
|||||||
CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd. |
|||||||
LLAWLYFR CYNNAL A CHADW'R CYNLLUN RHEOLI ASEDAU PRIFFYRDD PDF 406 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Cabinet yn ystyried mabwysiadu Llawlyfr Cynnal a Chadw Priffyrdd i gefnogi'r Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd a gafodd ei fabwysiadu yn 2018. Byddai'r Llawlyfr Cynnal a Chadw yn ffurfio Rhan 4 o'r Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd ac mae'n cael ei ddatblygu fel portffolio o lawlyfrau penodol sy'n ymdrin â rheoli ystod o gategorïau o asedau priffyrdd. Mae'r pedair adran gyntaf o'r Llawlyfr a gyflwynir ar hyn o bryd yn cynnwys:
· Rhan 4.1 Rheoli Cynnal a Chadw Priffyrdd; · Rhan 4.2 Hierarchaeth y Rhwydwaith Priffyrdd; ·Rhan 4.3 Trefn Arolygu ac Atgyweirio Priffyrdd; ·Rhan 4.4 Asesu Cyflwr Ffyrdd a Blaenoriaethu Buddsoddi.
Pe bai'n cael ei fabwysiadu byddai'r Llawlyfr yn sicrhau bod y rhwydwaith priffyrdd yn cael ei gynnal yn unol â dyletswyddau statudol, yn cefnogi amcanion corfforaethol ac yn cydymffurfio â'r côd ymarfer cenedlaethol diwygiedig 'Isadeiledd Priffyrdd sy'n cael ei reoli'n dda'. Roedd y llawlyfr diwygiedig yn cyflwyno newidiadau i'r broses arolygu a chynnal a chadw priffyrdd a argymhellir gan Gymdeithas Syrfewyr Sirol Cymru i ddarparu cysondeb ledled Cymru.
Nodwyd bod y Llawlyfr wedi'i gymeradwyo gan y Pwyllgor Craffu Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd ar 25 Tachwedd 2021.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL i fabwysiadu'r Llawlyfr Cynnal a Chadw i gefnogi'r Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd. |
|||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Cabinet yn ystyried Strategaeth Seilwaith Gwefru Cerbydau Trydan arfaethedig ar gyfer y Cyngor. Byddai'r strategaeth yn cefnogi'r gwaith o ddatblygu seilwaith gwefru cerbydau trydan ar draws y sir yn y dyfodol i helpu i gyrraedd y targedau ar gyfer lleihau carbon a dangos ymrwymiad i gyrraedd y targedau carbon sero-net erbyn 2030 a 2050.
Nodwyd bod y strategaeth wedi cael ei chefnogi'n llawn gan y Pwyllgor Craffu - Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd ar 25 Tachwedd 2021.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL y dylid mabwysiadu'r Strategaeth Seilwaith Gwefru Cerbydau Trydan arfaethedigar gyfer y Cyngor.
|
|||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad a oedd yn ailadrodd, yn dilyn ymgynghoriad, y cynnig i newid ystod oedran Ysgol Gynradd Dyffryn y Swistir o 4-11 i 3-11 o 1 Medi 2021.
Roedd y Cabinet [a elwid gynt yn Fwrdd Gweithredol] yn ei gyfarfod ar 21 Rhagfyr 2020 [gweler cofnod 9], wedi cymeradwyo dechrau’r cyfnod ymgynghori ffurfiol. Roedd y cyfnod ymgynghori wedi dechrau ar 11 Ionawr 2021, ac, yn dilyn penderfyniad gan y Cabinet, roedd y Cyfnod Ymgynghori wedi'i ymestyn i 16 Gorffennaf 2021. Derbyniwyd cyfanswm o 36 o ymatebion (ac eithrio'r ymatebion a gafwyd gan Estyn a digwyddiadau ymgynghori â'r disgyblion) mewn ymateb i'r ymgynghoriad ffurfiol fel y nodir yn yr Adroddiad Ymgynghori.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL GYMERADWYO 8.1 ymatebion yr Awdurdod Lleol i'r sylwadau a gafwyd yn ystod y Cyfnod Ymgynghori fel y nodir yn yr Adroddiad Ymgynghori; 8.2 yr addasiad i ddyddiad gweithredu'r cynnig fel y nodir yn yr adroddiad; 8.3 cyhoeddi Hysbysiad Statudol i weithredu'r cynnig.
|
|||||||
RHAGLEN MODERNEIDDIO ADDYSG - CYNNIG I NEWID NATUR Y DARPARIAETH YN YSGOL Y FELIN PDF 428 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad a oedd yn ailadrodd y cynigion, yn dilyn ymgynghoriad, bod natur darpariaeth y Cyfnod Sylfaen yn Ysgol y Felin yn newid i addysg cyfrwng Cymraeg o 1 Medi 2022.
Roedd y Cabinet [a elwid bryd hynny yn Fwrdd Gweithredol] yn ei gyfarfod ar 8 Chwefror 2021 [gweler cofnod 7], wedi cymeradwyo dechrau'r cyfnod ymgynghori ffurfiol. Roedd y cyfnod ymgynghori wedi dechrau ar 22 Chwefror 2021, ac, yn dilyn penderfyniad gan y Cabinet, roedd y Cyfnod Ymgynghori wedi'i ymestyn i 16 Gorffennaf 2021. Derbyniwyd cyfanswm o 40 o ymatebion (ac eithrio'r ymatebion a gafwyd gan Estyn a digwyddiadau ymgynghori â'r disgyblion) mewn ymateb i'r ymgynghoriad ffurfiol fel y nodir yn yr Adroddiad Ymgynghori.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL GYMERADWYO 9.1 ymatebion yr Awdurdod Lleol i'r sylwadau a gafwyd yn ystod y Cyfnod Ymgynghori fel y nodir yn yr Adroddiad Ymgynghori; 9.2 yr addasiad i ddyddiad gweithredu'r cynnig fel y nodir yn yr adroddiad; 9.3 cyhoeddi Hysbysiad Statudol i weithredu'r cynnig.
|
|||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad a oedd yn ailadrodd cynigion, yn dilyn ymgynghoriad, i ad-drefnu ac ailfodelu'r Gwasanaethau Cymorth Ymddygiad yn Ysgol Rhyd-y-gors i wella'r ddarpariaeth ar gyfer plant a phobl ifanc.
Roedd y Cabinet [a elwid gynt yn Fwrdd Gweithredol] yn ei gyfarfod ar 21 Rhagfyr 2020 [gweler cofnod 11], wedi cymeradwyo dechrau'r cyfnod ymgynghori ffurfiol. Roedd y cyfnod ymgynghori wedi dechrau ar 11 Ionawr 2021, ac, yn dilyn penderfyniad gan y Cabinet, roedd y Cyfnod Ymgynghori wedi'i ymestyn i 16 Gorffennaf 2021. Derbyniwyd cyfanswm o 53 o ymatebion (ac eithrio'r ymatebion a gafwyd gan Estyn a digwyddiad ymgynghori â disgyblion) mewn ymateb i'r ymgynghoriad ffurfiol fel y nodir yn yr Adroddiad Ymgynghori.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL GYMERADWYO 10.1 ymatebion yr Awdurdod Lleol i'r sylwadau a gafwyd yn ystod y Cyfnod Ymgynghori fel y nodir yn yr Adroddiad Ymgynghori; 10.2 yr addasiadau i ddyddiadau gweithredu'r cynnig fel y nodir yn yr adroddiad; 10.3 cyhoeddi Hysbysiad Statudol i weithredu'r cynnig.
|
|||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyn ystyried hyn a'r eitem ganlynol [Cynnig i Adolygu Darpariaeth Addysg Gynradd yn ardaloedd Mynyddygarreg a Gwenllian] rhoddodd yr Aelod Cabinet dros Addysg a Phlant, gyda chaniatâd y Cadeirydd, y wybodaeth ddiweddaraf am yr adolygiad presennol o'r Rhaglen Moderneiddio Addysg. Soniodd am yr angen i'r Rhaglen fod yn hyblyg gan ystyried anghenion cymunedau ac effaith ffactorau eraill megis pwysau ar y rhaglen gyfalaf sy'n gysylltiedig â Covid a Brexit. Yn ogystal, roedd dadansoddiad o'r Cylch Derbyn Ysgolion Blynyddol wedi nodi'n glir newidiadau o ran dewis rhieni o ysgolion a allai fod yn gysylltiedig â newidiadau demograffig oherwydd y pandemig gan gynnwys cynnydd yn nifer y bobl sy'n gweithio gartref. Yn unol â hynny, dywedodd wrth y Cabinet ei fod wedi cytuno i ymestyn cyfnod yr adolygiad fel y gellid dadansoddi tueddiadau disgyblion yn fanylach er mwyn sicrhau bod ysgolion newydd yn bodloni gofynion y dyfodol a'u bod yn cefnogi cymunedau yn gymdeithasol ac yn economaidd. Er felly y byddai'r cynlluniau ar gyfer rhai ysgolion megis Heol Goffa, Bryngwyn, Pen-bre, Dewi Sant, Rhydaman a Llandeilo yn parhau, roedd yr Aelod Cabinet dros Addysg a Phlant bellach yn argymell na ddylid bwrw ymlaen â'r cynlluniau i gau ysgolion Blaenau a Mynyddygarreg ar hyn o bryd tra bod y Rhaglen Moderneiddio Addysg yn cael ei adolygu ac ymgynghori pellach yn cael ei roi ar waith.
Yn sgil y datganiad uchod
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL i beidio â chyhoeddi Hysbysiad Statudol i gau Ysgol Gynradd Blaenau ond parhau gyda chynlluniau ar gyfer ysgol newydd yn Llandybie.
|
|||||||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
[NODER: Roedd y Cynghorydd J. Gilasbey wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach. Roedd hi wedi cael caniatâd gan y Pwyllgor Safonau i siarad ar y mater]
Dywedodd y Cadeirydd fod y Cynghorydd J. Gilasbey wedi gofyn am ganiatâd yn unol â Rheol Gweithdrefn y Cyngor 11.1 i ofyn cwestiwn mewn perthynas â'r eitem hon.
Gofynnodd y Cynghorydd Gilasbey i'r Cabinet ystyried unrhyw ddulliau amgen posibl o gadw ysgol Mynyddygarreg ar agor, hyd yn oed pe bai'n rhaid lleihau'r ystod oedran, ond roedd yn annog i'r gwaith ar yr ysgol newydd ar gyfer 200 o ddisgyblion yng Nghydweli ar gyfer Ysgol Gwenllian i ddechrau cyn gynted â phosibl.
Ailadroddodd yr Aelod Cabinet dros Addysg a Phlant ei sylwadau cynharach yn y cyfarfod [gweler Cofnod 11 uchod] ei fod yn ail-edrych ar y sefyllfa o ran y Rhaglen Moderneiddio Addysg ledled y sir ac yn hyn o beth roedd yn argymell na ddylid bwrw ymlaen â'r cynlluniau i gau ysgol Mynyddygarreg ar hyn o bryd ond bod y cynlluniau i adeiladu ysgol newydd yn yr ardal yn parhau.
Yn sgil y datganiad uchod
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL i beidio â chyhoeddi Hysbysiad Statudol i gau Ysgol Gynradd Mynyddygarreg ond i barhau gyda chynlluniau ar gyfer ysgol newydd yn ardal Cydweli.
|
|||||||
UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL, 1972 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw eitemau eraill o fater brys.
|