Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

L.M. Stephens

3. Llofnodi bod cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 8 Tachwedd, 2021 yn gywir

Cofnod rhif 13 – Cynllun Eiddo Gwag - Mae ganddi eiddo preswyl gwag

Mr J. Morgan - Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol

8 – Sefydlu Partneriaeth Addysg Ranbarthol newydd

Mae ei wraig yn gweithio i'r gwasanaeth rhanbarthol

 

3.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y BWRDD GWEITHREDOL A GYNHALWYD AR Y 8FED TACHWEDD pdf eicon PDF 299 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(NODER: Roedd y Cynghorydd L.M. Stephens wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach; ailddatganodd y buddiant hwnnw ac arhosodd yn cyfarfod tra oedd yr adroddiad yn cael ei ystyried)

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 8 Tachwedd, 2021 yn gofnod cywir.

4.

CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN YR AELODAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau.

5.

CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

6.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB REFENIW Y CYNGOR pdf eicon PDF 551 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad monitro'r gyllideb refeniw a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol fel yr oedd ar 31 Awst 2021, o ran 2021/2022. 

 

Yn gyffredinol, roedd yr adroddiad monitro yn rhagweld tanwariant ar gyfer y flwyddyn ar lefel adrannol o £869k gyda thanwariant o £399k ar gyllideb refeniw net yr Awdurdod.  Adroddwyd, ar lefel uchel, fod hyn o ganlyniad i gyfuniad o gostau ychwanegol yn gysylltiedig â COVID-19 ac incwm a gollwyd a gafodd ei ad-dalu i raddau helaeth o dan gynllun caledi Llywodraeth Cymru, roedd rhai gwasanaethau naill ai wedi cael eu hoedi neu effeithiwyd arnynt gan y cyfyngiadau symud a rheolau cadw pellter cymdeithasol yn ystod chwarter 1 ynghyd â'r bwriad i ddefnyddio rhywfaint o danwariant yr arian cyfalaf oherwydd pwysau sylweddol penodol ar gyllidebau prosiectau cyfalaf yn ystod y flwyddyn, a fydd yn cael eu hystyried fel rhan o adroddiadau ar wahân.

 

Nododd Aelodau'r Cabinet, o ran cyllidebau Ebrill-Mehefin, fod cyfanswm o tua £6 miliwn o ran gwariant ychwanegol a cholli incwm wedi'i hawlio o dan gynllun caledi Llywodraeth Cymru.

Roedd y Cyfrif Refeniw Tai yn rhagweld tanwariant o £1,159k ar gyfer 2021/22. Darparwyd

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

10.1    bod adroddiad Monitro'r Gyllideb yn cael ei dderbyn, a bod ystyriaeth yn cael ei roi i'r sefyllfa gyllidebol a'r camau unioni priodol.

10.2    bod y Prif Swyddogion a'r Penaethiaid Gwasanaeth yn adolygu'r opsiynau sydd ar gael iddynt yn feirniadol i gyfyngu ar y gorwariant a ragwelwyd ar gyllidebau, yn ogystal â chydnabod y pwysau y mae Covid-19 wedi'u rhoi ar gyllideb gyffredinol yr Awdurdod

7.

ADFER MYNEDIAD CYHOEDDUS YN GILFACH IAGO pdf eicon PDF 482 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad ar gynigion i'r Cyngor gymryd cyfrifoldeb oddi ar Celtic Energy ac ymgymryd â'r holl waith adfer mynediad cyhoeddus ar draws hen safle glo brig Gilfach Iago.

 

Nododd y Cabinet, er mwyn i'r cynnig gael ei ddatblygu, y byddai angen i'r Awdurdod wneud cais i Lys yr Ynadon am ailddosbarthu tair ffordd ddiddosbarth ar draws y safle blaenorol (nad oedd modd eu defnyddio ar hyn o bryd) i statws llwybr ceffylau, yna gellid eu dargyfeirio yn ôl yr angen 'yn fewnol' gan y tîm Mynediad i Gefn Gwlad er mwyn cyd-fynd yn well â chynllun y tir sydd wedi'i adfer a chysylltu â'r llwybrau troed presennol. Byddai hefyd yn ofynnol i'r awdurdod dderbyn y setliad ariannol a gynigir gan Celtic Energy, sef £320k, a hynny heb ragfarn, i ariannu'r gwaith o adfer mynediad cyhoeddus ar draws y safle. Pe bai'n cael ei dderbyn, ac er y byddai'r setliad a gynigir yn talu cyfran sylweddol o'r costau a ragwelir, byddai angen cyllid ychwanegol o £130k i gyflawni'r prosiect yn llawn, gan gynnwys ceisiadau am grant.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR:-

 

7.1

Gymeradwyo'r cynnig i wneud cais i lys yr Ynadon am ailddosbarthu tair ffordd ddiddosbarth i statws llwybr ceffylau;;

7.2

Derbyn y setliad ariannol a gynigir gan Celtic Energy i gyflawni a chymryd cyfrifoldeb dros yr holl waith adfer mynediad cyhoeddus ar draws yr hen safle glo brig.

 

8.

SEFYDLU PARTNERIAETH ADDYSG RANBARTHOL NEWYDD pdf eicon PDF 318 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(NODER: Roedd Mr J. Morgan - Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol, wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach a gadawodd y cyfarfod tra bo’r eitem yn cael ei hystyried)

 

Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad, ynghyd â chytundeb cyfreithiol drafft, ar y bwriad i sefydlu partneriaeth ranbarthol newydd i ddarparu model newydd o ddarpariaeth addysg ar sail ôl troed De-orllewin Cymru rhwng awdurdodau lleol Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Dinas a Sir Abertawe a hynny o dan yr enw 'Partneriaeth’. 

 

Nodwyd, pe bai'n cael ei gymeradwyo, er y byddai'r bartneriaeth yn disodli'r hen bartneriaeth addysgol a ddarparwyd gan ERW, y byddai Cyd-bwyllgor ERW yn parhau mewn grym er mwyn dirwyn y gwaith i ben a sefydlu'r holl rwymedigaethau sy'n weddill. Bryd hynny, byddai'r holl bartneriaid sy'n weddill yn ERW yn tynnu'n ôl yn dilyn un wythnos o rybudd a byddai ERW yn cael ei ddiddymu, a byddai cytundeb cyfreithiol Cyd-bwyllgor ERW yn cael ei amrywio er mwyn darparu ar gyfer y trefniadau i'w ddirwyn i ben. Fel rhan o'r weithred amrywio honno, cytunwyd y dylid rhannu holl rwymedigaethau ERW sy'n weddill ymhlith y partneriaid presennol a'u cyfrifo ar sail pro rata, gan ystyried a didynnu yn y lle cyntaf unrhyw rwymedigaethau gan gynghorau Castell-nedd Port Talbot a Cheredigion yn unol â chymalau 15.2 a 15.4 o gytundeb ERW.

 

Mynegwyd gwerthfawrogiad i'r holl staff a oedd yn ymwneud â sefydlu Partneriaeth a sefydlu'r cytundeb cyfreithiol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

8.1

Cymeradwyo creu Gr?p Cynghorwyr - Craffu ar y Cyd ar sail y cylch gorchwyl a nodir yn y cytundeb cyfreithiol, fel y'i diwygiwyd o bryd i'w gilydd;

8.2

Cymeradwyo'r cytundeb cyfreithiol drafft (sydd wedi'i atodi yn Atodiad A) i sefydlu cyd-bwyllgor ar gyfer partneriaeth addysg ranbarthol newydd o dan yr enw PARTNERIAETH i gefnogi'r gwaith o ran gwella ysgolion;

8.3

Cymeradwyo penodi'r Arweinydd yn aelod o'r cyd-bwyllgor;

8.4

Dirprwyo i'r Cyd-bwyllgor y swyddogaethau hynny sy'n angenrheidiol i gefnogi'r gwaith o ran gwella ysgolion yn ardal y Cyngor a'r rhanbarth, gan gydnabod a derbyn y bydd y Cyngor a'r awdurdodau lleol eraill yn y rhanbarth yn cadw'r cyfrifoldeb statudol am berfformiad ysgolion, ynghyd â'r cyfrifoldeb dros arfer pwerau statudol, ymyrraeth a threfniadaeth ysgolion yn eu priod ardaloedd;

8.5

Dirprwyo awdurdod i'r Cyfarwyddwr Addysg ar y cyd â'r Arweinydd, yr Aelod Cabinet dros Addysg a Gwasanaethau Plant a Phennaeth Gweinyddiaeth a'r Gyfraith i wneud unrhyw welliannau angenrheidiol pellach i'r cytundeb cyfreithiol a rhoi awdurdod i'r Prif Swyddog Cyfreithiol i ymrwymo i'r cytundeb ar ran y Cyngor ynghyd ag unrhyw ddogfennau cyfreithiol ategol sy'n angenrheidiol i hwyluso'r gwaith o greu a gweithredu'r bartneriaeth newydd;

8.6

Cymeradwyo bod Partneriaeth yn darparu gwasanaethau i gynghorau nad ydynt yn bartïon i'r cytundeb cyfreithiol, sef Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Sir Ceredigion a Chyngor Sir Powys yn unol â chymal 14 y cytundeb cyfreithiol gydag awdurdod yn cael ei ddirprwyo i Gyd-bwyllgor Partneriaeth i gytuno ar y telerau y bydd gwasanaethau o'r fath yn cael eu darparu;

8.7

Cymeradwyo creu Gr?p Cynghorwyr - Craffu  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 8.

9.

NODI BOD GR?P Y BLAID LAFUR WEDI ENWEBU'R CYNGHORYDD ROB JAMES YN LLE'R CYNGHORYDD BILL THOMAS AR Y PANEL RHIANTA CORFFORAETHOL A DIOGELU A'R PANEL GWELLA YSGOLION

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi enwebiad y Gr?p Llafur bod y Cynghorydd Rob James yn cymryd lle'r Cynghorydd Bill Thomas ar y Panel Rhianta Corfforaethol a Diogelu a'r Panel Gwella Ysgolion.

10.

UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL, 1972.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw eitemau eraill o fater brys.

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau