Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Emma Bryer  01267 224029

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Mynegodd aelodau'r Cabinet eu cydymdeimlad diffuant â'r Cynghorydd J. Tremlett yn dilyn colli ei mab a'i g?r. Fel arwydd o barch nododd y Cabinet munud o dawelwch er cof am Ben a George Tremlett.

 

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr C.A. Davies a J. Tremlett.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

L.M. Stephens

13 - Cynllun Gweithredu ynghylch Eiddo Gwag

Mae ganddi eiddo preswyl gwag.

 

 

3.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y BWRDD GWEITHREDOL A GYNHALWYD AR Y 25AIN HYDREF, 2021 pdf eicon PDF 388 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 25 Hydref 2021, gan eu bod yn gywir.

 

4.

CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN YR AELODAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau.

 

5.

CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD

Dogfennau ychwanegol:

5.1

CWESTIWN GAN MS SUE WOODWARD I'R CYNGHORYDD GLYNOG DAVIES, AELOD CABINET - ADDYSG A PHLANT

A all y Cabinet nawr roi sicrwydd i Ysgol Mynyddygarreg ar gyfer ein dyfodol gan y gallwch ddychmygu pa mor anodd fu'r cyfnod hwn gyda'r ansicrwydd ychwanegol ar gyfer ein dyfodol. Rydym yn bartneriaid parod i weithio gyda'r Cyngor a chydag Ysgol Gwenllian mewn ffederasiwnllac’ i ddarparu addysg Gymraeg ragorol i blant y pentref wedi'i gwreiddio yn eu cymuned. A wnewch chi roi'r cyfle hwn inni?

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

A all y Cabinet nawr roi sicrwydd i Ysgol Mynyddygarreg o ran ein dyfodol oherwydd rwy'n si?r y gallwch ddychmygu pa mor anodd y bu'r cyfnod hwn gyda'r ansicrwydd ychwanegol ynghylch ein dyfodol. Rydym yn bartneriaid sy'n barod i weithio gyda'r Cyngor ac Ysgol Gwenllian mewn ffederasiwn llac i ddarparu addysg Gymraeg ragorol i blant y pentref yng nghanol  eu cymuned. A wnewch chi roi'r cyfle hwn inni?

 

Ymateb y Cynghorydd Glynog Davies, yr Aelod Cabinet dros Addysg a Phlant:-

 

“Yn gyntaf, Ms Woodward, hoffwn ddiolch i chi am y cwestiwn a hefyd am eich pryderon fel Cadeirydd y Llywodraethwyr ynghylch dyfodol Ysgol Mynyddygarreg.  Fel mae'n digwydd roedd ein cyfarfod diwethaf hefyd ar Zoom pan gefais wahoddiad i gwrdd â chi a dirprwyaeth o'r ysgol. Rwyf am yn awr ddiolch i chi'n gyhoeddus am drefnu'r cyfarfod penodol hwnnw.  Yr wyf fi, fel fy nghyd-aelodau ar y Cabinet, ac yn wir ein swyddogion yn gwbl ymwybodol o'r pwysau yr ydych yn sôn amdano, y pwysau y mae'n hysgolion wedi’i wynebu ers mis Mawrth 2020.  Mae'r misoedd ers hynny wedi bod yn anodd iawn. Mae'r galwadau ar staff yr ysgol a'r holl rieni wedi bod yn aruthrol, yn anfesuradwy.  Mae eich cwestiwn yn cyfeirio at y cyfnod anodd hwn.  Yn wir, oherwydd yr amgylchiadau ym mhob un o'n hysgolion fel yr ydych yn gallu gwerthfawrogi, roeddem fel adran ac fel Gweinyddiaeth wedi gwneud ein gorau glas i sicrhau diogelwch – roedd hynny mor, mor bwysig i ni – diogelwch poblogaeth gyfan yr ysgol, yn ddysgwyr a staff.  Mae'r cyfnod digynsail hwn yn golygu bod llawer o'n cynlluniau wedi'u gohirio.  Fodd bynnag, rydych yn cyfeirio at y cyfyng-gyngor ychwanegol ym Mynyddygarreg gyda'r ansicrwydd ynghylch eich dyfodol.  Nid yw'r penderfyniad ynghylch a ddylid bwrw ymlaen â'r broses statudol sy'n ystyried dyfodol hirdymor Ysgol Mynyddygarreg neu unrhyw ysgol arall yn y Sir yn un y mae'r Cabinet yn ei gymryd ar chwarae bach. Yr wyf fi, fel yr Aelod Cabinet dros Addysg, a'm cyd-aelodau yn cymryd y penderfyniad fel hyn yn ddifrifol iawn.   Rydym wedi derbyn llawer o ymatebion i'r ymgynghoriadau gan gynnwys cyflwyno Achosion Busnes gydag opsiynau amgen.  Diolch yn ddiffuant i bawb sydd wedi manteisio ar y cyfle i gyflwyno'r safbwyntiau hynny i ni.  Mae'r ymatebion niferus a gafwyd wedi creu llawer o drafodaeth rhwng Aelodau'r Cabinet ar y cynigion presennol a hefyd y Rhaglen Moderneiddio Addysg ehangach y cyfeirir ati'n aml fel yr MEP (yn Saesneg).  Gallaf eich sicrhau, Ms Woodward y bu llawer o drafodaethau dwys a chyn diwedd y flwyddyn galendr hon, rhagwelir y cawn gyfle i drafod y mater hwn ymhellach a phenderfynu a fydd y cynigion presennol yn symud ymlaen i'r cam nesaf.  A allaf ychwanegu, Ms Woodward, ei bod yn galonogol darllen eich bod yn bartneriaid parod i weithio gyda'r Cyngor ac Ysgol Gwenllian.  Diolch yn fawr iawn i chi am eich cwestiwn.”

 

6.

POLISI CYFLOGAETH FOESEGOL MEWN CADWYNI CYFLENWI A CHAETHWASIAETH FODERN, DATGANIAD CYFLOGAETH FOESEGOL MEWN CADWYNI CYFLENWI pdf eicon PDF 437 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cabinet yn ystyried y Polisi Cyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi a Datganiad Caethwasiaeth Fodern, Cyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi.

 

Cysylltodd Llywodraeth Cymru â phob Awdurdod Lleol ledled Cymru ar 9 Chwefror 2018, yn gofyn i'r Cyngor fabwysiadu'r Côd Ymarfer – Cyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi. Ym mis Mehefin 2018 ymrwymodd Cyngor Sir Caerfyrddin yn ffurfiol i ymuno â'r Côd a lluniwyd cynllun gweithredu gan yr Uned Caffael Corfforaethol a chydweithwyr ym maes Polisi ac Adnoddau Dynol i fwrw ymlaen â hyn. Fel rhan o'r ymrwymiad, roedd yn ofynnol i'r Awdurdod lunio polisi ysgrifenedig ar gyflogaeth foesegol o fewn yr Awdurdod a'i gadwyni cyflenwi.

 

Nodwyd bod Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) yn destun ymgynghoriad a ddaeth i ben ar 23 Ebrill 2021. Roedd y Bil arfaethedig hwn yn ceisio sicrhau bod Gwaith Teg yn cael ei gyflawni drwy Gaffael a gosod dyletswyddau ar awdurdodau contractio i archwilio opsiynau ar gyfer cyflawni gwaith teg. Y cynnig oedd edrych ar gynnwys cwestiynau ynghylch arferion gwaith teg a chyflog byw, gan gynnwys diwydrwydd dyladwy ar gadwyni cyflenwi tramor, llais a chynrychiolaeth y gweithwyr – cydnabyddiaeth gan undebau, mynediad i weithwyr, bargeinio ar y cyd; Diogelwch a hyblygrwydd; Cyfleoedd i gael mynediad at dwf a dilyniant; Amgylchedd gwaith diogel, iach a chynhwysol; Cefnogaeth i hawliau cyfreithiol a'u bod yn cael effaith sylweddol a chydraddoldeb ac amrywiaeth. Roedd y Bil hwn yn rhoi dyletswyddau ar awdurdodau contractio ar y cylch caffael yn ei gyfanrwydd, nid dim ond y camau "hysbyseb i ddyfarnu".

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL GYMERADWYO:

6.1      y Polisi Cyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi;

6.2.      Datganiad Caethwasiaeth Fodern, Cyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi blynyddol y Cyngor

 

7.

POLISI BRECHU pdf eicon PDF 290 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cabinet yn ystyried polisi brechu newydd yr Awdurdod ar gyfer ei staff.

 

Roedd rôl Cyngor Sir Caerfyrddin o ran helpu i gyflwyno'r rhaglen frechu wedi'i goruchwylio gan Gr?p Tactegol Brechu, a chafodd y Gr?p hwn y dasg o ddatblygu Polisi brechu ar gyfer yr Awdurdod a oedd yn nodi'n glir ymagwedd yr Awdurdod at frechu a'r materion ategol o ran y gweithlu a oedd yn gysylltiedig.

 

Datblygwyd y polisi i adlewyrchu'r newidiadau yn y canllawiau a'r rheoliadau a ddaeth gan Lywodraeth Cymru.  Trefnwyd y Polisi yn wreiddiol i'w drafod yn gynharach yn y flwyddyn ond cafodd ei ddal yn ôl wrth aros am gyngor / canllawiau cenedlaethol yn ymwneud â brechu gorfodol. Hyd yma ni wnaed penderfyniad ar y mater hwn, ac felly roedd y polisi'n annog yr holl staff yn gryf i fanteisio ar y cynnig.  Byddai'r polisi'n cael ei adolygu pan fyddai canllawiau newydd yn dod i law.

 

Trafodwyd a chytunwyd i ymestyn y polisi am 6 mis.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod yr adroddiad yn cael ei dderbyn a'i gyfeirio at y Cyngor i gael ei gymeradwyo.

 

8.

DEFNYDDIO DIWRNODAU PRESENNOL PARCIO AM DDIM AR GYFER MIS RHAGFYR 2021 pdf eicon PDF 395 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad ynghylch ymestyn parcio am ddim ym mis Rhagfyr yn ystod 2021 yn unig.

 

Roedd pandemig COVID wedi amharu ar ganol ein trefi wrth orfod gwneud addasiadau i fywyd bob dydd i gadw pobl yn ddiogel. Er bod y canol trefi'n dechrau adfer, roedd yr amhariad a fu ers mis Mawrth 2020 wedi parhau i gyfyngu ar y cyfleoedd i ganol trefi ddefnyddio llawer o'r diwrnodau parcio am ddim y mae'r Cyngor yn eu darparu i gefnogi digwyddiadau yng nghanol trefi ledled y Sir.

 

Roedd polisi cyfredol y Cyngor yn cynnig pum diwrnod parcio am ddim bob blwyddyn i gefnogi canol trefi. Ar hyn o bryd, nid yw'r polisi'n cynnwys cyfnod masnachu mis Rhagfyr. Roedd rhai canol trefi wedi cysylltu â'r Cyngor i ofyn am gael cynnwys mis Rhagfyr yn y cynnig eleni oherwydd yr amgylchiadau eithriadol a achoswyd gan bandemig COVID19.  Roedd y Cyngor wedi cefnogi canol trefi gyda pharcio am ddim o fis Mawrth i fis Medi eleni a pharhad y cynlluniau peilot i barcio am ddim sydd ar waith ym mhob tref. Byddai'r cais diweddaraf yn helpu i ddarparu cymorth pellach ar yr adeg anodd hon.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL i gymeradwyo ymestyn parcio am ddim ym mis Rhagfyr yn ystod 2021 yn unig.

 

9.

LLYTHYR BLYNYDDOL YR OMBWDSMON 2020/21 CYNGOR SIR CAERFYRDDIN pdf eicon PDF 423 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cabinet yn ystyried Llythyr Blynyddol yr Ombwdsmon 2020/2021 ynghyd â'r daflen ffeithiau a'r data cysylltiedig.

 

Bob blwyddyn mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn rhoi llythyr i bob awdurdod lleol yng Nghymru ar ffurf taflen ffeithiau ynghyd â'r data cysylltiedig. Mae'n cael ei ddarparu i gynorthwyo o ran adolygu perfformiad.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn Llythyr Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2020-21 (y llythyr).

 

10.

PANELAU YMGYNGHOROL Y CABINET - AELODAETH pdf eicon PDF 314 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad a oedd yn manylu ar y newidiadau i aelodaeth Panelau Ymgynghorol y Cabinet.

 

Cytunodd y Bwrdd Gweithredol yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Mehefin 2017 (y cyfeirir ato yng Nghofnod 11) ar ei Banelau Ymgynghorol ar gyfer cyfnod y Cyngor presennol.  O ganlyniad i newidiadau yn y cydbwysedd gwleidyddol, roedd y ffigurau mewn perthynas â rhai Panelau wedi newid, yn dilyn trafodaeth â'r Grwpiau Gwleidyddol, roedd gwelliannau o ran yr aelodaeth wedi'u cyflwyno i'w hystyried.

 

Nodwyd bod oedi wedi bod o ran cyflwyno'r newidiadau hyn oherwydd y rhoddwyd blaenoriaeth i faterion Covid19.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r newidiadau o ran aelodaeth y Panelau Ymgynghorol fel y nodwyd yn yr adroddiad.

 

11.

UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL, 1972.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw eitemau eraill o fater brys.

 

12.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R MATER CANLYNOL GAN EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y BWRDD, AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.

 

 

13.

CYFLEOEDD CYLLIDO AR GYFER EIDDO GWAG

Cofnodion:

[SYLWER: Roedd y Cynghorydd L.M. Stephens wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach; a gadawodd y cyfarfod tra oedd yr eitem yn cael ei hystyried].

 

Yn sgil cynnal prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 12 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad am ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf). Roedd y prawf budd y cyhoedd mewn perthynas â'r adroddiad hwn yn drech na budd y cyhoedd wrth ddatgelu'r wybodaeth er mwyn cynnal cyfrinachedd a heb fod yn niweidiol o ran cwblhau'r trafodyn a buddiannau busnes y prydlesai arfaethedig.

 

Bu'r Cabinet yn ystyried y Cynllun Gweithredu ynghylch Eiddo Gwag.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r Cynllun Gweithredu ynghylch Eiddo Gwag.

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau