Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Rhian Lloyd  01267 224088

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

3.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y BWRDD GWEITHREDOL A GYNHALWYD AR Y 5ED GORFFENNAF, 2021 pdf eicon PDF 294 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 5ed Gorffennaf 2021 gan eu bod yn gywir.

 

 

4.

CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN YR AELODAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

The Chair advised that no questions on notice had been submitted by members.

4.1

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD ROB JAMES I'R CYNGHORYDD EMLYN DOLE, ARWEINYDD

Mae dau adroddiad wedi’u cynnal i Adran Gynllunio’r Awdurdod - un gan Archwiliad Cymru a’r ail gan ymgynghorwyr allanol. Credir bod yr adroddiadau'n feirniadol iawn o berfformiad yr Adran. A all Arweinydd y Cyngor amlinellu pryd y bydd canfyddiadau'r adroddiadau hyn yn cael eu cyhoeddi?

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

"Lluniwyd dau adroddiad ynghylch Adran Gynllunio'r Awdurdod - un gan Archwilio Cymru a'r ail un gan ymgynghorwyr allanol. Credir bod yr adroddiadau'n feirniadol iawn o berfformiad yr Adran. All Arweinydd y Cyngor amlinellu pryd y bydd canfyddiadau'r adroddiad yn cael eu Cyhoeddi?"

 

        Ymateb gan y Cynghorydd Emlyn Dole,Arweinydd y Cyngor:-

 

“Diolch ichi am eich cwestiwn.

 

Fel y gwyddoch, mae pob Awdurdod Lleol yng Nghymru yn destun adolygiad allanol rheolaidd gan Archwilio Cymru drwy gydol y flwyddyn. Fel rhan o'i raglen waith flynyddol, cafodd ein Gwasanaeth Cynllunio ei nodi i'w adolygu yn 2019/2020. Hefyd, mae Awdurdodau Lleol yn aml yn cynnal eu hadolygiadau annibynnol eu hunain ar gyfer adrannau a gwasanaethau, ac yn 2019 comisiynodd Cyngor Sir Caerfyrddin adolygiad annibynnol o'i Wasanaethau Cynllunio ei hun. Yn ddiweddar, rydym wedi cael adroddiad gan Archwilio Cymru yn amlinellu'r adolygiad o'i ganfyddiadau.

 

Bydd Archwilio Cymru yn cyhoeddi'r adroddiad ar ei wefan ddechrau mis Awst. Mae hyn yn arfer safonol ar gyfer pob adroddiad y mae'n ei gyflwyno. Rydym eisoes wedi rhannu'r adroddiad terfynol â'r staff yn yr Is-adran Gynllunio. Yn ogystal, bydd yr adroddiad llawn yn cael ei gyflwyno i'n Pwyllgor Archwilio i'w drafod ar 24 Medi ac i'r Pwyllgor Cynllunio.”

 

 

5.

CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau.

 

6.

RHAGOLWG CYLLIDEB REFENIW 2022/23 I 2024/25 pdf eicon PDF 322 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried y Rhagolygon o ran Cyllideb Refeniw 2022/23 tan 2024/25 a oedd yn nodi'r rhagolygon ariannol presennol ac yn amlinellu'r cynigion o ran paratoi'r gyllideb am y tair blynedd ariannol nesaf.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

6.1    dderbyn y rhagolwg cychwynnol o ran y gyllideb;

 

6.2    cymeradwyo'r dull arfaethedig o glustnodi'r arbedion angenrheidiol;

 

6.3    nodi'r dull arfaethedig o ymgynghori ynghylch y gyllideb.

 

7.

ADRODDIAD BLYNYDDOL CYFARWYDDWR STATUDOL GWASANAETHAU CYMDEITHASOL pdf eicon PDF 501 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad blynyddol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch perfformiad y gwasanaethau gofal cymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin yn 2020/21.  Roedd yr adroddiad yn cynnwys trosolwg o berfformiad y gwasanaethau yn 2020/21, ynghyd ag asesiad ynghylch darpariaeth yn y dyfodol a'r blaenoriaethau strategol ar gyfer 2021/22.  Roedd yr adroddiad hefyd yn amlinellu'r heriau o ganlyniad i flwyddyn na welwyd ei thebyg o'r blaen oherwydd COVID 19 ac yn tynnu sylw at y meysydd hynny oedd i gael eu datblygu yn y flwyddyn gyfredol.

 

Mae'n ofynnol yn statudol i'r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol adrodd yn flynyddol wrth y Cyngor ar berfformiad yr ystod gyfan o Wasanaethau Cymdeithasol a'r modd y cânt eu darparu, yn ogystal â chynlluniau ar gyfer eu gwella.

 

Nodwyd bod yr adroddiad yn dal i fod ar ffurf drafft ar hyn o bryd ac y byddai'n cael ei gwblhau cyn ei gyflwyno i'r Cyngor.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR fod Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch Perfformiad y Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin 2020/21 yn cael ei gymeradwyo.

 

8.

POLISI YMDDYGIAD GWRTHGYMDEITHASOL A THORRI AMODAU TENANTIAETH 2021 pdf eicon PDF 319 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd yn ystyried polisi arfaethedig sy'n nodi'r dull sydd i'w fabwysiadu gan y Tîm Cymdogaeth ym maes Diogelu'r Amgylchedd gyda golwg ar ymchwilio i gwynion am ymddygiad gwrthgymdeithasol ac achosion o dorri amodau tenantiaeth sy'n ymwneud â thai Cyngor.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y Polisi ar gyfer Ymddygiad Gwrthgymdeithasol a Thorri Amodau Tenaniaeth yn cael ei gymeradwyo.

 

9.

PORTH TYWYN - SAFLE DATBLYGU 4 pdf eicon PDF 212 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd yn ystyried adroddiad a oedd yn amlinellu cynnig i waredu Safle 4 ym Mhorth Tywyn drwy weithdrefn gaffael agored, er mwyn darparu cynllun masnachol a arweinir gan hamdden.  Roedd y tir o dan sylw yn ffurfio rhan o Brif Gynllun Porth Tywyn.

 

Gofynnwyd am ganiatâd i roi awdurdod dirprwyedig i'r Pennaeth Adfywio, mewn ymgynghoriad ag Aelod y Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau, i drafod a dogfennu telerau priodol ar gyfer gwerthu'r tir.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

9.1        fod Safle 4, Porth Tywyn, fel y nodir yn yr adroddiad, yn cael ei waredu drwy weithdrefn gaffael agored er mwyn darparu cynllun datblygu masnachol a arweinir gan hamdden;

 

9.2        bod awdurdod dirprwyedig yn cael ei roi i'r Pennaeth Adfywio, mewn ymgynghoriad ag Aelod y Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau, i drafod a dogfennau telerau priodol ar gyfer gwerthu'r tir.

 

 

10.

UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL, 1972.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw eitemau eraill o fater brys.

 

11.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R MATER CANLYNOL GAN EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y BWRDD, AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.

 

12.

GWERTHU TIR YM MHARC PENCRUG, LLANDEILO

Cofnodion:

Ar ôl cynnal prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 11 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu faterion busnes unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf). Roedd prawf budd y cyhoedd mewn perthynas â'r adroddiad hwn yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth a geir ynddo oherwydd byddai datgelu'r wybodaeth hon yn anfantais faterol i'r awdurdod mewn unrhyw drafodaethau dilynol â thrydydd partïon, a gallai gael effaith niweidiol ar y pwrs cyhoeddus.

 

Bu i'r Bwrdd Gweithredol ystyried adroddiad a oedd yn cynnig gwaredu tir ym Mhencrug, Llandeilo. 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

12.1 fod y tir ym Mhencrug, Llandeilo, fel y nodwyd yn yr adroddiad, yn cael ei

 waredu yn unol â'r telerau a nodir yn yr adroddiad;

 

12.2 bod awdurdod dirprwyedig yn cael ei roi i'r Pennaeth Adfywio, mewn

ymgynghoriad ag Aelod y Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau, i

 gwblhau'r telerau ar gyfer gwerthu'r tir.

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau