Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Martin S. Davies 01267 224059
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.
|
|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.
|
|
COFNODION - 21AIN MEHEFIN 2021. PDF 441 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 21 Mehefin 2021 yn gofnod cywir.
|
|
CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN YR AELODAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau.
|
|
CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.
|
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Gan gyfeirio at gofnod 5 cyfarfod y Pwyllgor Craffu – Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd oedd wedi ei gynnal ar 10 Mehefin 2019, bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad terfynol Gr?p Gorchwyl a Gorffen y Pwyllgor Craffu - Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd a gyflwynwyd gan Gadeirydd y Pwyllgor, y Cynghorydd John James. Sefydlwyd y gr?p i adolygu Cynllun Diogelu rhag Camfanteisio Ariannol y Gwasanaethau Safonau Masnach. Prif nodau'r gr?p ar gyfer yr adolygiad oedd archwilio a oedd y portffolio o atal troseddau, cefnogi dioddefwyr a gweithgareddau addysg a gyfunwyd o fewn y Cynllun Diogelu rhag Camfanteisio Ariannol yn darparu strategaeth effeithiol i helpu i frwydro yn erbyn twyll a hyrwyddo amcanion iechyd a llesiant corfforaethol yn sgil Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015.
Diolchodd y Bwrdd Gweithredol i'r Pwyllgor, Swyddogion a'r Cadeirydd am eu gwaith ar yr adroddiad ac ychwanegodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd y byddai'n sicrhau bod ei ganfyddiadau'n cael eu rhannu â'r tîm diogelu, yn enwedig gan fod llawer o sgamiau'n targedu'r henoed.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo adroddiad terfynol ac argymhellion adolygiad Gr?p Gorchwyl a Gorffen y Pwyllgor Craffu - Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd o Gynllun Diogelu rhag Camfanteisio Ariannol y Gwasanaethau Safonau Masnach.
|
|
LLOFNODWR Y SIARTER CREU LLEOEDD. PDF 194 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i adroddiad a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth i'r Cyngor fod yn llofnodwr i Siarter Creu Lleoedd Cymru. Roedd yr adroddiad yn amlinellu cyd-destun a diben Creu Lleoedd, ei rôl a'i statws o ran polisi cynllunio cenedlaethol a lleol, yn ogystal â chynnwys y Siarter. Datblygwyd y Siarter gan Gomisiwn Dylunio Cymru a Llywodraeth Cymru mewn cydweithrediad â Phartneriaeth Creu Lleoedd Cymru, sy'n cynnwys rhanddeiliaid sy'n cynrychioli ystod eang o ddiddordebau a sefydliadau sy'n gweithio yn yr amgylchedd adeiledig a naturiol. Roedd yn adlewyrchu ymrwymiad cyfunol ac unigol y sefydliadau hyn i gefnogi datblygiad lleoedd o safon uchel ledled Cymru er budd ei chymunedau. Roedd Pwyllgor Cynllunio'r Cyngor wedi argymell cymeradwyo'r adroddiad yn ei gyfarfod ar 24 Mehefin 2021. Mewn ymateb i bryder y gallai'r cyfeiriad at 'Iaith' o dan y pennawd 'Hunaniaeth' fod yn fwy cadarn,dywedwyd y byddai polisïau'r Cyngor yn sicrhau bod hyn yn wir.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR fod Siarter Creu Lleoedd Cymru yn cael ei chymeradwyo a bod Cyngor Sir Caerfyrddin yn llofnodwr.
|
|
RHAGLEN SGILIAU A THALENTAU, BARGEN DDINESIG BAE ABERTAWE PDF 357 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i adroddiad a oedd yn manylu ar Achos Busnes arfaethedig ar gyfer y rhaglen Sgiliau a Thalentau, o fewn y gyfres o 9 prosiect Bargen Ddinesig Bae Abertawe, a fyddai'n darparu ateb hyfforddiant sgiliau a fyddai'n cynnig y seilwaith sgiliau cynaliadwy â'r gwerth gorau i ddatblygu gweithlu'r rhanbarth ar gyfer y dyfodol. Ystyriwyd bod datblygu rhaglen sgiliau gynhwysfawr a blaengar yn hanfodol i lwyddiant cyffredinol portffolio'r Fargen Ddinesig. Byddai'r rhaglen yn cysoni'r ddarpariaeth sgiliau sydd ar gael a’r bylchau sgiliau a nodwyd ag anghenion diwydiant ar draws y rhanbarth, yn ogystal â'r wyth prosiect arloesol sy’n rhan o'r Fargen Ddinesig ac sy'n cefnogi twf gwerth ychwanegol gros, cynhyrchiant a buddsoddiad busnes yn y rhanbarth. Tynnodd yr Arweinydd sylw at y ffaith mai hwn oedd y prosiect cyntaf o dan broses adolygu Gateway Bargen Ddinesig Bae Abertawe a oedd wedi cael y 'golau gwyrdd’.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR
8.1 gymeradwyo'r achos busnes arfaethedig ar gyfer y Rhaglen Sgiliau a Thalentau a'i gyflwyno'n ffurfiol i'r Swyddfa Rheoli Portffolio, yn unol â Chynllun Gweithredu'r Fargen Ddinesig, er mwyn cymeradwyo cyllid y Fargen Ddinesig;
8.2 rhoi awdurdod dirprwyedig i'r Pennaeth Adfywio, ar y cyd â'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol - yr Arweinydd, wneud unrhyw fân newidiadau i'r achos busnes yn ôl yr angen, er mwyn cael cymeradwyaeth ar lefel llywodraeth leol, ranbarthol a chenedlaethol.
|
|
UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL, 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw eitemau eraill o fater brys.
|