Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Martin S. Davies 01267 224059
Rhif | eitem | |||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.
Rhoddodd yr Arweinydd deyrnged i Ei Uchelder Brenhinol Dug Caeredin yn dilyn ei farwolaeth yn ddiweddar gan ychwanegu bod Cadeirydd y Cyngor wedi ysgrifennu at Ei Mawrhydi Y Frenhines yn mynegi cydymdeimlad dwys â'r Teulu Brenhinol. Roedd baneri wedi cael eu gostwng i hanner mast yn Neuadd y Sir, Neuadd y Dref, Llanelli a Neuadd y Dref, Rhydaman. Rhoddodd y Dirprwy Arweinydd, a oedd yn siarad ar ran y Gr?p Annibynnol, deyrnged hefyd i Ei Uchelder Brenhinol Dug Caeredin, gan gyfeirio at ei ymweliadau niferus â Sir Gaerfyrddin. Ychwanegodd mai llwyddiant Gwobrau Dug Caeredin i bobl ifanc yn benodol fyddai ei waddol parhaol.
|
||||||||||||||||
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
|
||||||||||||||||
COFNODION - 22 MAWRTH 2021 PDF 348 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 22 Mawrth 2021, gan eu bod yn gywir.
|
||||||||||||||||
CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN YR AELODAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd yr Arweinydd fod y Cynghorydd Rob James wedi tynnu yn ôl y pedwar cwestiwn â rhybudd a oedd ganddo.
|
||||||||||||||||
CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD Dogfennau ychwanegol: |
||||||||||||||||
CWESTIWN GAN MR IAN KYLE I'R CYNGHORYDD HAZEL EVANS, AELOD Y BWRDD GWEITHREDOL DROS AMGYLCHEDD "A fyddai modd inni gael cydnabyddiaeth o'n cais am gymorth a threfnu ymgynghoriad cyn gynted â phosibl i drafod rhinweddau'r cynnig hwn?
I grynhoi'r cynnig, efallai eich bod yn ymwybodol bod Heol Caerfyrddin wedi bod ar gau am dros flwyddyn erbyn hyn oherwydd gwaith adeiladu sydd ar waith yn y Neuadd Sirol. Yn ystod y cyfnod hwn mae'r busnesau lleol a'r trigolion wedi sylwi ar effeithiau cadarnhaol cau'r heol i draffig trwodd a sefydlwyd deiseb ym mis Medi 2020 yn gofyn am i'r heol barhau ar gau yn barhaol. Llofnodwyd deiseb gan ychydig llai na 300 o bobl ac roedd nifer o sylwadau ynghylch pryderon am ddiogelwch, yn enwedig ynghylch plant ac unigolion llai abl oherwydd bod yr heol/palmant yn gul.
Yn ogystal, mae busnesau lleol wedi gwneud nifer o sylwadau cadarnhaol ynghylch yr angen i gynyddu nifer yr ymwelwyr yn enwedig ar ôl y cyfnod ofnadwy hwn o ran Covid, yn benodol sut roedd cau'r heol wedi gwneud y dref yn lle llawer mwy pleserus i'r trigolion a deniadol i'r ymwelwyr. O ystyried y gwaith ailddatblygu ar hen Neuadd y Farchnad ar ran uchaf Stryd Caerfyrddin, nid yw ystyried newid y mynediad i gerbydau ar hyd yr heol yn gwneud synnwyr mewn gwirionedd.
Rydym (trigolion Heol Caerfyrddin) wedi bod yn pwyso ar Edward Thomas, y Cynghorydd Sir lleol, a'r adran briffyrdd ers mis Hydref 2020 er mwyn ceisio trefnu ymgynghoriad â ni ynghylch sut y gallwn fwrw ymlaen â'r cynnig hwn, a hyd yma bach iawn yw'r cynnydd rydym wedi'i wneud.
Rydym wedi cael ein siomi gan y Cyngor o ran y diffyg cydnabyddiaeth a chymorth ar gyfer y cynnig hwn a gyflwynwyd gan y trigolion a'r busnesau yn y dref, a gofynnwn i chi, fel yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol sydd â chyfrifoldeb dros Briffyrdd, roi ateb inni ynghylch y cwestiwn uchod."
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: "A fyddai modd inni gael cydnabyddiaeth o'n cais am gymorth a threfnu ymgynghoriad cyn gynted â phosibl i drafod rhinweddau'r cynnig hwn? I grynhoi'r cynnig, efallai eich bod yn ymwybodol bod Stryd Caerfyrddin wedi bod ar gau am dros flwyddyn erbyn hyn oherwydd gwaith adeiladu sydd ar waith yn y Neuadd Sirol. Yn ystod y cyfnod hwn mae'r busnesau lleol a'r trigolion wedi sylwi ar effeithiau cadarnhaol cau'r heol i draffig trwodd a sefydlwyd deiseb ym mis Medi 2020 yn gofyn am i'r heol barhau ar gau yn barhaol. Llofnodwyd deiseb gan ychydig llai na 300 o bobl ac roedd nifer o sylwadau ynghylch pryderon am ddiogelwch, yn enwedig ynghylch plant ac unigolion llai abl oherwydd bod yr heol/palmant yn gul. Yn ogystal, mae busnesau lleol wedi gwneud nifer o sylwadau cadarnhaol ynghylch yr angen i gynyddu nifer yr ymwelwyr yn enwedig ar ôl y cyfnod ofnadwy hwn o ran Covid, yn benodol sut roedd cau'r heol wedi gwneud y dref yn lle llawer mwy pleserus i'r trigolion a deniadol i'r ymwelwyr. O ystyried y gwaith ailddatblygu ar hen Neuadd y Farchnad ar ran uchaf Stryd Caerfyrddin, nid yw ystyried newid y mynediad i gerbydau ar hyd yr heol yn gwneud synnwyr mewn gwirionedd. Rydym (trigolion Heol Caerfyrddin) wedi bod yn pwyso ar Edward Thomas, y Cynghorydd Sir lleol, a'r adran briffyrdd ers mis Hydref 2020 er mwyn ceisio trefnu ymgynghoriad â ni ynghylch sut y gallwn fwrw ymlaen â'r cynnig hwn, a hyd yma bach iawn yw'r cynnydd rydym wedi'i wneud. Rydym wedi cael ein siomi gan y Cyngor o ran y diffyg cydnabyddiaeth a chymorth ar gyfer y cynnig hwn a gyflwynwyd gan y trigolion a'r busnesau yn y dref, a gofynnwn i chi, fel yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol sydd â chyfrifoldeb dros Briffyrdd, roi ateb inni ynghylch y cwestiwn uchod.”
Ymateb y Cynghorydd Hazel Evans, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd:-
“Diolch i chi Mr Kyle am eich cwestiwn, rwyf wedi nodi eich sylwadau a'ch pryderon. Rwyf wedi ymweld â'r safle ac wedi ystyried y materion yr ydych wedi'u codi. Rwyf arddeall bod y rhan isaf o Stryd Caerfyrddin yn dyddio'n ôl i'r oesoedd canol ac, fel yr ydych yn nodi, mae'r ffordd a'r troedffyrdd yn gul. Yn y cyd-destun hwn gallaf ddeall y rhesymeg y tu ôl i'ch awgrym o gau'r ffordd yn barhaol i draffig ac mae hyn yn cyd-fynd ag amcanion trafnidiaeth ehangach y Cyngor Sir o annog mwy o gerdded a beicio mewn trefi. Fodd bynnag, mae hefyd yn bwysig deall bod Stryd Caerfyrddin yn rhan o rwydwaith priffyrdd ehangach ac mae angen nodi bod ymyriadau ar un rhan o'r rhwydwaith yn effeithio ar fannau eraill, felly mae angen rhoi ystyriaeth gytbwys a chyfannol i’r mater. Rwyf wedi trafod y goblygiadau hyn â'r Cynghorydd Thomas ac mae'r ddau ohonom yn rhannu nifer o bryderon gan gynnwys:
· Diffyg cyfleusterau troi digonol a diogel ym mhen uchaf Stryd Caerfyrddin. · Y llwybr estynedig y byddai'n rhaid i draffig lleol ei ddefnyddio. · Pwysau traffig ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.1 |
||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [SYLWER: Roedd y Cynghorydd L.D. Evans wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]
Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a oedd yn nodi, yn dilyn ymgynghoriad, y cynigion i adleoli Ysgol Heol Goffa erbyn Medi 2023 i safle newydd wrth ymyl Ysgol Pen Rhos a gwblhawyd yn ddiweddar a chynyddu ei chapasiti o 75 i 120.
Roedd y Bwrdd, yn ei gyfarfod ar 21 Rhagfyr 2020 [gweler cofnod 7], wedi cymeradwyo cyhoeddi'r Hysbysiad Statudol gofynnol. Cyhoeddwyd yr Hysbysiad Statudol ar 11 Ionawr, 2021 gan ganiatáu 28 o ddiwrnodau i wrthwynebwyr anfon eu gwrthwynebiadau'n ysgrifenedig at y Cyngor. Fodd bynnag, ni dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiadau ac felly nid oedd Adroddiad Gwrthwynebu.
Dywedwyd wrth y Bwrdd bod llythyr i gefnogi'r cynigion wedi dod i law gan Gadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Heol Goffa a oedd hefyd yn canmol y Cyngor am ei fuddsoddiad yn yr ysgol newydd a'i ymrwymiad i weithio gydag ysgolion eraill yn y sir i gefnogi dysgwyr a staff.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR, ar y sail canlynol: · nad oes unrhyw gynigion cysylltiedig eraill; · bod ymgynghoriad wedi’i gynnal ynghylch y cynnig statudol a chafodd ei gyhoeddi yn unol â'r Cod Trefniadaeth Ysgolion ac roedd yn cynnwys yr holl wybodaeth berthnasol ac, ar ôl ystyried y ddogfen ymgynghori a'r adroddiad ymgynghori; · ni dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiadau mewn ymateb i'r Hysbysiad Statudol; bod y cynigion felly i adleoli Ysgol Heol Goffa a chynyddu ei chapasiti o 75 i 120, fel y nodir yn yr Hysbysiad Statudol, yn cael eu rhoi ar waith.
|
||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad diweddaru ar weithgareddau rheoli'r trysorlys a'r dangosyddion darbodus ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2020 a 30 Mehefin 2020. A Talwyd teyrnged i'r gwaith a wnaed gan swyddogion yn ystod y cyfnod eithriadol hwn o sicrhau bod y Dangosyddion Darbodus yn parhau o fewn y terfynau a bennwyd gan Gyllideb 2020-2021 a Pholisi a Strategaeth Rheoli'r Trysorlys 2020-2021.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL bod yr Adroddiad Chwarterol ynghylch Rheoli'r Trysorlys a Dangosyddion Darbodaeth rhwng 1 Ebrill 2020 a 31 Rhagfyr 2020 yn cael ei dderbyn.
|
||||||||||||||||
CYFRADDAU BUSNES - CYNLLUN RHYDDHAD ARDRETHI MANWERTHU, HAMDDEN A LETYGARWCH 2021/22 PDF 338 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: SYLWER: Roedd y Cynghorwyr E. Dole, P.M Hughes ac L.M.Stephens, wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach a felly roeddent wedi gadael y cyfarfod. Felly, cadeiriodd y Cynghorydd D.M.Jenkins weddill y cyfarfod.]
Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a oedd yn manylu ar gynnig Llywodraeth Cymru i ymestyn y cynllun Rhyddhad Ardrethi ar gyfer Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch hyd at 2021/22. Gan mai mesur dros dro oedd hwn mewn ymateb i'r sefyllfa oherwydd Coronafeirws nid oedd Llywodraeth Cymru yn gwneud unrhyw newidiadau deddfwriaethol ond yn hytrach byddai'n caniatáu i awdurdodau bilio roi rhyddhad o dan y pwerau rhyddhad yn ôl disgresiwn cyffredinol sydd ar gael o dan Adran 47 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Cyllid) 1988. Gan ei fod yn b?er disgresiwn, fodd bynnag, roedd yn ofynnol i bob Awdurdod Lleol fabwysiadu'r cynllun yn ffurfiol a fyddai'n cael ei ariannu'n llawn heb unrhyw gost i'r awdurdod ar yr amod bod y rhyddhad yn cael ei roi yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru.
Byddai'r cynllun, a oedd yn anelu at ddarparu cymorth ar gyfer eiddo cymwys drwy gynnig gostyngiad o 100% ar y bil ardrethi annomestig ar gyfer eiddo, i bob safle cymwys, yn gymwys i bob trethdalwr cymwys sydd â gwerth ardrethol o £500,000 neu lai.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL bod y Cynllun Rhyddhad Arthdrethi 2021/22 ar gyfer Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch yn cael ei fabwysiadu.
|
||||||||||||||||
UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL, 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw eitemau eraill o fater brys.
|