Agenda a Chofnodion

Cabinet - Dydd Llun, 1af Mawrth, 2021 10.00 yb

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Michelle Evans Thomas  (01267) 224470

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd L. D. Evans.

 

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

C. Campbell

7 – Rhybudd o Gynnig – Ymgynghoriadau Addysg

Mae'n Llywodraethwr yn Ysgol Bro Myrddin

G. Davies

7 – Rhybudd o Gynnig – Ymgynghoriadau Addysg

Mae'n Llywodraethwr ALl yn Ysgol Gynradd Brynaman

E. Dole

7 – Rhybudd o Gynnig – Ymgynghoriadau Addysg

Mae'n Llywodraethwr ALl yn Ysgolion Cynradd Llannon a Crosshands

H.A.L. Evans

7 – Rhybudd o Gynnig – Ymgynghoriadau Addysg

Mae'n Llywodraethwr ALl yn Ysgol y Ddwylan ac Ysgol Gyfun Emlyn

 

P.M Hughes

7 – Rhybudd o Gynnig – Ymgynghoriadau Addysg

Mae'n Llywodraethwr ALl yn Ysgol Griffith Jones

P. Hughes-Griffiths

7 – Rhybudd o Gynnig – Ymgynghoriadau Addysg

Mae'n Llywodraethwr yn Ysgol y Dderwen ac Ysgol Bro Myrddin

D.M. Jenkins

7 – Rhybudd o Gynnig – Ymgynghoriadau Addysg

Mae'n Llywodraethwr ALl yn Ysgol Gyfun Dyffryn Aman ac Ysgol y Bedol

L.M. Stephens

7 – Rhybudd o Gynnig – Ymgynghoriadau Addysg

Mae'n Llywodraethwr ALl yn Ysgol Gynradd Glanyfferi ac Ysgol Bro Myrddin

J. Tremlett

7 – Rhybudd o Gynnig – Ymgynghoriadau Addysg

Mae'n Gadeirydd y Llywodraethwyr yn Ysgol Gynradd Wirfoddol a Reolir Talacharn

 

 

 

 

 

 

3.

CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN YR AELODAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

 

4.

CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau.

 

5.

ADOLYGIAD O DDATGANIAD Y POLISI TRWYDDEDU (DEDDF TRWYDDEDU 2003) pdf eicon PDF 428 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ynghylch Adolygiad o'r Datganiad Polisi Trwyddedu. Cafodd y Polisi Trwyddedu presennol ei fabwysiadu gan yr Awdurdod ym mis Ionawr 2019 yn dilyn ymgynghoriad ynghylch mabwysiadu Asesiad Effaith Cronnol o ran Heol Awst, Caerfyrddin. Mae'n ofynnol ar hyn o bryd, yn ôl y ddeddfwriaeth, i'r Polisi Trwyddedu gael ei adolygu o leiaf bob pum blynedd er mwyn sicrhau ei fod yn adlewyrchu adborth gan y gymuned leol fod yr amcanion statudol yn cael eu cyflawni.  Cafodd adolygiad llawn ei gynnal ddiwethaf yn 2015.

 

Mae'r Polisi Trwyddedu yn berthnasol i bob safle trwyddedig, gan gynnwys y rhai sy'n rhan o'r economi yn ystod y dydd. Y bwriad gwreiddiol oedd dechrau'r ymgynghoriad ar yr adolygiad o'r polisi ym mis Mawrth 2020; fodd bynnag, o ganlyniad i'r pandemig Coronafeirws, cafodd ei ohirio tan adeg fwy priodol a hefyd er mwyn gweld a fyddai'r cyfnod adolygu statudol yn cael ei ymestyn. Gan na chafodd cyfnod yr adolygiad 5 mlynedd ei ymestyn, cafodd yr ymgynghoriad ei ddiwygio i ganolbwyntio ar y prif feysydd statudol er mwyn ymgynghori yn eu cylch ac roedd ar agor am gyfnod cyfyngedig.  Cynigiwyd y byddai ymgynghoriad manylach pellach yn cael ei gynnal pan fyddai cyfnod yr argyfwng Coronafeirws wedi dod i ben

 

Cynhaliwyd yr ymgynghoriad hwn rhwng 14 Rhagfyr, 2020 a 10 Ionawr, 2021. Ymgynghorwyd â thua dwy fil o unigolion a sefydliadau, gan gynnwys deiliaid trwyddedau a'u cynrychiolwyr, Cynghorau Tref a Chymuned, Aelodau Seneddol, Aelodau'r Cynulliad, Cynghorwyr Sir, adrannau'r Cyngor ac Awdurdodau Cyfrifol.  

 

Roedd yr Adran Drwyddedu wedi adolygu'r ddogfen bolisi, ar y cyd ag adran gyfreithiol y Cyngor, yn sgil yr ymatebion i'r ymgynghoriad, canllawiau diwygiedig y llywodraeth, gwelliannau i'r Ddeddf Trwyddedu a chyfraith achosion diweddar.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR:-

 

5.1     bod Datganiad diwygiedig y Polisi Trwyddedu yn cael ei gymeradwyo;

5.2      bod yr Asesiad o'r Effeithiau Cronnol presennol yn cael ei gadw ar gyfer Heol yr Orsaf, Llanelli a Heol Awst, Caerfyrddin fel y manylir yn Adran 10 o'r polisi atodedig.

 

6.

RHYBUDD GYNNIG A GYFEIRIWYD GAN Y CYNGOR (10FED CHWEFROR 2021) - ARDDANGOSFEYDD TÂN GWYLL pdf eicon PDF 406 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried Rhybudd o Gynnig a gyfeiriwyd at y Bwrdd i'w ystyried gan y Cyngor yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Chwefror, 2021 fel a ganlyn:- 

 

“Mae tân gwyllt yn cael eu defnyddio gan bobl drwy gydol y flwyddyn, i nodi gwahanol ddigwyddiadau. Er y gallant ddod â llawer o fwynhad i rai pobl, gallant achosi pryder ac ofn sylweddol i rai unigolion a hefyd anifeiliaid (anifeiliaid anwes a da byw). Mae anifeiliaid nid yn unig yn dioddef trallod seicolegol oherwydd tân gwyllt, gallant eu hachosi i hunan-niweidio hefyd. Gelwir ar CCC i wneud y canlynol....

 

(1) Ei gwneud yn ofynnol i bob arddangosfa gyhoeddus o fewn ffiniau'r Awdurdod Lleol gael ei hysbysebu cyn y digwyddiad, gan ganiatáu i breswylwyr gymryd y rhagofalon angenrheidiol ar gyfer anifeiliaid a phobl sy'n agored i niwed;

(2) Mynd ati i hyrwyddo Ymgyrch Ymwybyddiaeth Gyhoeddus am effaith tân gwyllt ar les anifeiliaid a phobl sy'n agored i niwed, gan gynnwys y rhagofalon y gellir eu rhoi ar waith i liniaru'r risgiau, ynghyd â manylu ar y rheoliadau presennol;

(3) Annog cyflenwyr tân gwyllt lleol i stocio "fersiwn dawelach" o dân gwyllt yn unig na'r hyn a ddefnyddir ar gyfer arddangosfeydd cyhoeddus;

(4) Ysgrifennu at Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn eu hannog i adolygu ac ystyried y ddeddfwriaeth bresennol ac i gyfyngu ar uchafswm lefel s?n tân gwyllt y gellir eu gwerthu i aelodau'r cyhoedd at ddefnydd preifat i 90 desibel.”

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL am y rhesymau a nodir uchod, y dylid cefnogi'r Hysbysiad o Gynnig ac y dylid edrych ar y sefyllfa ledled Cymru gyda'r bwriad o gyflwyno adroddiad pellach i'r Bwrdd Gweithredol erbyn mis Hydref.

 

7.

RHYBUDD GYNNIG A GYFEIRIWYD GAN Y CYNGOR (10FED CHWEFROR 2021) - YMGYNGHORIADAU ADDYSG pdf eicon PDF 404 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER: Roedd y Cynghorwyr C. Campbell, G. Davies, E. Dole, H.A.L. Evans, P.M. Hughes, P. Hughes-Griffiths, D.M. Jenkins, L.M. Stephens a J. Tremlett wedi datgan diddordeb yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried Rhybudd o Gynnig a gyfeiriwyd at y Bwrdd i'w ystyried gan y Cyngor yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Chwefror, 2021 fel a ganlyn:- 

 

“Bod Cyngor Sir Caerfyrddin:

 

  • Yn nodi bod cymunedau yn Sir Gaerfyrddin ar hyn o bryd yn delio â'r argyfwng meddygol ac ariannol mwyaf yn ystod y blynyddoedd diwethaf, wrth i bandemig y Coronafeirws barhau i effeithio ar deuluoedd a busnesau;
  • Yn credu nad yw'n briodol cynnal ymgynghoriadau ysgol ar faterion megis darpariaeth addysg yn ystod y pandemig mewn amgylchiadau lle bo hynny'n gwrthdaro â chanllawiau Llywodraeth Llafur Cymru;
  • Yn parhau i fonitro hyfywedd ysgolion Sir Gaerfyrddin fel sy'n ofynnol gan Lywodraeth Cymru, ac yn cymryd unrhyw gamau angenrheidiol yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus mewn modd agored a thryloyw.”

 

Dywedwyd wrth y Bwrdd Gweithredol, o ystyried y canllaw arfer da a gynhwyswyd yn y canllawiau anstatudol diwygiedig a gafwyd gan Lywodraeth Cymru ar 12 Chwefror, cynigiwyd ymestyn y cyfnod ymgynghori o ran cynigion sy’n ymwneud â Chôd Trefniadaeth Ysgolion tan ddiwedd tymor yr haf, sef dydd Gwener, 16 Gorffennaf, 2021, a fyddai hefyd yn caniatáu digon o amser i bartïon â diddordeb baratoi a chyflwyno eu barn ac unrhyw gynlluniau amgen.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, am y rhesymau a nodir uchod, y dylid cefnogi'r Rhybudd o Gynnig o ran ymgynghoriadau sy’n ymwneud â materion sy'n destun gweithdrefnau'r Cod Trefniadaeth Ysgolion.

 

8.

UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL, 1972.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw eitemau eraill o fater brys.