Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin S. Davies  01267 224059

Nodyn: Rhith-gyfarfod. Gall aelodau'r cyhoedd weld y cyfarfod yn fyw trwy wefan yr Awdurdod. Os oes angen cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg arnoch yn ystod y cyfarfod, ffoniwch y rhif ar yr agenda. 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr G.Davies a P. Hughes.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

3.

COFNODION - 13 GORFFENNAF 2020 pdf eicon PDF 73 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 13 Gorffennaf 2020 gan eu bod yn gywir.

 

4.

CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN YR AELODAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau.

 

5.

CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

6.

AILDDECHRAU CODI TÂL AM BARCIO pdf eicon PDF 97 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad yn cynnwys manylion ar yr opsiynau ar gyfer ailddechrau codi tâl am barcio yng nghanol trefi. Nodwyd bod y taliadau wedi'u hatal mewn meysydd parcio yng nghanol trefi sy'n cael eu gweithredu gan y Cyngor ers dechrau pandemig Covid 19 a'i fod wedi parhau felly i annog twristiaid ac ymwelwyr yn ystod yr haf. Petai codi tâl am barcio yn cael ei ailgyflwyno, argymhellwyd y dylid gohirio unrhyw gynnydd hyd nes y gellid adfer canol y trefi ymhellach.

Awgrymwyd y dylid ailgyflwyno codi tâl am barcio ym meysydd parcio canol tref o ddydd Mawrth 1 Medi 2020 yn hytrach na dydd Llun 31 Awst 2020.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

6.1 cymeradwyo ailddechrau codi tâl am barcio ym meysydd parcio canol tref o ddydd Mawrth 1 Medi 2020 ymlaen;

 

6.2 dylai'r cynnydd arfaethedig o 20c i dalu am barcio ym meysydd parcio canol tref gael ei ohirio tan ddydd Llun 4 Ionawr 2021.

 

7.

CYFAMOD Y LLUOEDD ARFOG (LLA) A GWOBR EFYDD Y CYNLLUN CYDNABOD CYFLOGWR Y WEINYDDIAETH AMDDIFFYN pdf eicon PDF 105 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[[SYLWER: Tynnwyd yr eitem hon yn ôl o'r agenda]

 

8.

RHYBUDDION O GYNNIG A GYFEIRIWYD GAN Y CYNGOR (12 CHWEFROR 2020 A 8 GORFFENNAF 2020) MYND I'R AFAEL Â HILIAETH YN SIR GAERFYRDDIN pdf eicon PDF 121 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad yn nodi ei gynigion ar ôl i'r Cyngor gymeradwyo'r ddau Rybudd o Gynnig ar hiliaeth yn Sir Gaerfyrddin ar 12 Chwefror 2020 (7.1) ac 8 Gorffennaf 2020 (7.1). Roedd y Bwrdd o'r farn y dylid mynd i'r afael â'r pryderon a godwyd gan bob Rhybudd ar y cyd ac y dylid sefydlu Panel Ymgynghorol Gorchwyl a Gorffen a oedd yn wleidyddol gytbwys, fel yr awgrymwyd, i wrando ar lais cymunedau BAME yn Sir Gaerfyrddin. Yn unol â hyn, er mwyn i waith y Panel ddechrau cyn gynted â phosibl roedd yr adroddiad yn cynnwys trefniadau ar gyfer ei aelodaeth a'i gylch gorchwyl arfaethedig.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL i gymeradwyo aelodaeth drawsbleidiol a chylch gorchwyl y Panel Ymgynghorol Gorchwyl a Gorffen (Adolygiad BAME Trawsbleidiol) a nodir yn yr adroddiad.

 

9.

UNRHYW FATER ARALL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

10.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R MATER CANLYNOL GAN EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y BWRDD, AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

11.

HEN SAFLE GRILLO, PORTH TYWYN - EITHRIEDIG

Cofnodion:

 

Yn dilyn cynnal prawf budd y cyhoedd, PENDERFYNWYD yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 10 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu faterion busnes unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).

Roedd y budd i'r cyhoedd o ran yr adroddiad hwn yn gorbwyso budd y cyhoedd wrth ddatgelu'r wybodaeth sydd ynddo oherwydd byddai datgelu'r wybodaeth hon yn anfantais faterol i'r awdurdod mewn unrhyw drafodaethau dilynol â thrydydd partïon, a gallai cael effaith niweidiol ar y pwrs cyhoeddus.

 

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ar y posibilrwydd o brynu hen safle ffatri Grillo a oedd yn arfer cynhyrchu sinc oxide ym Mhorth Tywyn, gallai hyn nid yn unig hyrwyddo a hwyluso ei ddatblygiad ynghyd â thir cyfagos sy'n eiddo i'r Cyngor ond hefyd gefnogi dyheadau adfywio'r Cyngor ar gyfer Porth Tywyn a chyflawni prif gynllun Porth Tywyn. Nodwyd y byddai datblygu'r safle hwn yn darparu tai y mae angen mawr amdanynt mewn ardal lle mae galw mawr ynghyd â chreu rhyw 30 o swyddi newydd drwy elfen fasnachol y datblygiad.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

11.1 bod Hen Safle Grillo, Porth Tywyn yn cael ei brynu,ar sail Opsiwn 3 y manylir arno yn yr adroddiad; 

11.2 bod y cyllid yn cael ei ddarparu o'r Gronfa Ddatblygu ar sail egwyddor buddsoddi i arbed. [Bydd modd ad-dalu'r swm i'r Gronfa Ddatblygu pan fydd y tir yn cael ei werthu, felly bydd amodau eraill y datblygiad yn cael eu neilltuo yn yr achos hwn.]  

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau