Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Emma Bryer 01267 224029
Rhif | eitem | ||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.
|
|||||||||||||
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
|
|||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 16 Tachwedd, 2020 yn gofnod cywir.
|
|||||||||||||
CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN YR AELODAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau.
|
|||||||||||||
CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.
|
|||||||||||||
RHAGOLWG CYLLIDEB REFENIW 2021/22 i 2023/24 PDF 320 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ar ragolygon y gyllideb refeniw a oedd yn nodi'r rhagolygon ariannol presennol a'r model ariannol diweddaraf ar gyfer y tair blynedd ariannol nesaf. Roedd yr adroddiad yn amlinellu'r cynigion o ran paratoi'r gyllideb am y tair blynedd nesaf.
Er bod yr Awdurdod wedi derbyn cynnydd o £14m yn ei setliad gan Lywodraeth Cymru, nodwyd bod angen cynnydd o 4.89% yn y dreth gyngor a gostyngiadau yn y gyllideb o £5.1m i fantoli'r gyllideb.
Dywedwyd wrth y Bwrdd Gweithredol na fyddai Llywodraeth Cymru yn cadarnhau data'r setliad dros dro tan 22 Rhagfyr. Byddai ymgynghoriadau'n dechrau ym mis Ionawr, fodd bynnag, oherwydd y setliad hwyr byddai amserlen y gyllideb yn cael ei chywasgu hyd yn oed yn fwy nag arfer.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL: 6.1 Derbyn rhagolygon cychwynnol y gyllideb ac ystyried lefel y cynnydd yn y Dreth Gyngor a lefel arbedion effeithlonrwydd ysgolion y mae’n ystyried yn briodol ar gyfer datblygu'r Cynllun Ariannol Tymor Canolig; 6.2 Cymeradwyo'r dull arfaethedig o glustnodi'r arbedion angenrheidiol; 6.3 cymeradwyo'r dull arfaethedig o ymgynghori ynghylch y gyllideb.
|
|||||||||||||
LLYTHYR BLYNYDDOL YR OMBWDSMON 2019/20 PDF 370 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Bwrdd yn ystyried Llythyr Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ar gyfer 2019/20. Roedd taflen ffeithiau a data ynghlwm wrth y llythyr, sy'n cynorthwyo'r Awdurdod i adolygu perfformiad.
Nodwyd y bu gostyngiad o 2.4% yn nifer y cwynion a gafwyd gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ynghylch awdurdodau lleol yn genedlaethol a bod nifer y cwynion a gafwyd gan yr Ombwdsmon ynghylch Sir Gaerfyrddin wedi gostwng yn ystod y flwyddyn ddiwethaf o 49 i 42. Nodwyd bod y rhan fwyaf yn ymwneud â'r cyfnod cyn i Covid gynyddu.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn Llythyr Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2019-20.
|
|||||||||||||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad diweddaru ar weithgareddau rheoli'r trysorlys a'r dangosyddion darbodus ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2020 a 30 Medi 2020.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR ei fod yn mabwysiadu Adroddiad Canol Blwyddyn ynghylch y Dangosyddion Darbodaeth a Rheoli'r Trysorlys o 1 Ebrill 2020 i 30 Medi 2020.
|
|||||||||||||
AMRYWIO CYTUNDEB CYFREITHIOL Y CONSORTIA RHANBARTHOL (ERW) PDF 413 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [SYLWER: Roedd Jake Morgan wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach a gadawodd y cyfarfod]
Bu'r Bwrdd yn ystyried adroddiad a oedd yn manylu ar Amrywio'r Cytundeb Cyfreithiol er mwyn gallu darparu gwasanaethau dros dro i ysgolion Castell-nedd Port Talbot, galluogi'r Awdurdodau oedd yn weddill i dynnu'n ôl a diddymu ERW.
Nodwyd bod Castell-nedd Port Talbot wedi gadael ERW ar 31 Mawrth, 2020; Roedd Cyngor Ceredigion ac Abertawe hefyd wedi rhoi rhybudd eu bod yn gadael. Nid oedd Powys na Chyngor Sir Penfro wedi rhoi rhybudd eto. Roedd Cyngor Sir Caerfyrddin i fod i adael ERW ar ddiwedd y flwyddyn ariannol.
Y cynnig presennol oedd y dylid diddymu ERW ar ddiwedd blwyddyn ariannol 2020/21 ond gallai'r llinell amser hon newid yn dibynnu ar y cytundebau a fyddai'n dod i law. Y dyddiad gweithredu amgen a awgrymwyd oedd 31 Awst 2021.
Roedd y Bwrdd yn cydnabod bod model presennol ERW yn ddiffygiol a gofynnodd i'r broses o newid i'r model newydd gael ei chynnal cyn gynted â phosibl a hefyd adlewyrchu gweledigaeth dysgu ddwyieithog Sir Gaerfyrddin.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL: 9.1 cytuno ar y newidiadau i Gytundeb Cyfreithiol ERW er mwyn hwyluso'r gwaith o ddarparu gwasanaethau y cytunwyd arnynt i ysgolion Castell-nedd Port Talbot yn ystod 2020/21 fel y nodir yn yr adroddiad. 9.2 cytuno bod newidiadau'n cael eu gwneud i'r Cytundeb Cyfreithiol fel y nodir yn yr adroddiad. 9.3 dirprwyo awdurdod i'r Prif Swyddog Cyfreithiol a'r Cyfarwyddwr Addysg i wneud unrhyw newidiadau angenrheidiol i'r Cytundeb Cyfreithiol (mewn ymgynghoriad â phartneriaid eraill ERW) ac i ymrwymo i unrhyw ddogfennau sy'n angenrheidiol i weithredu unrhyw un o'r argymhellion yn yr adroddiad ac i ddiogelu buddiannau'r Cyngor.
|
|||||||||||||
GORCHYMYN DATBLYGU LLEOL - DWYRAIN CROSS HANDS PDF 517 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ynghylch y posibilrwydd o gyflwyno Gorchymyn Datblygu Lleol yn Nwyrain Cross Hands.
Roedd yr adroddiad yn nodi bod Safle Cyflogaeth Strategol Dwyrain Cross Hands yn lleoliad cyflogaeth rhanbarthol o bwys yn Sir Gaerfyrddin ac yn rhan bwysig o Barth Twf Cross Hands. Gan ddarparu 19 erw o dir y gellir ei ddatblygu, byddai datblygiad ar y raddfa hon yn creu tua 1,000 o swyddi newydd. Mae'r galw am leoliadau diwydiannol a busnes yn Cross Hands a'r Sir yn uchel gyda chyfraddau defnydd ym mhortffolio diwydiannol y Cyngor yn gyson dros 90%.
Nodwyd bod Gorchymyn Datblygu Lleol yn rhoi cyfle i Awdurdod Cynllunio Lleol symleiddio'r broses gynllunio drwy ddileu'r angen i ddatblygwyr/ymgeiswyr gyflwyno cais cynllunio i'r Awdurdod ac i gyflwyno cynigion datblygu fel cais am Orchymyn Datblygu Lleol, gan ganiatáu i awdurdod weithredu'n rhagweithiol mewn ymateb i amgylchiadau lleol penodol yn ei ardal ddaearyddol.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL bod y Gorchymyn Datblygu Lleol arfaethedig yn cael ei ystyried drwy'r broses adrodd ddemocrataidd.
|
|||||||||||||
UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL, 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw eitemau eraill o ran materion brys.
|
|||||||||||||
GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R MATER CANLYNOL GAN EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y BWRDD, AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.
|
|||||||||||||
CRONFA ARLOESI ARFOR
Cofnodion: [SYLWER: Noder: gadawodd yr Arweinydd y cyfarfod ar gyfer yr eitem hon a daeth y Dirprwy Arweinydd i'r Gadair. Ystyriwyd yr eitem fel yr eitem olaf ar yr agenda]
Yn sgil cynnal prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 12 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad am ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).
Yr oedd y prawf budd y cyhoedd o ran y mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth fanwl am faterion a dyheadau busnes ac ariannol yr ymgeiswyr. Yn yr achos hwn, yr oedd y budd i'r cyhoedd o ran cynnal yr eithriad uchod o dan Ddeddf 1972 mewn perthynas â'r adroddiad hwn yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth, gan y byddai datgelu'r wybodaeth yn debygol o roi'r person a'r busnes a enwir yn yr adroddiad dan anfantais annheg mewn perthynas â'u cystadleuwyr masnachol.
Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried cais am gymorth gan Gronfa Arloesi Arfor. Blaenoriaeth y gronfa oedd cefnogi twf busnes mewn ardaloedd â chyfran uchel o siaradwyr Cymraeg a chreu mwy o swyddi â chyflog gwell i gadw pobl leol yn yr ardaloedd hynny.
Roedd y cais, a fyddai fel arfer yn cael ei benderfynu fel rhan o gyfarfod Penderfyniadau Aelodau'r Bwrdd Gweithredol ar gyfer yr Arweinydd, wedi'i gyfeirio at y Bwrdd Gweithredol gan fod y cais wedi'i gyflwyno gan gwmni a oedd yn eiddo i'r Cynghorydd Aled Vaughan Owen a oedd hefyd yn aelod o gr?p Plaid Cymru. Roedd y Cynghorydd Dole wedi cyfeirio’r cais at y Bwrdd Gweithredol i benderfynu arno er nad oedd ganddo ddiddordeb penodol yn y mater.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL i gymeradwyo'r ceisiadau canlynol am gymorth o Gronfa Arloesi Arfor gan Ynni Da am gyfanswm o £1,535.04, yn amodol ar y telerau a'r amodau arferol ac ar y rhai a bennwyd yn yr adroddiad.
|
|||||||||||||
MENTRAU ADFYWIO CROSS HANDS Cofnodion: Yn sgil cynnal prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 12 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad am ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).
Roedd y prawf budd cyhoeddus mewn perthynas â'r adroddiad hwn yn drech na budd y cyhoedd gan y byddai datgelu cynnwys yr adroddiad yn gwanhau sefyllfa'r awdurdod mewn unrhyw ymarfer tendro dilynol ac o bosibl yn arwain at fwy o gost i gyllid cyhoeddus nag a fyddai fel arall.
Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y mentrau adfywio parhaus yn Cross Hands gan gynnwys cymeradwyo'r estyniad i'r cytundeb Cyd-fenter presennol (rhwng Cyngor Sir Caerfyrddin a Llywodraeth Cymru) hyd at 31 Mawrth 2024. Hefyd, cymeradwyo'r gwaith o ddatblygu a darparu datblygiad cyflogaeth defnydd cymysghunan-adeiladol ar Lain 3 Safle Cyflogaeth Dwyrain Cross Hands.
Er cywirdeb, nodwyd, yn adran ymgynghori'r adroddiad, y dylid nodi yr ymgynghorwyd â'r Cynghorydd A. Vaughan-Owen ac nid y Cynghorydd A. Scourfield.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL: 14.1 Ymestyn cytundeb presennol Cyd-fenter Cross Hands hyd at 31 Mawrth 2024 (2 flynedd o fis Mawrth 2022). 14.2 Bod awdurdod dirprwyedig yn cael ei roi i'r Pennaeth Adfywio, mewn ymgynghoriad â'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol i ddatblygu'r gwaith ogyflawni prosiect Llain 3 drwy bob cam datblygu/gweithredu hyd at ei gwblhau fel y nodwyd yn yr adroddiad. Gan gynnwys awdurdod i fwrw ymlaen â'r prosiect heb neu gyda chyfraniad y Ganolfan Adeiladu Gweithredol, yn amodol ar drafodaethau cyfreithiol parhaus gyda'r Ganolfan Adeiladu Gweithredol a'u cynrychiolwyr cyfreithiol. 14.30 Bod y Pennaeth Adfywio, drwy ymgynghori â Phennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, yn cael awdurdod dirprwyedig i werthu lleiniau o fewn Cyd-fenter Cross Hands yn unol â'r strategaeth werthu ac mewn cytundeb â Llywodraeth Cymru fel partner y gyd-fenter.
|
|||||||||||||
RHAGLEN TARGEDU BUDDSODDIAD MEWN ADFYWIO 2018-2021
Cofnodion: [Sylwer: Ar ôl datgan diddordeb yn yr eitem hon yn gynharach, gadawodd y Cynghorydd Glynog Davies y cyfarfod yn ystod trafodaethau ynghylch canol tref Llanelli / Adeiladau'r Goron]
Yn sgil cynnal prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 12 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad am ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).
Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad yn nodi'r sefyllfa bresennol a'r cynnydd o ran y Rhaglen Targedu Buddsoddiad mewn Adfywio.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL: 15.1 cefnogi'r cynigion ar gyfer prosiectau blwyddyn 4 o ran darparu'n rhanbarthol y Rhaglen Targedu Buddsoddiad Adfywio (2021-2022). 15.2 Cymeradwyo bod tîm y prosiect yn datblygu'r ceisiadau gydag ymgeiswyr trydydd parti ar brosiectau Adeiladau'r Goron a'r Linc.
|