Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Emma Bryer  01267 224029

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr C.A.Campbell a J. Tremlett.

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd / Swyddog

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

Y Cynghorydd Emlyn Dole

12 – Polisi Cyflogau Athrawon Enghreifftiol 2019-20

Merch-yng-nghyfraith yn athrawes

Y Cynghorydd L. Evans

12 – Polisi Cyflogau Athrawon Enghreifftiol 2019-20

Ei merch yn athrawes

 

Y Cynghorydd Peter Hughes Griffiths

 

12 – Polisi Cyflogau Athrawon Enghreifftiol 2019-20

Ei ferch yn athrawes

W. Walters (Prif Weithredwr)

12 – Polisi Cyflogau Athrawon Enghreifftiol 2019-20

Brawd yn athro cyflenwi

 

3.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y BWRDD GWEITHREDOL A GYNHALWYD AR Y 3YDD CHWEFROR 2020 pdf eicon PDF 336 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 3 Chwefror 2020 yn gofnod cywir.

4.

CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN YR AELODAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau.

5.

CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

6.

STRATEGAETH Y GYLLIDEB REFENIW 2020/21 I 2022/23 pdf eicon PDF 211 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a oedd yn dwyn ynghyd y cynigion diweddaraf ynghylch Cyllideb Refeniw 2019/2020 ac yn darparu'r ffigurau mynegiannol ar gyfer blynyddoedd ariannol 2021/2022 a 2022/2023. Hefyd roedd yr adroddiad yn crynhoi'r sefyllfa ddiweddaraf o ran y gyllideb gan roi diweddariad ynghylch dilysu'r gyllideb, y gwasgfeydd o ran gwariant, setliad terfynol Llywodraeth Cymru, a'r ymatebion i'r ymgynghoriad ynghylch y gyllideb.

 

Amlinellwyd i'r Bwrdd gan yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau nifer o ffactorau sy'n dylanwadu ar y gyllideb, gan gynnwys y ffaith na fyddai'r setliad terfynol gan Lywodraeth Cymru yn dod i law tan 25 Chwefror 2020.  Roedd y wybodaeth ddiweddaraf am grantiau a thybiaethau wedi darparu arian ychwanegol o gymharu â'r gyllideb dros dro y cytunwyd arni ar 6 Ionawr 2020.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau fod manylion llawn y setliad dros dro yn yr adroddiad; roedd y cyllid ar gyfer Llywodraeth Leol ar sail Cymru gyfan wedi cynyddu 4.3%, gyda Sir Gaerfyrddin yn derbyn 4.4%.  Roedd hyn yn adlewyrchu'r gydnabyddiaeth o'r lefel ddigynsail o bwysau ariannol sy'n wynebu Awdurdodau Lleol.  Er gwaethaf y cynnydd mewn cyllid, roedd angen gwneud arbedion o hyd.

 

Wrth ystyried y byddai setliad terfynol Llywodraeth Cymru yn dod i law ar 25 Chwefror 2020, gofynnwyd yn yr adroddiad i roi awdurdod i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol ar y cyd â'r Arweinydd, y Prif Weithredwr a'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau i wneud unrhyw addasiadau angenrheidiol i Strategaeth y Gyllideb cyn cyfarfod y Cyngor Sir ar 3 Mawrth 2020.

 

Dywedwyd wrth y Bwrdd Gweithredol bod yr adroddiad wedi cael ei addasu'n briodol wrth i'r wybodaeth ddod i law. Ac eithrio costau pensiynau athrawon, roedd cyfanswm y dilysiad yn ychwanegu tua £11.8m at y gyllideb. Roedd yr adroddiad yn tynnu sylw at y lefel uchel o ansicrwydd ynghylch cyflogau, ond roedd y gyllideb wedi caniatáu ar gyfer cynnydd o 2.75% bob blwyddyn. Fodd bynnag, nodwyd nad oedd y cynnig cyflog yn berthnasol i athrawon, a oedd yn destun trefniant cyflog cenedlaethol ar wahân. Pennwyd dyfarniad mis Medi 2019 ar 2.75% a thybiwyd y lefel hon ar gyfer y blynyddoedd sydd i ddod, ond cydnabuwyd bod hyn yn risg allweddol o ran y gyllideb.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau wrth y Bwrdd Gweithredol fod £311k  wedi'i ychwanegu at y gyllideb ysgolion, gan arwain at gynnydd cyffredinol yng nghyllidebau dirprwyedig ysgolion o £10.1m, roedd hyn yn dangos cefnogaeth sylweddol i ysgolion ac yn darparu'r un lefel o ran gwariant â'r flwyddyn bresennol.

 

Cyfeiriwyd at amserlen fer y gyllideb, er gwaethaf hyn, roedd y broses ymgynghori wedi bod yn llwyddiannus, gyda dros 2,000 o ymatebion wedi dod i law. Roedd yr ymgynghoriad wedi caniatáu cyfnod ar gyfer dadlau ar y gyllideb a chafwyd adborth sylweddol. Gan ystyried canlyniad yr ymgynghoriad a'r addasiad i'r gyllideb, cafodd y cynigion canlynol eu tynnu yn ôl:

 

  • Cau Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref Hendy-gwyn ar Daf.
  • Cau toiledau cyhoeddus.
  • Gostyngiad yng nghyllideb y Gwasanaethau Cymorth Ieuenctid.
  • Cynyddu taliadau mynwentydd.

 

Yn ogystal, byddai'r  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

RHAGLEN GYFALAF PUM MLYNEDD 2020/21 I 2024/25 pdf eicon PDF 133 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a oedd yn dwyn ynghyd y cynigion diweddaraf am Raglen Gyfalaf Bum Mlynedd (Cronfa'r Cyngor) 2020/2021 hyd at 2024/2025. Roedd yr adroddiad yn cymryd i ystyriaeth yr ymgynghoriad a gynhaliwyd a'r goblygiadau refeniw oedd yn deillio o'r rhaglen gyfalaf.

 

Nododd y Bwrdd mai £106.393m oedd gwariant gros arfaethedig y rhaglen gyfalaf am 2020/21. Y bwriad oedd i'r Cyngor Sir gyllido £57.563m o'r rhaglen drwy ddefnyddio benthyciadau, derbyniadau cyfalaf, arian wrth gefn a'r grant cyfalaf cyffredinol a bod y £48.830m oedd yn weddill yn dod o ffynonellau allanol.

 

Dywedwyd wrth y Bwrdd y rhagwelid y byddai'r rhaglen gyfalaf yn cael ei chyllido'n llawn dros y cyfnod o bum mlynedd o 2020/21 hyd at 2024/2025.

 

Nododd y Bwrdd Gweithredol fod y rhaglen yn cynnwys gwariant arfaethedig ar brosiectau Bargen Ddinesig Dinas-ranbarth Abertawe y byddai'r awdurdod yn benthyca yn eu herbyn, gyda'r cyllid yn cael ei ddychwelyd o Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU dros gyfnod o 15 mlynedd (o 2018/19).

 

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau wrth y Bwrdd fod y rhaglen gyfalaf arfaethedig yn rhagweld gwariant o bron i £255m dros y pum mlynedd a bod y rhaglen yn gwneud y gorau posibl o'r cyfleoedd ariannu ac yn gwneud y mwyaf o'r cyllid sydd ar gael o ffynonellau allanol.

 

Dywedwyd wrth y Bwrdd Gweithredol nad oedd Llywodraeth Cymru wedi darparu unrhyw ragamcanion mewn perthynas â'r cyllid cyfalaf cyffredinol y tu hwnt i 2020/21 a bod y rhaglen, o ganlyniad i hyn, yn seiliedig ar y ffaith y byddai benthyciadau â chymorth a grantiau cyffredinol yn parhau ar yr un lefel â 2020/21.

 

Cadarnhaodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau fod buddsoddiad wedi'i wneud yn Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif, Priffyrdd, Adfywio a Thai.  Yn y Gwasanaethau Cymunedol, roedd y rhaglen gyfalaf yn buddsoddi mewn gwasanaethau hamdden a diwylliannol gan gynnwys £1.9m i Oriel Myrddin, £650k i Ganolfan Hamdden Caerfyrddin a'r cymorth parhaus ar gyfer tai yn y sector preifat yn 2024/25 ar gyfer Grantiau Cyfleusterau i Bobl Anabl.

 

Dywedwyd wrth y Bwrdd Gweithredol y byddai cymorth yn parhau ar gyfer gwella priffyrdd, cynnal a chadw pontydd, a chynlluniau diogelwch ffyrdd yn 2024/25. Byddai cyllid ar gyfer cynnal a chadw priffyrdd yn cael ei gryfhau yn 2020/21 drwy'r Grant Adnewyddu Ffyrdd a ddarperir gan Lywodraeth Cymru.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau y bu'n bosibl gwneud ymrwymiadau ychwanegol ar draws ystadau'r Cyngor gyda darpariaeth o £2.5m ar gyfer gwaith hanfodol i Neuadd y Sir, £500k ar gyfer gwaith yn Nh? Elwyn a £3.9 m tuag at gynnal a chadw parhaus ar draws yr ystâd yn 2020/24. Byddai arian newydd yn cael ei ddarparu ar gyfer mentrau Carbon Sero-net ar draws yr ystâd.

 

Yn ogystal, byddai £2.7m o arian ychwanegol gan Lywodraeth Cymru yn cael ei ddefnyddio i gynnal a chadw adeiladau ysgolion.  Roedd £4m wedi gynnwys ar gyfer ailddatblygu Neuadd y Farchnad, Llandeilo a £850k ar gyfer y buddsoddiad parhaus yn Ystâd Ddiwydiannol Glanaman.  Roedd £500k wedi'i ddyrannu hefyd tuag  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 7.

8.

CYFRIF CYLLIDEB REFENIW TAI 2020/21 - 2022/23 A LEFELAU RHENTI TAI 2020/21 pdf eicon PDF 133 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a baratowyd gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, ar y cyd â swyddogion o'r Adran Cymunedau a oedd yn dod ynghyd â'r cynigion diweddaraf ar gyfer Cyllidebau Refeniw a Chyfalaf y Cyfrif Refeniw Tai am 2020/21 i 2022/23. Nodwyd bod yr adroddiad wedi cael ei ystyried a'i gymeradwyo gan y Pwyllgor Craffu – Cymunedau yn ei gyfarfod ar 5 Chwefror 2020, fel rhan o'r broses ymgynghori ynghylch y gyllideb.

 

Roedd yr adroddiad wedi cael ei baratoi gan adlewyrchu'r cynigion diweddaraf a oedd yn rhan o Gynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai, sef y prif gyfrwng cynllunio ariannol ar gyfer darparu Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy (STSG+) ar gyfer y dyfodol. Nodwyd bod y buddsoddiad arfaethedig yn y cynllun busnes presennol wedi cyflawni Safon Tai Sir Gaerfyrddin erbyn 2015 (i'r cartrefi hynny lle'r oedd tenantiaid wedi cytuno i gael y gwaith wedi'i wneud), wedi darparu'r buddsoddiad i gynnal Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy, ac wedi parhau i fuddsoddi yn Ymrwymiad i Dai Fforddiadwy'r Cyngor.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau fod buddsoddiad cyfalaf o oddeutu £230m wedi darparu Safon Tai Sir Gaerfyrddin ar gyfer tenantiaid a gwariwyd £49m arall ar gynnal Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy ar gyfer eiddo a thenantiaid.  Dros y 3 mlynedd nesaf rhagwelwyd y byddai tua £49m yn cael ei wario ar gynnal a gwella ein stoc tai.

 

Atgoffwyd y Bwrdd Gweithredol ei fod yn ofynnol ers 2015 i'r Awdurdod fabwysiadu Polisi Cysoni Rhent Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, sef bod y cynnydd arfaethedig mewn rhent yn cael ei ragnodi gan ganllawiau Lywodraeth Cymru, a thrwy hynny, ddarparu dosbarthiad mwy teg o ran rhenti ar gyfer tenantiaid y sector cymdeithasol.  Daeth y polisi hwn i ben yn 2018/19 a chyflwynwyd polisi interim am flwyddyn ar gyfer 2019/20, gan Lywodraeth Cymru, ac erbyn hyn mae'r Llywodraeth wedi cyflwyno polisi newydd i'w weithredu yn 2020/21.  Roedd y polisi interim hwnnw'n caniatáu i Awdurdodau Lleol o fewn eu band rhent targed gynyddu rhent yn ôl CPI +1% yn unig. Roedd hefyd yn caniatáu i lefel y rhent i denantiaid unigol gynyddu hyd at £2 yn ychwanegol ar ben y CPI + 1% ar gyfer cysoni rhenti, ar yr amod na fyddai cyfanswm yr incwm rhent a fyddai'n cael ei gasglu gan y landlord cymdeithasol yn fwy na CPI + 1%.

 

Byddai'r polisi newydd yn gymwys am 5 mlynedd o 2020/21 ac roedd yn cynnwys meini prawf ychwanegol ynghylch bodlonrwydd tenantiaid, safonau o ran gofod, lleihau achosion o droi allan ac effeithlonrwydd ynni.  Roedd hefyd yn nodi'r angen i ddatgarboneiddio'r stoc tai cymdeithasol, a fyddai'n fuddsoddiad sylweddol i awdurdodau.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR:-

 

8.1

bod y rhent tai cyfartalog yn cael ei gynyddu yn unol â Pholisi Rhenti Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru h.y. :-

a)    bod cynnydd o 2.53% yn cael ei wneud i renti eiddo sydd ar y targed

b)   bod cynnydd o 2.53% yn cael ei wneud i'r rhenti hynny sydd yn is na'r rhent targed a'u bod  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 8.

9.

SAFON TAI SIR GAERFYRDDIN A MWY (STSG+) CYNLLUN BUSNES 2020-23 pdf eicon PDF 808 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried Cynllun Busnes Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy 2020-2023, a phrif bwrpas y cynllun oedd:

 

·         Egluro'r weledigaeth a'r manylion yngl?n â chynnal a gwella Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy dros y tair blynedd nesaf, a beth y mae hyn yn ei olygu i'r tenantiaid

·         Nodi ein bwriad i ddatblygu safon newydd ar gyfer Sir Gaerfyrddin drwy barhau i symud tuag at dai carbon niwtral, rhai presennol a rhai newydd, gan sicrhau bod cadwyn gyflenwi, swyddi a chyfleoedd hyfforddi newydd yn cael eu darparu

·         Cadarnhau'r proffil ariannol, yn seiliedig ar y rhagdybiaethau presennol, ar gyfer cyflawni Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy dros y tair blynedd ariannol nesaf

·         Llunio cynllun busnes ar gyfer y cais blynyddol i Lywodraeth Cymru am Lwfans Atgyweiriadau Mawr (MRA) ar gyfer 2020/21, sy’n cyfateb i £6.1m.

 

Roedd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Dai wedi tynnu sylw at y ffaith bod yr adroddiad yn manylu ar y bwriad i weithio gyda phartneriaid i ddatblygu safon newydd yn Sir Gaerfyrddin drwy barhau i symud tuag at gartrefi carbon niwtral, rhai presennol a rhai newydd.  Gyda chymorth Prifysgol Caerdydd, roedd yr Awdurdod wedi bod yn gweithio ar ôl-osod amrywiaeth o dechnolegau carbon isel gan gynnwys cyflenwadau ynni adnewyddadwy, storio ynni a thechnolegau lleihau'r galw am ynni.  Roedd offer monitro wedi'i osod a byddai'r canlyniadau'n cael eu dadansoddi o ran cost, manteision i denantiaid a pha mor hawdd yw defnyddio'r offer.

 

Dywedwyd wrth y Bwrdd Gweithredol bod bron i £49m wedi'i neilltuo i gynnal Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy ar gyfer tenantiaid presennol dros y 3 blynedd nesaf er mwyn galluogi tenantiaid i elwa ar gartrefi sy'n garbon isel ac sy'n rhatach i'w rhedeg.

 

Cadarnhaodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Dai fod yr Awdurdod ar fin cyflawni ei addewid i ddarparu 1,000 o dai fforddiadwy ychwanegol erbyn 2021. Cyflawnwyd hyn drwy brynu tai ar y farchnad agored, ailddefnyddio eiddo gwag unwaith eto ac adeiladu cartrefi newydd.  Mae dros 60 o aelwydydd wedi cael eu tai drwy'r Gofrestr Tai Hygyrch gan sicrhau bod y tai'n diwallu eu hanghenion tai penodol.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Dai, er bod llawer wedi'i gyflawni, roedd yn cydnabod bod mwy i'w wneud o hyd ond roedd yr Awdurdod yn barod i wynebu'r heriau. Yn y cynllun a gafodd ei gyhoeddi nodwyd bwriad yr Awdurdod i ddatblygu rhaglen adeiladu newydd ar gyfer Cartrefi Croeso er mwyn sicrhau cynifer â phosibl o dai, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig.  Roedd y gwaith i adeiladu cartrefi Cyngor newydd yn Dylan eisoes wedi dechrau gyda bron i £52m ar gael i'w wario dros y tair blynedd nesaf ar adeiladu mwy o dai Cyngor a byddai hyn yn cyd-fynd â'r rhaglen fuddsoddi tai ehangach.  Byddai hyn yn galluogi'r Awdurdod i ganolbwyntio ar y datblygiad arfaethedig yn ward T?-isa, y Pentref Llesiant, Canol Trefi a threfi gwledig.

 

Dywedwyd wrth y Bwrdd Gweithredol bod yr Awdurdod yn ymwybodol bod cyflwyno Credyd Cynhwysol wedi golygu her i denantiaid o ran rheoli  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 9.

10.

POLISI RHEOLI'R TRYSORLYS A STRATEGAETH 2020-21 pdf eicon PDF 127 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Atgoffwyd y Bwrdd Gweithredol fod y Cyngor, yn unol â gofynion Côd Ymarfer diwygiedig CIPFA ynghylch Rheoli'r Trysorlys, wedi cytuno i gynnal Polisi Rheoli'r Trysorlys a oedd yn manylu ar bolisïau ac amcanion gweithgareddau'r Awdurdod o ran Rheoli'r Trysorlys, a hefyd i gymeradwyo Strategaeth Rheoli'r Trysorlys yn flynyddol cyn dechrau'r flwyddyn ariannol yr oedd yn ymwneud â hi. Yn ogystal, dan ddarpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2003, roedd yn ofynnol i'r Cyngor gymeradwyo Dangosyddion Rheoli'r Trysorlys ar gyfer y flwyddyn i ddod.

 

Yn unol â'r gofynion uchod, rhoddodd y Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i Bolisi a Strategaeth y Cyngor ynghylch Rheoli'r Trysorlys ar gyfer blwyddyn ariannol 2020/21 cyn eu rhoi gerbron y Cyngor yn ffurfiol ar gyfer eu mabwysiadu.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR:-

 

10.1

bod Polisi a Strategaeth Rheoli'r Trysorlys ar gyfer 2020-21 a'r argymhellion a nodwyd ynddynt yn cael eu cymeradwyo.

10.2

bod Dangosyddion Rheoli'r Trysorlys, y Dangosyddion Darbodaeth, y  Datganiad ynghylch y Ddarpariaeth Isafswm Refeniw a'r argymhellion yn cael eu cymeradwyo.

 

11.

CYFRADDAU BUSNES - CYNLLUN RHYDDHAD ARDRETHI'R STRYD FAWR 2020/21 pdf eicon PDF 132 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried Ardrethi Busnes - Cynllun Rhyddhad Ardrethi'r Stryd Fawr a Manwerthu 2020/21, gyda'r bwriad o ystyried mabwysiadu cynllun rhyddhad ardrethi sy'n cael ei ddarparu i awdurdodau bilio gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2020/21.

 

Roedd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau wedi atgoffa'r Bwrdd Gweithredol bod yr ailbrisiad ardrethi annomestig cenedlaethol wedi dod i rym ar 1 Ebrill 2017, gan arwain at rai ardaloedd yn elwa ar ostyngiadau mewn gwerthoedd ardrethol, megis canol tref Llanelli a threthdalwyr eraill yn gweld cynnydd sylweddol.  Cyhoeddwyd Cynllun Rhyddhad Trosiannol gan Lywodraeth Cymru i liniaru effaith a chyfyngu ar unrhyw gynnydd ar gyfer trethdalwyr mewn safleoedd bach drwy gyflwyno'r cynnydd fesul cam dros 3 blynedd ariannol.  Daeth y Cynllun Rhyddhad Trosiannol i ben eleni.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau fod Llywodraeth Cymru, yn 2017, wedi cyflwyno cynllun rhyddhad ardrethi pellach gyda'r nod o helpu'r sector manwerthu a lletygarwch.  Roedd Cyngor Sir Caerfyrddin wedi mabwysiadu'r cynllun hwn ar gyfer 2017/18, 2018/19 a 2019/20.  Nid oedd y cynllun hwn wedi'i gyfyngu i ganol trefi er bod eiddo mewn parciau manwerthu ac ystadau diwydiannol y tu allan i drefi wedi'u heithrio yn ogystal â busnesau yn y sector gwasanaethau. Roedd y cynllun hwn wedi'i anelu'n benodol at fusnesau a manwerthwyr ar y stryd fawr megis siopau, tafarndai, bwytai a chaffis.

 

Roedd Llywodraeth Cymru wedi penderfynu ymestyn y cynllun i 2020-21, gyda'r nod o ddarparu cymorth ar gyfer busnesau adwerthu cymwys drwy gynnig disgownt o hyd at £2,500 ar y bil ardrethi annomestig fesul eiddo, a hynny i adwerthwyr mewn safleoedd sydd â gwerth ardrethol rhwng £6,001 a £50,000 yn ystod blwyddyn ariannol 2020-21.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fabwysiadu Cynllun Rhyddhad Ardrethi y Stryd Fawr a Manwerthu 2020/21.

12.

MODEL POLISI CYFLOGAU ATHRAWON 2019/20 pdf eicon PDF 156 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[Noder: Roedd y Cynghorwyr E. Dole, L.D Evans a P. Hughes-Griffiths a W. Walters (Prif Weithredwr) wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach].

 

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried y Polisi Tâl Athrawon Enghreifftiol diwygiedig hwn sydd wedi cael ei ddiweddaru i gynnwys tâl mis Medi 2019 fel y nodir yn y Ddogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) 2019. Ymgynghorwyd yn llawn â chymdeithasau athrawon, yn rhanbarthol ac yn lleol, ynghylch y Polisi.

 

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd wrth y Bwrdd Gweithredol fod yn rhaid i bob ysgol bennu polisi cyflog sydd hefyd yn nodi'r gweithdrefnau achwyniadau ynghylch cyflog. Roedd y datganiad wedi'i ddiwygio gan gr?p Adnoddau Dynol consortiwm ERW ac roedd yn adlewyrchu dyfarniad cyflog 2019. 

 

Roedd y Dirprwy Arweinydd wedi annog bob corff llywodraethu i ymgyfarwyddo â chynnwys y polisi ac y byddai'r adran Adnoddau Dynol yn darparu cyngor ac arweiniad ar fabwysiadu'r polisi hwn pe byddai angen.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant y byddai'n gofyn i bennaeth yr Adran Addysg anfon llythyr at bob corff llywodraethu yn tynnu sylw at eu cyfrifoldebau yngl?n â'r polisi hwn.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r Polisi Cyflogau Athrawon Enghreifftiol 2019/20 a'i gyflwyno i'r ysgolion er mwyn i'w Cyrff Llywodraethu ei fabwysiadu'n ffurfiol.

13.

MODEL POLISI CYFLOGAU ATHRAWON DIGYSWLLT 2019/20 pdf eicon PDF 156 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried Polisi Cyflogau Athrawon Digyswllt Enghreifftiol, a oedd wedi cael ei ddiweddaru i adleisio dyfarniad cyflog Medi 2019 fel y nodir yn y Ddogfen Cyflog ac Amodau Athrawon (Cymru) 2019.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r Polisi Cyflogau Athrawon Digyswllt Enghreifftiol 2019/20 a'i gyflwyno i'r ysgolion er mwyn i'w Cyrff Llywodraethu ei fabwysiadu'n ffurfiol.

14.

UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL, 1972.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw eitemau eraill o fater brys.

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau