Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Janine Owen 01267 224030
Rhif | eitem | |||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.
|
||||||||||||||||
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
|
||||||||||||||||
LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y BWRDD GWEITHREDOL A GYNHALWYD AR Y Dogfennau ychwanegol: |
||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 30 Tachwedd, 2020 yn gofnod cywir.
|
||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 23 Tachwedd, 2020 yn gofnod cywir.
|
||||||||||||||||
CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN YR AELODAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [NODER: Roedd y Cynghorydd J. Gilasbey wedi datgan yn gynharach fuddiant personol a rhagfarnol yn eitem 8 ar yr agenda – Cynnig i Adolygu'r Ddarpariaeth Addysg yn Ardaloedd Mynyddygarreg a Gwenllian. Roedd hi wedi cael caniatâd gan y Pwyllgor Safonau i siarad ar y mater.]
Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau. Fodd bynnag, roedd y Cynghorydd J. Gilasbey wedi gofyn am ganiatâd yn unol â Rheol Gweithdrefn y Cyngor 11.1 i ofyn cwestiwn mewn perthynas ag eitem 8 ar yr agenda – Cynnig i Adolygu'r Ddarpariaeth Addysg yn Ardaloedd Mynyddygarreg a Gwenllian.
Gofynnodd y Cynghorydd Gilasbey am gadarnhad ac eglurder i'r bobl ym Mynyddygarreg ac eraill yn ei ward nad yw'r penderfyniad i wneud y newidiadau hyn eisoes wedi'i wneud ac y bydd ystyriaeth briodol yn cael ei rhoi i'w barn yn yr ymgynghoriad arfaethedig, gyda phob dewis arall yn cael ei drafod a'i adolygu'n llawn cyn gwneud unrhyw benderfyniad i gau ysgol leol boblogaidd. Gofynnodd pam nad yw cyrff llywodraethu lleol y ddwy ysgol, a oedd yn y broses o drafod i fynd o ffederasiwn meddal i ffederasiwn caled, wedi cael eu cynnwys yn llwyr neu wedi gallu cyfrannu gyda'i gilydd i'r cynnig presennol.
Eglurodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant nad oes penderfyniad wedi'i wneud ynghylch dyfodol ysgolion Mynyddygarreg a Gwenllian. Ni fyddai penderfyniad yn cael ei wneud heddiw. Dim ond mewn perthynas â'r cynigion y byddai'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried a ddylid dechrau'r broses ymgynghori.
Gyda golwg ar ail ran y cwestiwn, eglurodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol fod trafodaethau cychwynnol wedi'u cynnal gyda'r Cyrff Llywodraethu a'r Pennaeth. Bydd y broses ymgynghori yn galluogi pawb i roi eu barn, o'r Corff Llywodraethu i'r athrawon, rhieni a'r cyhoedd. Ailadroddodd na fyddai unrhyw benderfyniad yn cael ei wneud heddiw.
|
||||||||||||||||
CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.
|
||||||||||||||||
CYNNIG I LEIHAU'R BROSES BENDERFYNU FEWNOL YNGHYLCH TREFNIADAETH YSGOLION PDF 424 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Ystyriodd y Bwrdd Gweithredol adroddiad a fanylai ar gynigion i fyrhau'r Broses Fewnol bresennol o Benderfynu ar Drefniadaeth Ysgolion wedi iddi gael ei chymeradwyo gan yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant ym mis Medi 2018. Datblygwyd y cynnig presennol mewn ymateb i effaith y pandemig Covid-19 ar waith y Tîm Moderneiddio Darpariaeth Addysg a'r oedi o tua 6 mis a fu yn ei raglen waith o ganlyniad.
Er bod y tîm bellach wrthi'n ymgymryd â'r holl waith a gynlluniwyd cyn y pandemig o fewn amserlen mor agos â phosibl at y gwreiddiol, adroddwyd bod yna broblem yn ymwneud â datblygiad cynigion i ad-drefnu ysgolion. Fel y cyfryw, ystyriwyd lleihau'r Broses Fewnol o Benderfynu ar Drefniadaeth Ysgolion er mwyn helpu'r tîm i ail-flaenoriaethu'r ymgynghoriadau gofynnol mewn modd effeithiol ac amserol.
Er mwyn cyflawni'r lleihad hwnnw, cynigiwyd bod ymgynghori â'r Pwyllgor Craffu - Addysg a Phlant yn cael ei ddileu o Gamau 2 a 3 y broses ar y sail bod y Bwrdd Gweithredol yn gallu cymeradwyo Cam 2 a bod y Cyngor Sir yn gallu cymeradwyo Cam 3. Pe bai hyn yn cael ei fabwysiadu, byddai'r broses ymgynghori yn cymryd tua 2 fis yn llai. Y broses newydd wedyn fyddai:-
Cam 1 – Y Pwyllgor Craffu: Addysg a Phlant a'r Bwrdd Gweithredol Cam 2 – Y Bwrdd Gweithredol Cam 3 – Y Bwrdd Gweithredol a'r Cyngor
Nododd y Bwrdd fod y Pwyllgor Craffu - Addysg a Phlant wedi cymeradwyo'r cynnig yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Tachwedd 2020 ac argymhellodd fod y Bwrdd Gweithredol yn diwygio'r broses ar gyfer datblygu cynigion ac ymgynghoriadau statudol fel y nodir yn yr adroddiad h.y. dileu'r ymgynghori â'r Pwyllgor Craffu - Addysg a Phlant yng Nghamau 2 a 3 o'r Broses Fewnol o Benderfynu ar Drefniadaeth Ysgolion.
Cyfeiriwyd at y siart llif enghreifftiol a oedd wedi'i gynnwys yn yr adroddiad ac at y ffaith y dylid cynnwys yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg a Phlant wrth y Bwrdd fod hyn yn digwydd fel mater o drefn ond byddai'n sicrhau bod y siart yn cael ei newid yn unol â hynny.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR y dylid cymeradwyo'r cynnig i fyrhau'r Broses Fewnol o Benderfynu ar Drefniadaeth Ysgolion ac y dylid dileu'r Pwyllgor Craffu - Addysg a Phlant o Gamau 2 a 3 o'r broses ymgynghori.
|
||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
|
||||||||||||||||
CYNNIG I ADOLYGU DARPARIAETH ADDYSG GYNRADD YN ARDALOEDD MYNYDDYGARREG A GWENLLIAN PDF 475 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a fanylai ar gynigion i adolygu'r ddarpariaeth addysg gynradd yn ardal Mynyddygarreg a Gwenllian fel rhan o'i gyfrifoldeb cyfreithiol i adolygu nifer a math yr ysgolion a oedd ganddo yn yr ardal ac a oedd yn gwneud y defnydd gorau o adnoddau a chyfleusterau i ddarparu'r cyfleoedd y mae plant yn eu haeddu.
Roedd yr adroddiad yn nodi niferoedd presennol y disgyblion yn y ddwy ysgol a'r niferoedd a ragwelir yn y dyfodol a'r cynigion ar gyfer darparu ysgol newydd o fewn dalgylch presennol Ysgol Gymraeg Gwenllian i Safon Llywodraeth Cymru gyda chapasiti ar gyfer 240 o ddisgyblion (210 + 30 o leoedd meithrin) rhwng 3-11 oed i sicrhau bod yr ysgol yn gallu cyflwyno'r cwricwlwm llawn mewn amgylchedd dysgu modern, diogel ac ysbrydoledig gyda mwy o fannau yn yr awyr agored. Byddai'r buddsoddiad arfaethedig hefyd yn mynd i'r afael â chyflwr gwael yr adeilad a'r diffyg lle a darpariaeth yn yr ysgol bresennol trwy ddarparu lleoedd digonol ar gyfer y galw presennol a'r galw arfaethedig mewn ysgol Categori A.
Felly cynigiwyd y canlynol:
- Cau Ysgol Gynradd Mynyddygarreg ar 31 Awst, 2021; - O 1 Medi, 2021 bydd pob disgybl wedi'i gofrestru yn Ysgol Gymraeg Gwenllian, gan weithredu ar y ddau safle (Ysgol Gymraeg Gwenllian a hen Ysgol Gynradd Mynyddygarreg) gan gynyddu nifer y lleoedd i 178 + 17 o leoedd meithrin; - Ailddynodi dalgylch Ysgol Gymraeg Gwenllian er mwyn cynnwys dalgylch hen Ysgol Gynradd Mynyddygarreg o 1 Medi 2021; - Adleoli Ysgol Gymraeg Gwenllian i safle newydd a chynyddu nifer ei lleoedd i 210 + 30 o leoedd meithrin o fis Medi 2023, pryd y cynigiwyd bod yr ysgol yn symud i'w hadeilad newydd.
Nododd y Bwrdd Gweithredol fod y Pwyllgor Craffu - Addysg a Phlant yn ei gyfarfod ar 23 Tachwedd 2020 wedi cymeradwyo'r cynnig ac argymhellodd i'r Bwrdd Gweithredol fod proses ymgynghori ffurfiol yn cael ei chychwyn.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL
|
||||||||||||||||
CYNNIG I NEWID YSTOD OEDRAN YSGOL SWISS VALLEY O 4-11 I 3-11 PDF 427 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a fanylai ar y cynnig i newid ystod oedran Ysgol Gynradd Dyffryn y Swistir o 4-11 i 3-11. Nodwyd bod Ysgol Dyffryn y Swistir wedi bod yn cynnal cynllun peilot i fod yn ysgol 3-11 ers 2013, a gychwynnwyd fel rhan o gynllun gan Lywodraeth Cymru i roi hyblygrwydd a dewis i rieni o ran darpariaeth feithrin. Fodd bynnag, gan fod yr ysgol yn cael ei hysbysebu'n swyddogol ar hyn o bryd fel ysgol 4-11 oed, roedd rhieni'n gymysglyd ynghylch pa ddarpariaeth feithrin a gynigir gan yr ysgol neu nid oeddynt yn ymwybodol o'r ddarpariaeth.
Nod y cynnig oedd darparu darpariaeth gyfartal yn ardal Llanelli, gan alinio Ysgol Dyffryn y Swistir ag ysgolion cyfagos a oedd eisoes yn ysgolion 3-11 oed. Roedd y corff llywodraethu a'r pennaeth yn teimlo'n gadarnhaol yn dilyn canlyniad y cynllun peilot ac roeddent bellach am fwrw ymlaen â gwneud yr ysgol yn ysgol 3-11 oed yn swyddogol drwy broses statudol.
Felly cynigiwyd newid ystod oedran Ysgol Gynradd Dyffryn y Swistir o 4-11 i 3-11 o 1 Medi 2021.
Nododd y Bwrdd fod y Pwyllgor Craffu - Addysg a Phlant yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Tachwedd 2020 wedi cymeradwyo'r cynigion ac wedi argymell bod y Bwrdd Gweithredol yn cychwyn ymgynghoriad ffurfiol
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL
|
||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [SYLWER: Gan i'r Cynghorydd P. Hughes-Griffiths ddatgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, gadawodd y cyfarfod cyn i'r cais gael ei ystyried a chyn y gwnaed penderfyniad yn ei gylch.]
Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a fanylai ar gynigion i adolygu'r ddarpariaeth addysg gynradd yn ardaloedd Blaenau a Llandybïe fel rhan o'i gyfrifoldeb cyfreithiol i adolygu nifer a math yr ysgolion a oedd ganddo yn yr ardal ac a oedd yn gwneud y defnydd gorau o adnoddau a chyfleusterau i ddarparu'r cyfleoedd y mae plant yn eu haeddu.
Roedd yr adroddiad yn nodi niferoedd presennol y disgyblion yn y ddwy ysgol a'r niferoedd a ragwelir yn y dyfodol a'r cynigion ar gyfer darparu ysgol newydd o fewn dalgylch presennol Ysgol Gynradd Llandybïe i Safon Llywodraeth Cymru gyda chapasiti ar gyfer 315 o ddisgyblion a 45 o ddisgyblion meithrin rhwng 3-11 oed i sicrhau bod yr ysgol yn gallu cyflwyno'r cwricwlwm llawn mewn amgylchedd dysgu modern, diogel ac ysbrydoledig gyda mwy o fannau yn yr awyr agored. Byddai'r buddsoddiad arfaethedig hefyd yn mynd i'r afael â chyflwr gwael yr adeilad a'r diffyg lle a darpariaeth yn yr ysgol bresennol trwy ddarparu lleoedd digonol ar gyfer y galw presennol a'r galw arfaethedig mewn ysgol Categori A
Felly cynigiwyd y canlynol:
- Cau Ysgol Gynradd Blaenau ar 31 Awst 2021; - O 1 Medi 2021 bydd pob disgybl wedi'i gofrestru yn Ysgol Llandybïe gan ddefnyddio'r ddau safle (Ysgol Gynradd Llandybïe a'r hen Ysgol Gynradd Blaenau) gan gynyddu nifer y lleoedd i 287 + 50 o leoedd meithrin; - Ailddynodi dalgylch Ysgol Gynradd Llandybïe er mwyn cynnwys dalgylch hen Ysgol Gynradd Blaenau o 1 Medi 2021; - Newid natur y ddarpariaeth yn Ysgol Gynradd Llandybïe i gyfrwng Cymraeg o 1 Medi 2021; - Adleoli Ysgol Gynradd Llandybïe i safle newydd a chynyddu nifer ei lleoedd i 315 + 45 o leoedd meithrin o fis Medi 2024, pryd y cynigir bod yr ysgol yn symud i'w hadeilad newydd.
Nododd y Bwrdd Gweithredol fod y Pwyllgor Craffu - Addysg a Phlant yn ei gyfarfod ar 23 Tachwedd 2020 wedi cymeradwyo'r cynnig ac argymhellodd i'r Bwrdd Gweithredol y dylid cychwyn proses ymgynghori ffurfiol.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL
|
||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a fanylai ar gynigion i ad-drefnu ac ailfodelu'r Gwasanaethau Cymorth Ymddygiad yn Ysgol Rhyd-y-gors i wella'r ddarpariaeth ar gyfer plant a phobl ifanc. Roedd yn nodi, yn dilyn adolygiad strategol o Wasanaethau Ymddygiad yr Awdurdod, fod cynnig wedi'i wneud i roi'r gorau i ganolbwyntio'n unig ar ymddygiad a defnyddio dull mwy cyffredinol o gynnwys llesiant disgyblion ac ennyn eu diddordeb. Er mwyn cyflawni hynny, roedd model pedwar cam o wasanaethau ymddygiad wedi cael ei ddatblygu a oedd yn cynnwys darparu cymorth o ran ymddygiad ac ymgysylltu ar bedair lefel, gyda'r cymorth yn amrywio o ymyrraeth a chymorth mewn ysgolion prif ffrwd i seibiant arbenigol neu leoliadau preswyl. Er mwyn cysondeb, mynediad at gymorth arbenigol iawn, mynediad i gwricwlwm eang a chytbwys gydag ystod o opsiynau achredu a'r cynnig o gynlluniau addysg unigol a phwrpasol a gynigir yn yr Unedau Cyfeirio Disgyblion presennol drwy'r dull 3 Haen, roedd yn ofynnol cau Ysgol Rhyd-y-gors fel ysgol arbennig a'i sefydlu fel Uned Cyfeirio Disgyblion a byddai'r cynnig a gyflwynwyd i'r Bwrdd, pe bai'n cael ei gymeradwyo, yn cychwyn y newid hwnnw.
Felly cynigiwyd y canlynol:
- Cau Ysgol Arbennig Rhyd-y-gors ar 31 Awst 2021. Bydd holl gyn-ddisgyblion Ysgol Rhyd-y-gors yn parhau i gael eu haddysg ar safle hen Ysgol Rhyd-y-gors. Os caiff ei gymeradwyo, yn hytrach na chael darpariaeth mewn ysgol arbennig, bydd disgyblion yn cael eu haddysgu mewn Uned Cyfeirio Disgyblion. Er y dylid ystyried y cynnig yn ei gyfanrwydd, roedd y ddogfen ymgynghori yn ymwneud â phwynt 1 yn unig. Byddai pwyntiau 2 a 3 a nodir isod yn cael eu gweithredu drwy weithdrefnau ar wahân; - Os caiff yr uchod (Pwynt 1) ei gymeradwyo, bydd yr Awdurdod Lleol yn sefydlu Uned Cyfeirio Disgyblion ar safle hen Ysgol Rhyd-y-gors ar 1 Medi 2021; - Yn ogystal, os caiff Pwynt 1 ei gymeradwyo, bydd yr Awdurdod Lleol yn sefydlu Canolfan Gofal Seibiant/Cartref Plant ar safle hen Uned Breswyl/Ysgol Rhyd-y-gors ar 1 Medi 2021. Bydd pob un o gyn-ddisgyblion Ysgol Rhyd-y-gors sydd ag elfen o addysg breswyl yn rhan o'u Datganiad AAA yn parhau i dderbyn hyn ar safle hen Ysgol Rhyd-y-gors.
Nododd y Bwrdd Gweithredol fod y Pwyllgor Craffu - Addysg a Phlant yn ei gyfarfod ar 23 Tachwedd 2020 wedi cymeradwyo'r cynnig ac argymhellodd i'r Bwrdd Gweithredol fod proses ymgynghori ffurfiol yn cael ei chychwyn.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL
|
||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: [NODER: Roedd y Cynghorydd J. Tremlett wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]
Ystyriodd y Bwrdd Gweithredol adroddiad a fanylai ar y sylwadau a gafwyd ar Gynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Sir Gaerfyrddin 2018-2033 mewn ymateb i benderfyniad y Cyngor ar 10 Ionawr 2018 i ddechrau paratoi CDLl Diwygiedig (Newydd) yn ffurfiol. Roedd y penderfyniad hwnnw'n cynnwys ymgynghoriad cyhoeddus chwe wythnos o hyd a gynhaliwyd rhwng 29 Ionawr 2020 ac, yn dilyn estyniad o dros bythefnos, a ddaeth i ben ar 27 Mawrth 2020. Ategwyd hynny wedyn gan ymgynghoriad 3 wythnos arall a ddaeth i ben ar 2 Hydref 2020 i adlewyrchu effaith cau adeiladau cyhoeddus yn ystod wythnosau olaf yr ymgynghoriad oherwydd y pandemig Covid-19.
Nodwyd bod angen gwneud rhai newidiadau i Atodiadau 2, 8 a 9 cyn eu cyflwyno i'r Cyngor Llawn.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR:-
|
||||||||||||||||
DATGANIAD TECHNEGOL RHANBARTHOL AR GYFER AGREGAU – DE CYMRU – AIL ADOLYGIAD (RTS2) PDF 349 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Ystyriodd y Bwrdd Gweithredol adroddiad ar yr adolygiad a gynhaliwyd o'r Datganiad Technegol Rhanbarthol ar gyfer Agregau – De Cymru a gynhyrchwyd yn unol â gofynion Nodyn Cyngor Technegol Mwynau 1: Agregau (MTAN 1).
Nododd y Bwrdd mai diben yr RTS2 oedd darparu strategaeth ar gyfer cyflenwi agregau adeiladu yn y dyfodol ym mhob rhanbarth (Gogledd a De Cymru) gan ystyried y wybodaeth ddiweddaraf mewn perthynas â chydbwysedd y cyflenwad a'r galw a'r syniadau cyfredol am gynaliadwyedd fel y'u nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Roedd yn darparu mecanwaith ar gyfer annog rheolaeth gynaliadwy ar adnoddau naturiol o fewn rhanbarth am gyfnod o 25 mlynedd ar gyfer creigiau wedi'u mathru a 22 mlynedd ar gyfer tywod a graean a gafwyd o'r tir. Roedd y ddogfen hefyd yn ystyried effaith yr egwyddor agosrwydd, capasiti amgylcheddol a nifer o ffactorau eraill yn ymwneud â chyflenwad a galw.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR y dylid cymeradwyo'r Datganiad Technegol Rhanbarthol ar gyfer Agregau – De Cymru – Ail Adolygiad (RTS2).
|
||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Atgoffwyd y Bwrdd Gweithredol ei fod, yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Gorffennaf 2020 mewn ymateb i ddau Hysbysiad o Gynnig, wedi sefydlu Panel Ymgynghorol Gorchwyl a Gorffen, a oedd yn gytbwys yn wleidyddol, i wrando ar lais cymunedau BAME yn Sir Gaerfyrddin
Nododd y Bwrdd fod y Gr?p, yn ei gyfarfod cyntaf a gynhaliwyd ar 3 Awst 2020, a chan fod yn ymwybodol o'r sylw a'r drafodaeth gyhoeddus ar y pryd ynghylch henebion a chofebion ledled Cymru, gan gynnwys Cofeb Picton yng Nghaerfyrddin, wedi penderfynu y dylid ymdrin â dehongliad a hanes Syr Thomas Picton ar y cychwyn, gyda'r ffocws ar gyflwyno adroddiad llawn ar ganfyddiadau'r Gr?p i'r Bwrdd ym mis Chwefror 2021. Yn unol â phenderfyniad y Gr?p, derbyniodd y Bwrdd ei adroddiad interim i'w ystyried yn ymwneud â Syr Thomas Picton.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL
|
||||||||||||||||
SYLFAEN TRETH Y CYNGOR – 2021-22 PDF 360 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried yr adroddiad ar Sylfaen y Dreth Gyngor 2021-22. Atgoffwyd y Bwrdd ei bod yn ofynnol i'r Cyngor benderfynu, yn flynyddol, ar Sylfaen y Dreth Gyngor a Sylfaen y Dreth Gyngor ar gyfer pob cymuned yn ei ardal, at ddibenion cyfrifo lefel y Dreth Gyngor am y flwyddyn ariannol oedd i ddod a bod y gwaith cyfrifo blynyddol wedi cael ei ddirprwyo i'r Bwrdd Gweithredol, o dan ddarpariaethau Adran 84 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 a Rheoliadau Trefniadau Gweithrediaeth Awdurdodau Lleol (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Diwygio) (Cymru) 2004.
Roedd cyfrifiad Sylfaen y Dreth Gyngor ar gyfer y Cyngor Sir am 2021-22 wedi'i nodi yn Nhabl 1a ac wedi'i grynhoi yn Nhabl 1b, a oedd wedi'u hatodi i'r adroddiad. Roedd y cyfrifiad yng nghyswllt Cynghorau Tref a Chymuned unigol ar gyfer 2021-22 wedi'i grynhoi yn Nhabl 2 a'r manylion yn Atodiad A, a oedd hefyd wedi'u hatodi i'r adroddiad.
Nododd y Bwrdd fod adroddiad y Sylfaen Dreth yn darparu cyfrifiadau ar gyfer yr Awdurdod cyfan, yn ogystal â manylion ar gyfer pob ardal cyngor tref a chyngor cymuned at ddibenion eu praesept, ac mai Sylfaen y Dreth Gyngor ar gyfer blwyddyn ariannol 2021-2022 oedd £74,425.19.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL
15.1. fod y cyfrifiadau o ran pennu Sylfaen y Dreth Gyngor ar gyfer blwyddyn ariannol 2021-22, fel y manylwyd arnynt yn Atodiad A o'r adroddiad, yn cael eu cymeradwyo;
15.2. bod Sylfaen y Dreth Gyngor o £74,425.19, fel y manylwyd arni yn Nhablau 1a ac 1b o'r adroddiad, yn cael ei chymeradwyo yng nghyswllt ardal y Cyngor Sir;
15.3. bod y sylfeini treth perthnasol yng nghyswllt y Cynghorau Cymuned a Thref unigol, fel y manylwyd arnynt yn nhabl 2 o'r adroddiad, yn cael eu cadarnhau.
|
||||||||||||||||
UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL, 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw eitemau eraill o fater brys.
Estynnodd y Cadeirydd, ar ran y Bwrdd Gweithredol, gydymdeimlad diffuant i'r holl breswylwyr hynny ledled y sir y mae Covid-19 wedi effeithio arnynt, o'r rheiny sydd wedi colli anwyliaid i'r rheiny sy'n parhau i ddioddef a brwydro.
Estynnodd ei ddiolchgarwch hefyd i'w gyd-aelodau o'r Bwrdd Gweithredol am y gwaith caled a wnaed eleni ac i holl staff y Cyngor am fynd yr ail filltir, o dan arweinyddiaeth ragorol y Prif Weithredwr, a oedd wedi dangos unwaith eto ei chefnogaeth ddiflino i bobl Sir Gaerfyrddin.
Daeth â'r cyfarfod i ben trwy ddymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i bawb.
|