Lleoliad: Chamber - County Hall, Carmarthen. SA31 1JP and remotely. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Martin Runeckles 01267 224674
| Rhif | eitem | ||||||
|---|---|---|---|---|---|---|---|
|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd P. M. Hughes. |
|||||||
|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
|
|||||||
|
I LOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y CABINET A GYNHALIWYD AR Y 19 HYDREF 20926 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 19 Hydref 2026 yn gofnod cywir. |
|||||||
|
CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN YR AELODAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn ogystal â'r Cwestiwn ar Rybudd, roedd y Cynghorwyr canlynol wedi rhoi gwybod yr hoffent ofyn cwestiwn neu wneud sylwadau mewn perthynas â'r eitemau isod ar yr agenda.
- Y Cynghorydd Dai Thomas ar eitem 6 ar yr agenda - Y Cynghorydd Alex Evans ar eitemau 6, 7 ac 8 ar yr agenda - Y Cynghorydd Tyssul Evans ar eitem 8 ar yr agenda - Y Cynghorydd Meinir James ar eitem 8 ar yr agenda - Y Cynghorydd Liam Bowen ar eitem 9 ar yr agenda
Byddai'r rhain yn cael eu trafod o dan yr eitemau priodol yn ddiweddarach yn y cyfarfod. |
|||||||
|
CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD TYSSUL EVANS I'R CYNGHORYDD LINDA EVANS, ARWEINYDD Y CYNGOR A ydych chi fel aelodau’r Cabinet wedi ymweld ag Ysgol Gwynfryn Pontiets er mwyn gweld drosoch chi’ch hunain beth yw cyflwr rhannau o adeiladau’r Ysgol honno, neu a ydych yn/wedi dibynnu’n llwyr ar adroddiadau’r swyddogion perthnasol yn unig cyn dod at benderfyniad mor ddi droi’n ôl, penderfyniad môr derfynol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: A ydych chi fel aelodau’r Cabinet wedi ymweld ag Ysgol Gwynfryn Pontiets er mwyn gweld drosoch chi’ch hunain beth yw cyflwr rhannau o’r adeiladau, neu a ydych yn/wedi dibynnu’n llwyr ar adroddiadau’r swyddogion perthnasol yn unig cyn dod at benderfyniad mor ddi-droi’n ôl, penderfyniad mor derfynol.
Ymateb gan y Cynghorydd Linda Evans, Arweinydd y Cyngor Mae Aelodau'r Cabinet yn gwneud penderfyniadau’n seiliedig ar yr ystod lawn o dystiolaeth a gyflwynir iddynt drwy'r broses benderfynu ffurfiol. Mae'r wybodaeth a ddarparwyd gan swyddogion mewn perthynas ag Ysgol Gwynfryn yn seiliedig ar dystiolaeth ffeithiol fanwl a gafodd ei chasglu a'i hasesu drwy broses gadarn a thrwyadl.
Mae hyn wedi cynnwys arolygon cyflwr ar adeiladau'r ysgol, asesiadau proffesiynol, gwybodaeth am gynnal a chadw a chynllunio lleoedd disgyblion, ystyriaethau addysgol, a data perthnasol arall. Craffwyd ar y wybodaeth, ac mae ystod eang o adrannau'r cyngor yn rhan o hyn, sy'n sicrhau bod gan y Cabinet sylfaen dystiolaeth gynhwysfawr i ddod i benderfyniadau arni.
Mae'r Cabinet wedi craffu ar y wybodaeth, gan ofyn am ragor o wybodaeth, nes bod yr hyn sydd gennym yn ddigonol i ni fel Cabinet. Nid yw'r broses hon yn wahanol i unrhyw bwyllgor arall. Fel cadeirydd y Pwyllgor Cynllunio, byddwch chi Tyssul yn gyfarwydd â derbyn adroddiadau a sylwadau amrywiol gan wahanol adrannau o fewn y Cyngor a hefyd rhai allanol er mwyn gwneud penderfyniad fel pwyllgor. Mae'r dystiolaeth yn dod ger ein bron i gyd, pa bynnag bwyllgor yr ydym yn rhan ohono mae'r dystiolaeth yn cael ei chyflwyno i ni ac yna mae i fyny i ni ofyn am ragor o dystiolaeth ac mae hynny'n cael ei wneud yn yr un modd gyda chi yn y pwyllgor cynllunio ac unrhyw gyfarfodydd eraill hefyd. Felly, gallaf eich sicrhau bod y Cabinet yn gwneud hyn yn rheolaidd iawn.
Mewn perthynas â'r cwestiwn penodol, sef a ydw i wedi ymweld â'r ysgol? Nid yw'n arferol i Aelodau'r Cabinet ymweld ag ysgolion neu unrhyw wasanaethau eraill y mae'r Cyngor yn eu darparu ar lawr gwlad, ond nid yw'n wahanol i unrhyw bwyllgorau eraill sy'n cynnal ymweliadau safle, gan wneud penderfyniadau yn seiliedig ar ymweliadau safle. Nid wyf yn arbenigwr ar unrhyw beth penodol, ac mae yna lawer o bethau o fewn y Cyngor hwn yr wyf yn dibynnu ar gael gwybodaeth amdanynt ac yn ddibynnol bod y wybodaeth yn gywir, a dyna rôl y staff a'r swyddogion sy'n arbenigwyr. Ein rôl ni, fel pob un ohonom sydd yma heddiw sydd wedi cael eu hethol yn Gynghorwyr, ein rôl ni yw craffu ar y wybodaeth honno. Felly, dyna sy'n digwydd, nid yw'n dystiolaeth o'r adran addysg yn unig, mae yna adrannau eraill sy'n rhan o hyn ac yn darparu gwybodaeth, yn enwedig pan ddaw i gyflwr adeiladau a ffyrdd ac ati, felly mae'n becyn mewn ffordd o lawer o adrannau yn dod at ei gilydd ac yn rhoi'r wybodaeth gywir i ni. Gobeithio fod hyn wedi ateb eich cwestiwn Gynghorydd Tyssul Evans, diolch yn fawr. ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.1 |
|||||||
|
CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD Dogfennau ychwanegol: |
|||||||
|
CWESTIWN GAN PAUL HILL I'R CYNGHORYDD GLYNOG DAVIES, YR AELOD CABINET DROS ADDYSG O ystyried y byddai niferoedd disgyblion ac amcanestyniadau yn y dyfodol wedi bod ar gael i'r cyngor pan gynigiwyd ailadeiladu Ysgol Carwe yn wreiddiol, pa dystiolaeth newydd neu newid materol mewn amgylchiadau sydd wedi arwain at y penderfyniad a nodwyd i dynnu yn ôl y cynnig ailadeiladu ac a wnaiff y Cabinet gyhoeddi'r dystiolaeth a'r asesiadau ariannol sy'n cefnogi'r newid cyfeiriad hwnnw? Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Darllenodd y Cadeirydd y cwestiwn fel a ganlyn:
“O ystyried y byddai niferoedd disgyblion ac amcanestyniadau yn y dyfodol wedi bod ar gael i'r cyngor pan gynigiwyd ailadeiladu Ysgol Carwe yn wreiddiol, pa dystiolaeth newydd neu newid materol mewn amgylchiadau sydd wedi arwain at y penderfyniad a nodwyd i dynnu yn ôl y cynnig am ailadeiladu, ac a wnaiff y Cabinet gyhoeddi'r dystiolaeth a'r asesiadau ariannol sy'n cefnogi'r newid cyfeiriad hwnnw?”
Gan nad oedd yr aelod o'r cyhoedd yn bresennol, cadarnhaodd y Cadeirydd y byddai ateb ysgrifenedig i'r cwestiwn ar yr agenda yn cael ei ddarparu a'i ddosbarthu gyda chofnodion y cyfarfod. |
|||||||
|
CWESTIWN GAN TUDUR JONES I'R CYNGHORYDD GLYNOG DAVIES, YR AELOD CABINET DROS ADDYSG O gofio graddfa'r newid a fwriedir i addysg gynradd yn y rhan hon o Gwm Gwendraeth, allai arwain at gau pedair o'r ysgolion presennol, allwch chi amlinellu'r camau a gymerwyd gennych i asesu am ba hyd y bydd adeiladau presennol Ysgolion Gwynfryn a Phont-henri yn abl ac addas i ddarparu addysg gyflawn ac amrywiol i ddisgyblion y presennol a'r dyfodol? Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Darllenodd y Cadeirydd y cwestiwn fel a ganlyn:
“O gofio graddfa'r newid a fwriedir i addysg gynradd yn y rhan hon o Gwm Gwendraeth, allai arwain at gau pedair o'r ysgolion presennol, allwch chi amlinellu'r camau a gymerwyd gennych i asesu am ba hyd y bydd adeiladau presennol Ysgolion Gwynfryn a Phont-henri yn abl ac addas i ddarparu addysg gyflawn ac amrywiol i ddisgyblion y presennol a'r dyfodol?”
Gan nad oedd yr aelod o'r cyhoedd yn bresennol, cadarnhaodd y Cadeirydd y byddai ateb ysgrifenedig i'r cwestiwn ar yr agenda yn cael ei ddarparu a'i ddosbarthu gyda chofnodion y cyfarfod. |
|||||||
|
CWESTIWN GAN ALED DAVIES I'R CYNGHORYDD GLYNOG DAVIES, YR AELOD CABINET DROS ADDYSG Allech chi egluro'r berthynas rhwng y cynlluniau arfaethedig i ehangu Ysgol Pontyberem a'r cynnig i gau Ysgol Bancffosfelen? Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: SYLWER: Gan iddi ddatgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, ailddatganodd y Cynghorydd L.D Evans ei buddiant a gadael y cyfarfod tra bo'r eitem yn cael ei hystyried. Y Cynghorydd H.A.L Evans a gadeiriodd y cyfarfod ar gyfer yr eitem hon.
Allech chi egluro'r berthynas rhwng y cynlluniau arfaethedig i ehangu Ysgol Pontyberem a'r cynnig i gau Ysgol Bancffosfelen?
Ymateb gan y Cynghorydd Glynog Davies, yr Aelod Cabinet dros Addysg Diolch Ddirprwy Arweinydd, a diolch am y cwestiwn. Mae'n gwestiwn ynglŷn â'r estyniad i Ysgol Pontyberem. Y bwriad yw darparu capasiti ychwanegol mewn ysgol cyfrwng Cymraeg boblogaidd. Mae'n ysgol boblogaidd iawn lle mae galw mawr am leoedd. Mae llawer o rieni eisoes yn dweud eu bod yn siomedig bod eu plant wedi cael eu gwrthod i fynd i'r ysgol hon. Os ydych chi'n cofio cafwyd gwaith adnewyddu sylweddol ym Mhontyberem yn ôl yn 2017 ac mae'r Cyngor wedi derbyn cymeradwyaeth mewn egwyddor gan gyllid Grant Cyfalaf Cyfrwng Cymraeg Llywodraeth Cymru, a dyna le byddai'r arian yn dod, os ydym yn ei dderbyn, ond mae'r gymeradwyaeth wedi'i derbyn. Bydd hyn yn darparu dwy ystafell ddosbarth ychwanegol yn yr ysgol, mae'r estyniad yn fuddsoddiad ar wahân, ac nid yw'n dibynnu ar yr ymgynghoriad ar Ysgol Bancffosfelen. Mae'r capasiti ychwanegol hwn yn angenrheidiol yn Ysgol Pontyberem, fel yr wyf wedi esbonio ac fel yr wyf wedi dweud sawl gwaith, dewis rhieni yn aml iawn, sy'n penderfynu pa ysgol mae’r plant yn ei mynychu. Ac mae yna rieni yn yr ardal hon sydd wedi cael eu siomi yn y gorffennol oherwydd nad oedd unrhyw le yn yr ysgol. Felly byddwn yn symud ymlaen i ychwanegu at y capasiti hwnnw, ac mae derbyn y plant i'r ysgol wedyn yn dibynnu ar y trefniadau derbyn arferol.
Cwestiwn atodol gan y Aled Davies Rwy'n ailadrodd bod yr adroddiad ymgynghori ynglŷn â'r cynnig i gau Bancffosfelen yn sôn sawl gwaith am ehangu Ysgol Pontyberem er mwyn gwneud lle i blant Bancffosfelen, felly mae angen i ni ehangu i wneud lle ychwanegol, neu a yw'r ehangu'n digwydd ac yna symud y plant o Ysgol Bancffosfelen yno? Pa un sy'n dod gyntaf? Nid yw hynny'n glir. Ac yn dilyn hynny, ydych chi'n derbyn nad oes sail gadarn i'r ymgynghoriad hwn?
Ymateb gan y Cynghorydd Glynog Davies, yr Aelod Cabinet dros Addysg Fel yr esboniais, rydyn ni angen ychwanegu at gapasiti Ysgol Pontyberem. Rwyf wedi derbyn llawer o alwadau i mi gynorthwyo rhieni, hyd yn oed o Fancffosfelen, sy'n dymuno anfon eu plant i Bontyberem ac maen nhw wedi cael eu gwrthod, felly mae angen i ni gael y capasiti ychwanegol hwnnw. Mae'n ysgol Gymraeg boblogaidd iawn. Rydyn ni wedi gwneud cais am y grant hwn a bydd y gwaith hwnnw o dderbyn y grant yn digwydd. Nid yw'n dibynnu ar ganlyniad unrhyw ymgynghoriad ar Ysgol Bancffosfelen. |
|||||||
|
RHAGLEN MODERNEIDDIO ADDYSG - I YSTYRIED DOGFEN YMGYNGHORI AR YSGOL BLAENAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Cabinet yn ystyried dogfen ymgynghori ar y cynnig i gau Ysgol Blaenau. Dywedwyd yn yr adroddiad bod Ysgol Blaenau wedi'i nodi ar gyfer adolygiad yn dilyn Asesiad Hyfywedd o bob Ysgol Gynradd. Aseswyd yr ysgol yn erbyn y Meini Prawf Hyfywedd a nodir yn Strategaeth y Rhaglen Moderneiddio Addysg sydd wedi'i diweddaru, fel y'i cymeradwywyd gan y Cabinet ar 18 Tachwedd 2024.
Rhoddodd yr Aelod Cabinet dros Addysg wybod am y cyd-destun sy'n ymwneud â'r cynigion ymgynghori ar gyfer Ysgol Blaenau a'r ysgolion eraill i'w hystyried yn y cyfarfod. Nododd mai'r ddyled bresennol o fewn cyllidebau ysgolion oedd £9m, rhagwelwyd y byddai hyn yn codi i £16m, ac nid oedd parhau â'r status quo yn opsiwn. Cynghorodd hefyd, pe bai ysgol yn cau, y dylai gau ar ddiwedd y flwyddyn academaidd. Nododd fod amgylchiadau lle na fyddai hynny yn ymarferol, ond fel egwyddor, ystyrir y dyddiad cau yn ofalus yng nghyd-destun amgylchiadau penodol yr ysgol, gan ystyried buddiannau dysgwyr, cynaliadwyedd y ddarpariaeth addysgol ac ystyriaethau perthnasol eraill.
O ran Ysgol Blaenau, nododd yr Aelod Cabinet fod 28 o ddisgyblion ar gofrestr yr ysgol ym mis Ionawr, sydd bellach wedi gostwng i 21, gyda chapasiti cyffredinol o 98 gan adael 77 o leoedd gwag. Dywedodd yr Aelod Cabinet hefyd mai dim ond 4 o blant yn yr ysgol sy'n byw yn y dalgylch, a bod 41 o blant y dalgylch yn mynychu ysgolion eraill. Nododd y byddai gan yr ysgol ddiffyg o £362,566 erbyn diwedd y flwyddyn ariannol, ac roedd adroddiad Estyn 2024 wedi dweud nad oedd y llywodraethwyr wedi delio â hyn yn effeithiol.
Gwahoddodd y Cadeirydd y Cynghorydd Dai Thomas i roi sylwadau a gofyn ei gwestiwn ynglŷn â'r ymgynghoriad ar Ysgol Blaenau. Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas sylwadau a wrthwynebai'r opsiwn oedd yn cael ei ffafrio yn yr adroddiad. Ei brif bwyntiau oedd:
- Nid oedd y pwysau ariannol, oherwydd degawdau o danariannu gan y llywodraeth ganolog, yn cyfiawnhau sut roedd y pedair ysgol (Blaenau, Pontiets, Carwe, a Bancffosfelen) wedi cael eu trin yn ystod y broses hon. - Pryder bod llywodraethwyr Ysgol Blaenau yn cael bai ar gam am gamreoli ariannol, ond mewn gwirionedd, roedd y llywodraethwyr wedi mynd i'r afael â'r sefyllfa dro ar ôl tro. - Roedd y pennaeth wedi cynnig ymgymryd â chyfrifoldebau addysgu ychwanegol i helpu i leihau costau staffio. - Gwrthodwyd dro ar ôl tro i roi cyfle i'r ysgol ddatblygu darpariaeth 3-11, gan ei rhoi dan anfantais. - Ni roddwyd digon o amser i gynghorwyr yn y Pwyllgor Craffu archwilio'r ddogfennaeth a ddarparwyd. - Roedd Ysgol Blaenau yn ysgol hapus a llwyddiannus, gyda staff ymroddedig, llywodraethu ymroddedig, rhieni cefnogol a rôl bwysig yn ei chymuned leol.
Yn unol â Rheol Rhif 11.1 o Weithdrefn y Cyngor gofynnodd y Cynghorydd Dai Thomas y canlynol:
“Y rhan waethaf o'r cynnig hwn yw awgrymu bod yr ysgol yn cau yng nghanol blwyddyn ysgol. Pam?”
Ymatebodd yr Aelod Cabinet dros Addysg i'r cwestiwn a nododd y byddai cau ar ddiwedd y flwyddyn academaidd yn cael ei ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6. |
|||||||
|
RHAGLEN MODERNEIDDIO ADDYSG - I YSTYRIED DOGFEN YMGYNGHORI AR YSGOL PONTIETS Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Cabinet yn ystyried dogfen ymgynghori ar y cynnig i gau Ysgol Pontiets. Dywedwyd bod Ysgol Pontiets wedi'i nodi ar gyfer adolygiad yn dilyn Asesiad Hyfywedd o bob Ysgol Gynradd. Aseswyd yr ysgol yn erbyn y Meini Prawf Hyfywedd a nodir yn Strategaeth y Rhaglen Moderneiddio Addysg sydd wedi'i diweddaru, fel y'i cymeradwywyd gan y Cabinet ar 18 Tachwedd 2024.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg fod 21 o ddisgyblion yn yr ysgol ym mis Ionawr, a bod hyn bellach wedi gostwng i 16, allan o gyfanswm capasiti o 83 o ddisgyblion. Yn ogystal, roedd 38 o ddisgyblion yn y dalgylch yn mynychu ysgolion eraill. Roedd hyn yn peri risg ddifrifol i gynaliadwyedd hirdymor yr ysgol.
Gwahoddodd y Cadeirydd y Cynghorydd Alex Evans i wneud ei sylwadau a gofyn cwestiwn ynglŷn â'r ymgynghoriad ar Ysgol Pontiets. Cyflwynodd y Cynghorydd Evans sylwadau a wrthwynebai'r opsiwn oedd yn cael ei ffafrio yn yr adroddiad. Ei brif bwyntiau oedd:
- Nid oedd y pwysau ariannol yn lleihau cyfrifoldeb y Cyngor i wneud yn siŵr bod unrhyw ymgynghoriad yn bodloni gofynion statudol y Cod Trefniadaeth Ysgolion. - Yn groes i baragraff 1.13 o'r cod, nid oedd yr adroddiad yn dangos manylion sut y byddai gan Ysgol Ponthenri, fel yr ysgol dderbyn i ddisgyblion o Ysgol Pontiets, ddigon o gapasiti a lle priodol ar gyfer nifer y disgyblion presennol a'r disgyblion a ragwelir yn y dyfodol. - Roedd hyn hefyd yn groes i baragraff 3.3 o'r cod, sy'n gofyn am wybodaeth ddigonol i alluogi ymgyngoreion i roi ystyriaeth ac ymateb deallus. Ni allai rhieni a llywodraethwyr asesu'r cynnig heb wybod y manylion penodol o ran sut y byddai modd darparu ar gyfer y disgyblion. - Pryderon ynglŷn ag Ysgol Gwynfryn, o ystyried bod adroddiad Ysgol Carwe yn rhagamcanu 125 o ddisgyblion, o'i gymharu â chapasiti arfaethedig o 119, ond eto yn dod i'r casgliad bod digon o gapasiti yn bodoli. Mae hyn yn cymharu ag adroddiad Pontiets sy’n rhestru capasiti o 95, gyda 60 ar y gofrestr, heb esbonio bod 58 o ddisgyblion eraill Carwe eisoes yn cael eu haddysgu ar y safle. - Roedd y ddau adroddiad yn dod i'r casgliad nad yw'r cynigion yn gysylltiedig o dan y cod, heb dystiolaeth na rhesymu, er bod gan y ddau oblygiadau sylweddol i'r un ffederasiwn o ysgolion. - Mae paragraff 3.5 o'r cod yn rhybuddio y gall dogfennau ymgynghori annigonol arwain at ymgynghoriadau yn cael eu gadael am gyfnodau hir a chanlyniadau cyfreithiol difrifol o bosibl. - Am y rhesymau hyn, roedd cwestiynau difrifol ynghylch p’un a oedd yr adroddiad yn bodloni'r gofynion statudol ac wrth fwrw ymlaen gallai hyn olygu her ar ffurf adolygiad barnwrol credadwy i'r Cyngor.
Yn unol â Rheol Rhif 11.1 o Weithdrefn y Cyngor gofynnodd y Cynghorydd Alex Evans:
"Pa asesiad sydd wedi'i gynnal i benderfynu bod y B4317 rhwng Ysgol Pontiets ac Ysgol Ponthenri yn llwybr cerdded diogel i blant ysgol, fel y nodir yn yr adroddiad ymgynghori, o ystyried ei therfyn cyflymder o 50 m.y.a., ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 7. |
|||||||
|
RHAGLEN MODERNEIDDIO ADDYSG - I YSTYRIED DOGFEN YMGYNGHORI AR YSGOL CARWE Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Cabinet yn ystyried dogfen ymgynghori ar y cynnig i gau Ysgol Carwe. Dywedwyd bod Ysgol Carwe wedi'i nodi ar gyfer adolygiad yn dilyn Asesiad Hyfywedd o bob Ysgol Gynradd. Aseswyd yr ysgol yn erbyn y Meini Prawf Hyfywedd a nodir yn Strategaeth y Rhaglen Moderneiddio Addysg sydd wedi'i diweddaru, fel y'i cymeradwywyd gan y Cabinet ar 18 Tachwedd 2024.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg fod llai na dwy filltir rhwng yr ysgol hon ac Ysgol Pontiets, a llai na dwy filltir i Ysgol Trimsaran i'r cyfeiriad arall, yr olaf ohonynt â lleoedd gwag ac a adeiladwyd dim ond naw mlynedd yn ôl. Roedd problemau adeiladu difrifol wedi gorfodi’r awdurdod i gau safle Ysgol Carwe yn haf 2025, ac ers hynny mae disgyblion yr ysgol wedi cael eu haddysg yn Ysgol Gwynfryn. Nododd y byddai'n rhaid gwario dros £2m i ailagor yr ysgol, a byddai hynny'n cael ei arbed pe bai'r ysgol yn cau'n barhaol.
Fel gyda phob ysgol, rhoddwyd ystyriaeth i safon yr addysg, lleoedd gwag, nifer y disgyblion a materion ariannol. Roedd 58 o blant yn mynychu Ysgol Carwe, gan gynnwys 37 yn byw yn y dalgylch, a 120 o ddisgyblion y dalgylch yn mynychu ysgolion eraill.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau, gyda dau o bob tri phlentyn y dalgylch yn mynychu i ysgolion eraill, ei bod yn amhosibl cyfiawnhau gwario £2m a blwyddyn arall i drwsio'r ysgol, ac ar y pwynt hwnnw byddai disgyblion wedi bod mewn ysgol arall am ddwy flynedd.
Rhoddodd y Cadeirydd wahoddiad i'r Cynghorydd Tyssul Evans i roi sylwadau a holi cwestiwn am yr ymgynghoriad ar Ysgol Carwe. Cyflwynodd y Cynghorydd Evans sylwadau a wrthwynebai'r opsiwn oedd yn cael ei ffafrio yn yr adroddiad. Ei brif bwyntiau oedd:
- Roedd gweinyddiaethau blaenorol y Cyngor wedi anwybyddu pryderon y pennaeth, gan wneud mân atgyweiriadau yn unig nes bod yn rhaid cau adeilad yr ysgol. - Roedd y materion adeiladu hyn yn cael eu defnyddio fel esgus i gau ysgol fyddai â 61 o ddisgyblion ynddi nawr pe bai'r addewidion wedi cael eu cadw. - Nid oedd Aelodau'r Cabinet wedi siarad â'r trigolion y byddai'r penderfyniad yn effeithio arnynt. - Nid oedd diffyg yn y gyllideb, ac roedd llywodraethwyr wedi gwneud yn siŵr o hyn drwy leihau nifer y staff. - Roedd gan ysgolion eraill ddyledion sylweddol, ond roedd yr ysgolion hyn yn cael eu cadw ar agor tra bod cynnig i gau Carwe.
Yn unol â Rheol Rhif 11.1 o Weithdrefn y Cyngor gofynnodd y Cynghorydd Tyssul Evans:
"Pwy sy'n rheoli'r cyngor hwn mewn gwirionedd? Y weinyddiaeth neu'r swyddogion? Os mai'r weinyddiaeth sy'n rheoli, onid cyfrifoldeb y weinyddiaeth yw dweud wrth y swyddogion beth a ddisgwylir ganddynt?"
Ymatebodd Arweinydd y Cyngor gan nodi'r glir nad oedd unrhyw benderfyniad yn cael ei wneud ar gau'r ysgol eto, dim ond symud ymlaen i'r ymgynghoriad ffurfiol. Wrth ystyried a ddylai cynigion fwrw ymlaen, cynhaliwyd asesiad hyfywedd, gan ystyried ystod o feini prawf, gan gynnwys niferoedd disgyblion, lleoedd gwag, cynaliadwyedd ariannol ac ystyriaethau addysgol. Pwysleisiodd y ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 8. |
|||||||
|
RHAGLEN MODERNEIDDIO ADDYSG - I YSTYRIED DOGFEN YMGYNGHORI AR YSGOL BANCFFOSFELEN Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: SYLWER: Gan iddi ddatgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, ailddatganodd y Cynghorydd L.D Evans ei buddiant a gadawodd y cyfarfod wrth i'r eitem gael ei hystyried. Y Cynghorydd H.A.L Evans a gadeiriodd y cyfarfod ar gyfer yr eitem hon.
Bu'r Cabinet yn ystyried dogfen ymgynghori ar y cynnig i gau Ysgol Bancffosfelen. Dywedwyd yn yr adroddiad bod Ysgol Bancffosfelen wedi'i nodi ar gyfer adolygiad yn dilyn Asesiad Hyfywedd o bob Ysgol Gynradd. Aseswyd yr ysgol yn erbyn y Meini Prawf Hyfywedd a nodir yn Strategaeth y Rhaglen Moderneiddio Addysg sydd wedi'i diweddaru, fel y'i cymeradwywyd gan y Cabinet ar 18 Tachwedd 2024.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg fod problemau mawr gyda rhai o adeiladau'r ysgol yn cael eu condemnio ac angen eu dymchwel. Roedd 48 o ddisgyblion yn yr ysgol ym mis Ionawr, gyda 23 ohonynt yn byw yn y dalgylch, a 41 o blant y dalgylch yn mynychu gwahanol ysgolion. Yn dilyn cyflwr yr adeiladau, dim ond 86 o'r 98 o leoedd y gellid eu defnyddio, a byddai hyn yn cael ei adlewyrchu yn y llawlyfr ysgol nesaf. Cafodd y Cabinet wybod bod y sefyllfa ariannol yn bryderus, gyda diffyg o £107,733 yn cael ei ragweld ar gyfer diwedd y flwyddyn ariannol.
Rhoddodd y Cadeirydd wahoddiad i'r Cynghorydd Liam Bowen gyflwyno ei sylwadau a gofyn cwestiwn ynglŷn â'r ymgynghoriad ar Ysgol Bancffosfelen. Cyflwynodd y Cynghorydd Bowen sylwadau a wrthwynebai'r opsiwn oedd yn cael ei ffafrio yn yr adroddiad. Ei brif bwyntiau oedd:
- Roedd yr ysgol wedi tyfu o 30 o ddisgyblion i bron i 50, ac roedd y staff gweithgar wedi datblygu ysgol y gellid bod yn falch ohoni. - Roedd camsyniadau a ffeithiau anghywir yn yr adroddiad gwreiddiol ac roedd diffygion ac amwysedd o hyd. - Gallai'r ymgynghoriad fod wedi cael ei oedi nes bod adroddiad arolygu diweddaraf Estyn am yr ysgol ar gael. - Roedd 19 ysgol gyda llai o ddisgyblion nag Ysgol Bancffosfelen, a 28 â mwy o leoedd gwag - llawer ohonynt â diffygion mwy na Bancffosfelen - ac ni ymgynghorwyd â nhw ynghylch cau. - Byddai angen i Ysgol Pontyberem - fel yr ysgol sydd i fod derbyn disgyblion o Ysgol Bancffosfelen pe bai'n cau - gyflogi o leiaf ddau athro newydd, a bydd rhieni'n poeni am effaith cau Bancffosfelen ar Bontyberem.
Yn unol â Rheol Rhif 11.1 o Weithdrefn y Cyngor gofynnodd y Cynghorydd Liam Bowen:
“Wrth ystyried y sicrwydd a roddwyd eisoes am yr angen i ddymchwel rhannau o'r adeilad nad ydynt yn cael eu defnyddio yn Ysgol Bancffosfelen, beth yw'r arbedion ariannol amcangyfrifedig a fyddai'n deillio o gau Ysgol Banc ac adleoli'r plant i Ysgol Pontyberem”
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg fod y mater ynghylch dymchwel yn fater ar wahân yn ariannol, a'i fod yn gost gyfalaf na ellid ei ystyried fel arbediad refeniw posibl pe bai'r ysgol yn cau. Dywedodd hefyd y byddai cost gyfalaf pellach i gadw'r ysgol ar agor a'i bod yn annhebygol iawn y byddai'r costau cyfalaf yn denu arian cyfatebol gan Lywodraeth Cymru. ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 9. |
|||||||
|
CYNNIG I ADLEOLI YSGOL HEOL GOFFA I SAFLE NEWYDD A CHYNYDDU CAPASITI I 150 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: SYLWER: Gan iddi ddatgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, ailddatganodd y Cynghorydd L.D Evans ei buddiant a gadael y cyfarfod tra bo'r eitem yn cael ei hystyried. Y Cynghorydd H.A.L Evans a gadeiriodd y cyfarfod ar gyfer yr eitem hon.
Bu'r Cabinet yn ystyried y Ddogfen Ymgynghori ynghylch y cynnig i symud Ysgol Heol Goffa i safle newydd a chynyddu nifer y lleoedd i 150.
Nododd yr Aelod Cabinet dros Addysg faint roedd Ysgol Heol Goffa yn ei golygu i lawer, a'r rôl bwysig yr oedd yn ei chwarae wrth ddarparu addysg i lawer o blant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol. Dywedodd y byddai'n amhosibl gwneud gwelliannau i'r adeilad presennol a chynyddu capasiti wrth ei gadw ar agor. Roedd safle sy'n gysylltiedig ag Ysgol Pen Rhos wedi'i ddewis a disgwyliwyd y byddai grant gan Lywodraeth Cymru yn dod i law i dalu 75% o gost yr ysgol newydd. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad ffurfiol rhwng 9 Mehefin a 26 Gorffennaf 2026, ac roedd yr ymatebion wedi'u cynnwys yn yr adroddiad. Roedd cefnogaeth ar gyfer yr ysgol newydd ac roedd y sylwadau yn ymwneud â'r Gymraeg yn nodi y byddai'r cynnig yn cael effaith gadarnhaol neu niwtral ar gyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, ar ôl ystyried yr ymatebion i'r cynnig fel yr amlinellwyd yn yr Adroddiad Ymgynghori atodedig, bod y Cabinet yn bwrw ymlaen â chyhoeddi Hysbysiad Statudol i weithredu'r cynnig. |
|||||||
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cafodd y Cabinet adroddiad ynghylch Adroddiad yr Arolygwyr a'r Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig (CDLl) a bu'n ystyried yr ymatebion a dderbyniwyd mewn perthynas â chyfres o Ganllawiau Cynllunio Atodol i'w mabwysiadu ar yr un pryd â'r CDLl Diwygiedig.
Gofynnwyd i'r Cabinet gymeradwyo 6 o Ganllawiau Cynllunio Atodol wedi'u diweddaru ynghyd â'r adroddiad, fel y nodir isod:
- Rhwymedigaethau Cynllunio - Tai Fforddiadwy - Safleoedd o Bwys ar gyfer Cadwraeth Natur - Plastro, Rendro ac Inswleiddio Adeiladau Traddodiadol: Canllawiau ar gyfer Cynaliadwyedd - Canllaw Dylunio Blaen Siopau Sir Gaerfyrddin - Ardaloedd Cadwraeth: Canllaw hanfodol i'w gwella
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Faterion Gwledig, Cymunedau a'r Gymraeg fod yr adroddiad yn cynrychioli cam olaf y CDLl Diwygiedig, a bod yr arolygydd cynllunio annibynnol wedi cadarnhau fod y cynllun yn gadarn, yn cydymffurfio'n gyfreithiol ac y gellir ei fabwysiadu. Nodwyd y byddai angen ei fabwysiadu o fewn wyth wythnos i adroddiad yr arolygwr ac y byddai cyfnod herio chwe wythnos i'r Uchel Lys o dan adran 113 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004.
Dywedodd yr Aelod Cabinet fod y Cynllun Datblygu Lleol wedi'i baratoi trwy broses adolygu hir a'i fod wedi bod yn destun ymgynghoriad cyhoeddus, casglu tystiolaeth a chraffu annibynnol helaeth cyn ei fabwysiadu. Dywedodd y byddai'r Cynllun yn:
- Alinio penderfyniadau cynllunio lleol â pholisi cynllunio cenedlaethol a rhanbarthol. - Diogelu asedau amgylcheddol, hanesyddol, diwylliannol a thirwedd wrth alluogi twf priodol. - Cefnogi datblygu cynaliadwy a llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol hirdymor. - Darparu mwy o sicrwydd i gymunedau, datblygwyr, darparwyr seilwaith a buddsoddwyr ynghylch ble y dylai datblygiad ddigwydd.
Dywedodd yr Aelod Cabinet y byddai'r CDLl Diwygiedig yn dod yn fframwaith cynllunio statudol ar gyfer Sir Gaerfyrddin (ac eithrio'r ardal o fewn Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog) tan ddiwedd mis Mawrth 2033, ac y byddai'n disodli'r CDLl presennol.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR:
11.1 nodi canfyddiadau Adroddiad rhwymol yr Arolygwyr (sydd ynghlwm yn Atodiad 1) a chymeradwyo mabwysiadu CDLl Diwygiedig Sir Gaerfyrddin 2018 - 2033.
11.2 bod swyddogion yn cael awdurdod dirprwyedig i ddiweddaru neu wneud unrhyw newidiadau o ran ffeithiau, teipio neu ramadeg nad ydynt yn sylweddol, yn ogystal â newidiadau o ran cyflwyniad neu ddiwygiadau canlyniadol i'r Cynllun sy'n deillio o'r newidiadau a argymhellir gan yr Arolygwyr.
11.3 awdurdodi bod y trefniadau angenrheidiol yn cael eu gwneud i gyhoeddi'r CDLl Diwygiedig, gan gynnwys sicrhau bod y Cynllun ar gael ar wefan y Cyngor ac yn y lleoliadau gofynnol yn unol â'r Rheoliadau.
11.4 ystyried adroddiad y swyddogion ar ôl ymgynghori ynghylch cyfres o Ganllawiau Cynllunio Atodol a gynhwysir yn yr adroddiad hwn a chymeradwyo i'w mabwysiadu a'r defnydd parhaus o'r Canllawiau Cynllunio Atodol presennol a bennir yn yr adroddiad. |
|||||||
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Cabinet adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth i ymgymryd ag ymgynghoriad ffurfiol ar Ganllawiau Cynllunio Atodol: Mannau Agored, amlinellu'r broses ar gyfer paratoi a mabwysiadu Canllawiau Cynllunio Atodol fel rhan o'r ddogfennaeth i gefnogi'r CDLl Mabwysiedig a Diwygiedig a gosod y rhaglen mewn perthynas â pharatoi Canllawiau Cynllunio Atodol yn y dyfodol, gan gynnwys y rhai a nodwyd ar gyfer y gwaith paratoi ac adrodd sydd ar y gweill.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Faterion Gwledig, Cymunedau a'r Gymraeg fod y Canllawiau Cynllunio Atodol drafft hwn yn esbonio sut mae'n rhaid i ddatblygiadau preswyl fodloni'r gofynion ar gyfer darparu mannau gwyrdd, hamdden a chymunedol digonol. Ar adegau lle na fyddai hyn yn ymarferol o fewn safle datblygu, gellid darparu cyfraniad ariannol gan ddatblygwyr i fannau eraill.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR:
12.1 cymeradwyo'r Canllawiau Cynllunio Atodol Drafft, a nodir yn yr adroddiad, at ddibenion ymgynghori'n ffurfiol â'r cyhoedd.
12.2 rhoi awdurdod dirprwyedig i swyddogion i ddiweddaru neu wneud unrhyw newidiadau o ran ffeithiau, teipio neu ramadeg nad ydynt yn rhai sylweddol. |
|||||||
|
UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL, 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw eitemau eraill o fater brys. |