Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd E. Thomas.

 

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

A.    Davies

10.          Eitem 10 - Llwybr Cyd-ddefnyddio Dyffryn Tywi - Caffael Tir a defnyddio pwerau Gorchymyn Prynu Gorfodol i gefnogi caffael tir a hawliau

Mae'r Cynghorydd Davies yn berchen ar dir sy'n croesi Llwybr Dyffryn Tywi.

 

 

3.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR GOFNODION CYFARFODYDD Y CABINET A GYNHALWYD AR Y:-

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar DD/MM/BBBB yn gofnod cywir.

3.1

13EG CHWEFROR 2023 pdf eicon PDF 143 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 13 Chwefror 2023 yn gofnod cywir.

 

 

3.2

20FED CHWEFROR 2023 pdf eicon PDF 138 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 20 Chwefror 2023 yn gofnod cywir.

 

 

4.

CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN YR AELODAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau.

 

5.

CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

6.

STRATEGAETH EIRIOLAETH OEDOLION RANBARTHOL pdf eicon PDF 143 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad a oedd yn cynnwys Strategaeth Eiriolaeth Oedolion Ranbarthol newydd i'w chymeradwyo gan y Cabinet. Y strategaeth a gafodd ei datblygu gyda rhanddeiliaid drwy gyfrwng y Gweithgor Eiriolaeth oedd yn cynnwys tri Awdurdod Lleol, Bwrdd Iechyd a'r trydydd sector.

 

Nod y Strategaeth Eiriolaeth Oedolion Ranbarthol ddrafft yw sicrhau bod eiriolaeth o ansawdd da ar gael yn hwylus ac yn deg i'r rhai sydd ei eisiau, neu ei angen, yn rhanbarth Gorllewin Cymru yng Ngheredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro.

 

Amlinellodd y strategaeth bum maes blaenoriaeth gyda’r nod o wella'r canlyniadau i bobl sydd angen eiriolaeth. Diffiniwyd y blaenoriaethau yn dilyn y gwaith a wnaed ar y cyd hyd yma, ymgysylltu, yr Asesiad Poblogaeth Rhanbarthol, ac mewn ymateb i ofynion deddfwriaethol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL i gymeradwyo'r Strategaeth Eiriolaeth Oedolion Ranbarthol sy'n ceisio llywio trefniadau comisiynu Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Cyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Sir Ceredigion a Chyngor Sir Penfro er mwyn cyflawni eu dyletswyddau statudol.

 

 

7.

UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL, 1972.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw eitemau eraill o fater brys.

 

8.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

THE REPORTS RELATING TO THE FOLLOWING ITEMS ARE NOT FOR PUBLICATION AS THEY CONTAIN EXEMPT INFORMATION AS DEFINED IN PARAGRAPH 14 OF PART 4 OF SCHEDULE 12A TO THE LOCAL GOVERNMENT ACT 1972 AS AMENDED BY THE LOCAL GOVERNMENT (ACCESS TO INFORMATION) (VARIATION) (WALES) ORDER 2007. IF, FOLLOWING THE APPLICATION OF THE PUBLIC INTEREST TEST, THE CABINET  RESOLVES PURSUANT TO THE ACT TO CONSIDER THESE ITEMS IN PRIVATE, THE PUBLIC WILL BE EXCLUDED FROM THE MEETING DURING SUCH CONSIDERATION.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.

 

 

9.

CYMUNEDAU CYNALIADWY AR GYFER DYSGU SIR GAERFYRDDIN (Y RHAGLEN MODERNEIDDIO ADDYSG YN FLAENOROL) YSGOL GWENLLIAN, CYDWELI

Cofnodion:

Yn sgil cynnal prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 8 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad am ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf). Roedd prawf budd y cyhoedd mewn perthynas â'r adroddiad hwn yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth a geir ynddo oherwydd byddai datgelu'r wybodaeth hon yn tanseilio'n sylweddol fuddiannau masnachol y Cyngor mewn trafodaethau am eiddo yn y dyfodol.

 

Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad a oedd yn nodi cynnig i brynu tir a throsglwyddo arian yn y rhaglen gyfalaf i fwrw ymlaen ag ysgol cyfrwng Cymraeg newydd i Ysgol Gwenllian, Cydweli.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

9.1

bwrw ymlaen â phrynu tir i gefnogi datblygu ysgol gynradd Gymraeg newydd sbon i Ysgol Gwenllian, Cydweli;

 

9.2

Bod trosglwyddiad yn y rhaglen gyfalaf, fel y manylir yn yr adroddiad, yn cael ei gymeradwyo er mwyn caniatáu i'r pryniant gael ei gwblhau cyn gynted â phosib.

 

 

 

10.

LLWYBR CYD-DDEFNYDDIO DYFFRYN TYWI - CAFFAEL TIR A DEFNYDDIO PWERAU GORCHYMYN PRYNU GORFODOL I GEFNOGI CAFFAEL TIR A HAWLIAU.

Cofnodion:

[Sylwer: Roedd y Cynghorydd Ann Davies, ar ôl datgan buddiant yn Eitem hon yn gynharach, wedi gadael y cyfarfod cyn i'r cais gael ei ystyried a chyn y gwnaed penderfyniad yn ei gylch.]

 

Yn sgil cynnal prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 8 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad am ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf). Roedd prawf budd y cyhoedd mewn perthynas â'r adroddiad hwn yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth a geir ynddo oherwydd byddai datgelu'r wybodaeth hon yn tanseilio safle'r Cyngor mewn unrhyw drafodaethau parhaus ynghylch prynu darnau o dir sy'n weddill a fydd yn cyd-fynd ochr yn ochr â phroses y Gorchymyn Prynu Gorfodol

 

Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad a oedd yn eisio cymeradwyaeth i barhau â thrafodaethau ynghylch tir a chymeradwyo defnyddio pwerau Prynu Gorfodol i gaffael tir a buddiannau.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

10.1

Cymryd yr holl gamau angenrheidiol i sicrhau bod Gorchymyn Prynu Gorfodol Llwybr Cyd-ddefnyddio Dyffryn Tywi yn cael ei wneud, ei gadarnhau a'i weithredu o dan adran 226(1)(a) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, Adran 13 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 a Deddf Caffael Tir 1981 i gaffael y cyfan neu'r rhan o'r tir a ddangosir yn binc ar y Cynlluniau sydd wedi'u hatodi ynghyd â chaffael hawliau hawddfraint dros yr ardaloedd glas y disgrifir pob un ohonynt yn gyffredinol yn Atodiad A at ddiben cyflawni'r llwybr cyd-ddefnyddio.

 

10.2

Ar y cyd â 10.1 uwchben, bod yr adran Eiddo Corfforaethol yn parhau â thrafodaethau i gaffael y tir sydd ei angen ar gyfer y Llwybr Cyd-ddefnyddio trwy gytundeb, os yn bosibl, gan gynnwys, lle bo'n berthnasol, y parseli hynny o dir nad oes ganddynt ar hyn o bryd ganiatâd cynllunio ar gyfer cyflawni'r Cynllun.

 

10.3

Cadarnhau y bydd y llwybr cyd-ddefnyddio, ar ôl ei adeiladu, yn cael ei ddynodi'n 'briffordd a gynhelir gan arian cyhoeddus’.

 

10.4

Awdurdodi'r Cyfarwyddwr Lle a Seilwaith i wneud y canlynol:

 

i.       Setlo ffurf a chynnwys terfynol y Gorchymyn Prynu Gorfodol a'r holl ddogfennaeth gysylltiedig (gan gynnwys y Datganiad Rhesymau) gan gynnwys mân ddiwygiadau i'r cynlluniau a'r atodlenni sy'n dangos y tir.

 

ii.     Cymryd pob cam sydd ei angen i fynd ar drywydd gwneud y Gorchymyn Prynu Gorfodol a sicrhau ei gadarnhad gan gynnwys cyhoeddi a chyflwyno pob hysbysiad a chyflwyno achos y Cyngor mewn unrhyw ymchwiliad cyhoeddus;

 

iii.   Caffael buddiannau yn y tir o fewn y Gorchymyn Prynu Gorfodol naill ai drwy gytundebau neu'n orfodol; a

 

iv.   Chymeradwyo cytundebau gyda thirfeddianwyr sy'n nodi'r telerau ar gyfer tynnu gwrthwynebiadau i'r Gorchymyn Prynu Gorfodol yn ôl, gan gynnwys lle bo hynny'n briodol, ceisio eithrio tir neu hawliau newydd o'r Gorchymyn Prynu Gorfodol.

 

v.     Ar ôl cadarnhau'r Gorchymyn Prynu Gorfodol, gweithredu'r pwerau Gorchymyn Prynu Gorfodol a Phwerau Breinio Cyffredinol i gaffael teitl i'r tir  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 10.

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau