Agenda a Chofnodion

Cabinet - Dydd Llun, 3ydd Hydref, 2022 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd dim ymddiheuriadau am absenoldeb

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

3.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR GOFNODION CYFARFOD Y CABINET A GYNHALWYD AR:-

Dogfennau ychwanegol:

3.1

18FED GORFFENNAF 2022 pdf eicon PDF 144 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Cabinet, cyn cymeradwyo'r cofnodion uchod fel cofnod cywir, bod angen gwneud un gwelliant i gynnwys y Cynghorydd Dot Jones yn y rhestr o'r rheiny oedd yn bresennol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn amodol ar y newid uchod, lofnodi cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 18 Gorffennaf 2022 gan eu bod yn gofnod cywir.

 

3.2

25AIN GORFFENNAF 2022 pdf eicon PDF 103 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod Cabinet a gynhaliwyd ar 25 Gorffennaf 2022 gan eu bod yn gywir.

 

4.

CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN YR AELODAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau.

 

4.1

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD TINA HIGGINS I’R CYNGHORYDD ANN DAVIES - YR AELOD CABINET DROS FATERION GWLEDIG A PHOLISI CYNLLUNIO

A fyddech chi’n gallu rhoi diweddariad i mi gan gynnwys manylion y gwaith a wnaed, y canlyniadau a chamau nesaf y Panel Gorchwyl a Gorffen ar gyfer Pobl Ddu, Asiaidd, ac Ethnig Leiafrifol.  Hefyd a fyddech yn gallu anfon copi e-bost ataf neu roi’r ddolen i’r adroddiad gorffenedig i mi.”

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

A fyddech chi'n gallu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i mi gan gynnwys manylion am y gwaith a wnaed, y canlyniadau a chamau nesaf Panel Gorchwyl a Gorffen - Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig. Hefyd a fyddech yn gallu anfon copi e-bost ataf neu roi’r ddolen i’r adroddiad gorffenedig i mi.”

 

Ateb gan y Cynghorydd Ann Davies - Aelod Cabinet dros Faterion Gwledig a Pholisi Cynllunio

 

Diolch i chi am eich cwestiwn.

 

Fel yr ydym yn gwybod sefydlwyd y Panel Gorchwyl a Gorffen - Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig mewn ymateb i ddau Rybudd o Gynnig a ddaeth gerbron y Cyngor. Cwmpas gwaith cyfyngedig oedd gan y panel, ac mae rhywfaint ohono wedi'i gwblhau ac mae rhywfaint yn o broses o gael ei gwblhau.

 

O ran y gwaith sydd eisoes wedi'i wneud, cafodd y Panel, y Gr?p Gorchwyl a Gorffen - Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, ei gyfarfod diwethaf yn ystod Haf 2021, dros flwyddyn yn ôl ac, ar yr adeg honno, roedd y gr?p wedi cytuno ar gyfres o argymhellion ac roedd wrthi'n trefnu'r adroddiad drafft gyda'r bwriad o'i gyflwyno i'r Cabinet ar ddiwedd y flwyddyn honno.

 

Yn anffodus, roedd oedi am gyfnod byr a bu'n rhaid gohirio'r adroddiad tan ar ôl dechrau'r flwyddyn. Oherwydd dechrau'r cyfnod cyn-etholiadol ym mis Mawrth, cadwyd yr adroddiad ac roedd gwaith y Panel i'w ystyried yn y tymor newydd hwn.

 

Fel mater o broses, mae pob gweinyddiaeth yn adolygu'r Panelau Ymgynghorol sydd ar gael iddynt ac fel rhan o'r adroddiad a ddaeth gerbron y Cabinet ym mis Gorffennaf eleni cytunwyd na fyddai'r Cabinet yn gofyn i'r Panel ailymgynnull ond, hoffai weld yr adroddiad a bydd yr adroddiad hwn yn destun y broses ddemocrataidd yn fuan iawn ac rwy'n hyderus iawn y byddaf yn ei gyflwyno i'r Cabinet hwn dros y mis neu ddau nesaf.

 

Dylwn dynnu sylw at y ffaith bod yr adroddiad interim gan y panel wedi dod gerbron y Cabinet ym mis Rhagfyr 2020 a chytunwyd ar yr argymhellion hynny yn yr adroddiad hwnnw a chawsant eu rhoi ar waith ychydig amser yn ôl. Felly, mae rhywfaint o'r gwaith wedi'i gwblhau eisoes. 

 

O ran y canlyniadau, mae rhai o'r argymhellion o'r adroddiad wedi eu cynnwys yn Natganiad Gweledigaeth y weinyddiaeth hon, ac mae'r canlyniadau yn cyfeirio at recriwtio a chynrychiolaeth a pharhau â'r ymgyrch i sicrhau bod y sefydliad yn gynhwysol ac yn amrywiol. Mae rhai o'r argymhellion hefyd wedi cael eu cynnwys gyda newidiadau mewn polisi cenedlaethol.

 

Ar lefel genedlaethol, rydym wedi gweld adroddiad y Gweithgor Cymunedau, Cyfraniadau a Chynefin Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME) yn y Cwricwlwm Newydd yn cael ei gyhoeddi sydd eisoes wedi achosi newidiadau i Hanes Pobl Dduon a ddysgir yng nghwricwlwm ysgolion.

 

Rydym hefyd wedi gweld 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol' yn cael ei gyhoeddi sy'n nodi'r camau angenrheidiol dros y ddwy flynedd nesaf i gyflawni'r weledigaeth hirdymor o fod yn genedl wrth-hiliol. Mae mynd i'r afael â hiliaeth yn rhan o'r Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru ac  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.1

5.

CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

6.

RHAGOLWG CYLLIDEB REFENIW pdf eicon PDF 132 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad ar Ragolwg Cyllideb Refeniw y Cyngor ar ôl i'r Cyngor gytuno ar ei Gynllun Ariannol Tymor Canolig ym mis Mawrth 2022 yn seiliedig ar amcangyfrifon ac ymrwymiadau hysbys bryd hynny a chafodd ei lunio yng nghyd-destun setliad ariannol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022/23, yn cynnwys setliadau a blynyddoedd 2 a 3 o'r cynllun a'r amcangyfrifon ar gyfer mewnbynnau allweddol eraill. Er bod y risg o ran chwyddiant wedi'i nodi ar adeg pennu'r gyllideb a barnwyd mai'r ansicrwydd mwyaf bryd hynny oedd yr effaith anhysbys, costau parhaus a llai o incwm oherwydd pandemig Covid-19, nododd y Cabinet, yn dilyn hynny, y bu nifer o newidiadau sylweddol i'r amgylchedd allanol a fyddai'n cael effaith sylweddol ar y gyllideb yn y dyfodol h.y:-

 

·       Chwyddiant cyffredinol sylweddol uwch, y disgwylid iddo bara'n hirach hefyd, gan arwain at bwysau costau byw parhaus;

·       Cynnydd mawr mewn prisiau ynni sy'n effeithio ar gostau cludo yn ogystal â biliau gwresogi a thrydan ar gyfer aelwydydd a busnesau;

·       Ymateb cryf gan yr undebau cenedlaethol ynghylch codiadau cyflog;

·       Llacio cyfyngiadau iechyd cyhoeddus Covid 19 yn llawn.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau wrth y Cabinet, gan ystyried y rhain, a phwysau cyllidebol eraill, fod yr adroddiad yn manylu ar nifer o ragdybiaethau allweddol i'w hystyried a fyddai'n llunio datblygiad cyllideb y Cyngor. Fodd bynnag, o ystyried yr ansicrwydd mawr ar hyn o bryd o ran y pwysau ar gyllideb y cyngor gan faterion megis costau tanwydd uwch a chodiadau cyflog, roedd y dull safonol o ddatblygu cyllideb wedi'i ehangu i gynnwys y sefyllfa orau posib yn ogystal â'r sefyllfa sylfaenol.

 

Nododd y Cabinet, hyd yn oed yn y sefyllfa orau posib, y cyfrifwyd y byddai angen o leiaf £6.1 miliwn o doriadau i'r gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, sef £2 filiwn yn fwy na'r hyn a ragwelwyd. O dan y sefyllfa sylfaenol, amcangyfrifwyd bod y diffyg yn codi i bron i £19 miliwn, gan dybio bod yr arbedion o £3.9m a gynlluniwyd eisoes yn cael eu cyflawni. Yn y cyd-destun hwnnw, roedd yn bwysig i'r Cyngor ganolbwyntio ar y flwyddyn ariannol nesaf o ystyried maint yr her. Er na fyddai'r darlun cyflawn yn debygol o fod yn glir nes y ceir yr hysbysiad am y setliad ariannol drafft gan Lywodraeth Cymru, ac ni ddisgwylir hynny tan fis Rhagfyr, nodwyd ei bod yn bwysig cydnabod bod llawer o'r pwysau yr oedd Sir Gaerfyrddin yn eu hwynebu ar hyn o bryd nid yn unig y tu hwnt i'w rheolaeth - megis cyflog staff a gytunir yn genedlaethol a'r cyflog byw sylfaenol a osodir yn allanol - ond eu bod hefyd yn faterion yr oedd pob Awdurdod Lleol ar draws y wlad yn eu hwynebu hefyd.

 

Dywedodd yr Arweinydd, fel yr amlinellir uchod, fod pob awdurdod lleol yng Nghymru yn wynebu'r pwysau cyllidebol difrifol a, gan gofio hynny, bod y materion wedi'u trafod mewn cyfarfod diweddar Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, a fynychwyd gan Weinidog Cyllid Llywodraeth Cymru. Roedd y Gymdeithas wedi pwysleisio y byddai'r flwyddyn ariannol  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB REFENIW Y CYNGOR pdf eicon PDF 136 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad monitro'r gyllideb refeniw a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol fel yr oedd ar 30 Mehefin 2022, o ran 2022/2023. 

Yn gyffredinol, roedd yr adroddiad monitro yn rhagweld gorwariant ar gyfer y flwyddyn ar lefel adrannol o £4,735k gan ragweld gorwariant o £4,767k ar gyllideb refeniw net yr Awdurdod. Ar lefel uchel, roedd hyn o ganlyniad i gyfuniad o'r canlynol:

 

·    Setliadau cyflog a drafodir yn genedlaethol (heb eu penderfynu hyd yn hyn) ar lefelau llawer uwch na'r hyn a gyllidebwyd, ac nid yw cyllid ychwanegol gan y llywodraeth ar gyfer hyn yn hysbys ar hyn o bryd. Amcangyfrifon lefel uchel yw y gallai hynny fod yn £1.7m yn uwch na'r gyllideb;

·    Gorwariant mewn meysydd gwasanaeth lle’r oedd toriadau i'r gyllideb wedi'u rhoi ar waith, ond bod oedi o ran cyflawni cynnydd, er enghraifft ym maes Anableddau Dysgu;

·    Gostyngiad parhaus mewn incwm masnachol, gan gynnwys meysydd parcio, canolfannau hamdden a phrydau ysgol; 

·    Tanwariant yr arian cyfalaf oherwydd oedi o ran cynlluniau a llai o angen i fenthyca.

 

Nodwyd bod yr Awdurdod, fel rhan o broses pennu cyllideb 2022/23, wedi cytuno ar gyllideb wrth gefn gwerth £3m yn ystod y flwyddyn a gedwir yn ganolog ar hyn o bryd ac a oedd yn gwrthbwyso'n rhannol y pwysau cyffredinol a nodwyd uchod.

 

Roedd y Cyfrif Refeniw Tai yn rhagweld gorwariant o £511k ar gyfer 2022/23, a fyddai'n cael ei ariannu drwy gyfraniad o gronfeydd wrth gefn. Darparwyd manylion am hyn yn Atodiad B a oedd ynghlwm i'r adroddiad. Byddai hynny'n cael ei adolygu wrth i'r materion sylweddol a nodwyd ddod yn gliriach o safbwynt ariannol. Nodwyd hefyd mai'r Cyfrif Refeniw Tai fyddai'n ariannu'n uniongyrchol y cynigion cyflog a drafodir yn genedlaethol (heb eu penderfynu hyd yn hyn) ar lefelau llawer uwch na'r hyn a gyllidebwyd a allai, ar lefel uchel, fod £0.5m yn fwy na'r hyn a gyllidebwyd.

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

7.1     Derbyn adroddiad monitro'r gyllideb, a nodi'r sefyllfa gyllidebol a'r camau unioni priodol a gymerwyd.

7.2     O ran gorwariant sylweddol ar feysydd penodol o'r gyllideb, bydd y Prif Swyddogion a'r Penaethiaid Gwasanaeth yn adolygu'n feirniadol yr opsiynau sydd ar gael iddynt er mwyn mynd i'r afael â'r effaith barhaus.

 

8.

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM RAGLEN GYFALAF 2022/23 pdf eicon PDF 109 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Cabinet adroddiad a oedd yn amlinellu'r sefyllfa gyllidebol ddiweddaraf ar gyfer rhaglen gyfalaf 2022/23, fel yr oedd ar 30 Mehefin 2022 gan fanylu ar y prosiectau newydd i'w nodi a'u cymeradwyo gan y Cabinet. Nodwyd bod cyfanswm y gwariant cyfalaf ar gyfer 2022/23 yn £265m gros a £148m net ar ôl ystyried dyraniadau grant a llithriadau

 

Dywedwyd y rhagwelwyd gwariant net adrannol o £140,696k o gymharu â chyllideb net weithredol o £147,962k gan roi -£7,266k o amrywiant.

 

Roedd y gyllideb net yn cynnwys rhaglenni cyfalaf gwreiddiol y Cyfrif Refeniw Tai a'r Gronfa Gyffredinol a gymeradwywyd gan y Cyngor ar 2 Mawrth, 2022 a llithriad o 2021/22. Nodwyd bod rhai cyllidebau hefyd wedi cael eu diwygio yn unol â’r gwahaniaethau yn y dyraniadau grant o gymharu â'r dyraniadau disgwyliedig pan gafodd y rhaglen ei chymeradwyo, a grantiau newydd a dderbyniwyd yn ystod y flwyddyn hyd yma.

 

Nodwyd bod Atodiad B yn manylu ar y prif amrywiannau ym mhob adran.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

11.1   bod adroddiad diweddaru'r rhaglen gyfalaf 2022/23 yn cael ei dderbyn;

11.2. bod y prosiectau newydd, fel yr oeddent yn yr adroddiad, yn cael eu nodi a'u cytuno.

 

 

9.

ADRODDIAD CHWARTEROL YNGYLCH RHEOLI'R TRYSORLYS A DANGOSYDD DARBODAETH EBRILL 1AF 2022 I MEHEFIN 30AIN 2022. pdf eicon PDF 88 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad diweddaru ar weithgareddau rheoli'r trysorlys a'r dangosyddion darbodus ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2022 a Mehefin 2022.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod yr Adroddiad diweddaru ynghylch y Dangosyddion Darbodaeth a Rheoli'r Trysorlys rhwng 1 Ebrill 2022 a 30 Mehefin 2022 yn cael ei gymeradwyo.

 

10.

COSTAU BYW pdf eicon PDF 125 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad ar Gynllun Cymorth Costau Byw Llywodraeth Cymru a oedd yn cynnwys cynnig mewn perthynas â'r Cynllun Disgresiynol cysylltiedig, y gallai'r awdurdod lleol benderfynu ei ddefnyddio'n lleol.

 

Nodwyd bod cynllun Llywodraeth Cymru yn cynnwys £152M i ddarparu taliad costau byw o £150 i aelwydydd cymwys (y prif gynllun) ynghyd â £25M i ddarparu cymorth disgresiynol at ddibenion eraill yn ymwneud â chostau byw, a bwriad y ddau oedd darparu cymorth ar unwaith wrth i Gymru adfer yn sgil y pandemig a helpu aelwydydd i ddelio ag effaith costau ynni a chostau eraill sy'n cynyddu.

 

Gall pob awdurdod lleol ddefnyddio cyllid y Cynllun Disgresiynol i helpu aelwydydd y mae'n ystyried bod angen cymorth arnynt gyda'u costau byw a dyrannwyd £1.556 miliwn i Sir Gaerfyrddin i wario ar gynllun disgresiynol.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Cabinet, mewn perthynas â'r fenter ariannol a nodir yn nhabl 12 yn yr adroddiad, a oedd i fod i gael ei hariannu gan danwariant sydd ar gael o'r prif gynllun, fod canllawiau diweddar gan y llywodraeth yn golygu y rhagwelwyd bellach na fyddai unrhyw danwariant sylweddol o'r prif gynllun. O ganlyniad, byddai angen ailedrych ar y cynnig terfynol hwnnw a byddai'r gwaith o ddyrannu unrhyw gyllid yn cael ei wneud gan yr Aelod Cabinet dros Adnoddau a'r Cyfarwyddwr Adnoddau Corfforaethol o dan eu pwerau dirprwyedig cyn gynted ag yr oedd safbwynt Llywodraeth Cymru wedi'i egluro.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

10.1

Nodi statws presennol y cynllun gorfodol;

10.2

Cymeradwyo'r Cynllun Disgresiynol Costau Byw

10.3

Rhoi awdurdod dirprwyedig i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, mewn ymgynghoriad â'r Aelod Cabinet dros Adnoddau, i ddefnyddio unrhyw danwariant / trosglwyddiadau ariannol

 

 

11.

ADRODDIAD GRŴP GORCHWYL A GORFFEN Y PWYLLGOR CRAFFU ADDYSG A PHLANT: Y BROSES YMGYNGHORI YNGHYLCH TREFNIADAETH YSGOLION pdf eicon PDF 110 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad ar ganfyddiadau Gr?p Gorchwyl a Gorffen y Pwyllgor Craffu - Addysg a Phlant, a sefydlwyd i gynnal adolygiad o'r broses ymgynghori gyfredol ar gyfer newidiadau trefniadaeth ysgolion, gan gynnwys newidiadau i'r ddarpariaeth ieithyddol a chau ysgolion.

 

Nodwyd bod y Gr?p Gorchwyl a Gorffen, gan roi sylw i'r ffaith bod yr Adran Addysg a Phlant yn cynnal adolygiad o Gynllun Strategol y Gymraeg Mewn Addysg a'i Rhaglen Moderneiddio Addysg a fydd yn destun ymgynghoriad cyhoeddus, wedi llunio Adroddiad Argymhellion Interim a gafodd ei gymeradwyo gan y Cabinet ar 27 Medi 2021. Yn dilyn hynny, roedd y Gr?p wedi cyfarfod tair gwaith ac wedi llunio nifer o amodau ychwanegol i'r Cabinet eu hystyried, fel y manylir yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Adroddiad ac Argymhellion Gr?p Gorchwyl a Gorffen y Pwyllgor Craffu - Addysg a Phlant ar y Broses Ymgynghori ar gyfer newidiadau trefniadaeth ysgolion.

 

 

12.

LLYTHYR BLYNYDDOL YR OMBWDSMON 2021/2022 CYNGOR SIR CAERFYRDDIN pdf eicon PDF 153 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cabinet yn ystyried Llythyr Blynyddol yr Ombwdsmon 2021/2022 ynghyd â'r daflen ffeithiau a'r data cysylltiedig.

 

Nodwyd bod Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn rhoi llythyr i bob Awdurdod Lleol yng Nghymru bob blwyddyn ar ffurf taflen ffeithiau ynghyd â'r data cysylltiedig i'w helpu i adolygu perfformiad.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn Llythyr Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2021/22 (y Llythyr).

 

13.

UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL, 1972.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw eitemau eraill o fater brys.

 

14.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R MATER CANLYNOL GAN EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y BWRDD, AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.

 

 

15.

ADLINIO LLWYBR ARFORDIROL Y MILENIWM YM MORFA BACAS, Y BYNEA, LLANELLI

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ar ôl cynnal prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 14 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu faterion busnes unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf). Roedd prawf budd y cyhoedd mewn perthynas â'r adroddiad hwn yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth a geir ynddo oherwydd byddai datgelu'r wybodaeth hon yn tanseilio sefyllfa'r Cyngor o ran y broses gaffael ac yn anfanteisiol i'r contractwr a ffefrir yn y farchnad ehangach.

 

Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad oedd yn darparu gwybodaeth am y bwriad i adlinio Llwybr Arfordirol y Mileniwm ym Morfa Bacas, y Bynea, Llanelli.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r adroddiad a'r argymhellion y manylwyd arnynt.