Agenda a Chofnodion

Cabinet - Dydd Llun, 27ain Medi, 2021 10.00 yb

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

3.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y BWRDD GWEITHREDOL A GYNHALWYD AR Y 13 MEDI 2021 pdf eicon PDF 341 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 13 Medi 2021 gan eu bod yn gywir.

 

4.

CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN YR AELODAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau.

 

5.

CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

6.

ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNGOR SIR CAERFYRDDIN AR GYFER 2020/21 pdf eicon PDF 346 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cabinet yn ystyried Adroddiad Blynyddol y Cyngor ar gyfer 2020/21, a luniwyd yn unol â gofynion Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Nodwyd bod effaith Covid-19 ar wasanaethau'r cyngor wedi golygu na fu'n bosibl eleni i'r adroddiad weithredu naill ai fel adroddiad cynnydd ar berfformiad neu fel cymharydd ag awdurdodau lleol eraill. Roedd felly yn rhoi sylw i'r camau a gymerwyd gan y Cyngor i gefnogi ei drigolion, ei gymunedau a'i fusnesau drwy gydol y pandemig.

 

Nododd y Cabinet fod blaenoriaethau'r Cyngor wedi'u diwygio'n sylweddol i wynebu'r heriau a gyflwynwyd gan y pandemig, gan fod llawer o staff wedi cael eu hadleoli i helpu yn yr ymateb i'r pandemig a bod llawer yn gweithio i helpu'r broses adfer.  Am y rhesymau hynny, roedd gan yr Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2020-21 ffocws ac ymagwedd gwahanol i adroddiadau blaenorol h.y:-

 

·       Ni roddwyd sylw llawn i lawer o'r camau gweithredu a'r targedau a bennwyd ar gyfer 2020/21 oherwydd pandemig COVID-19 y Coronafeirws, ac roedd Asesiad Cychwynnol o Effaith COVID-19 ar y Gymuned wedi'i gyhoeddi ym mis Medi 2020 gyda gwasanaethau unigol yn adrodd eu hymatebion i Bwyllgorau Craffu yng nghylch cyfarfodydd Tachwedd / Rhagfyr 2020. Pan fo'n briodol, byddai'r Asesiad o Effaith COVID-19 ar y Gymuned yn Sir Gaerfyrddin yn cael ei ddiweddaru.

·       Dechreuodd yr Adroddiad Blynyddol gyda throsolwg o Flwyddyn COVID-19 ac amlinellodd rai ymatebion ac effeithiau allweddol.

·       Roedd yr Adroddiad Blynyddol yn cyfeirio yn ei dro at bob un o 15 Amcan Llesiant y Cyngor ac yn asesu'r cynnydd a'r addasiadau a wnaed yn ystod blwyddyn anodd.

 

O ran Covid-19, nododd y Cabinet, er bod gan y Cyngor ddyletswydd statudol i gyhoeddi Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2020-21 erbyn 31 Hydref 2021, na fu unrhyw lacio ar y ddyletswydd honno er gwaethaf y pandemig. O ganlyniad, ni fu'n bosibl darparu cymaint o ddadansoddi a gwerthuso manwl, fel yn ystod blynyddoedd blaenorol, oherwydd nad oedd rhywfaint o wybodaeth am berfformiad yn cael ei chasglu'n genedlaethol wrth i wasanaethau ganolbwyntio ar ymateb i'r pandemig. Roedd rhai bylchau hefyd yn y wybodaeth a ddarparwyd fel arfer, er enghraifft, roedd Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau na fyddai data all-dro cymharol yn cael ei gyhoeddi ar gyfer cyfnodau 2019-20 a 2020-21. Fodd bynnag, byddai unrhyw wybodaeth wedi'i diweddaru a dderbynnir yn cael ei chynnwys yn yr adroddiad terfynol i'w chyflwyno i'r Cyngor ym mis Hydref

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR fod Adroddiad Blynyddol y Cyngor ar gyfer 2020/21 yn cael ei gymeradwyo.

 

7.

RHAGLEN MODERNEIDDIO ADDYSG - MODEL BUDDSODDI CYDFUDDIANOL - GWEITHRED YMLYNIAD pdf eicon PDF 426 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Atgoffwyd y Cabinet ei fod, yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Medi 2020, wedi penderfynu ymrwymo i Gytundeb Partneriaeth Strategol gyda WEPCo Limited a ffurfiwyd gan Lywodraeth Cymru a Meridian Investments o dan Fodel Buddsoddi Cydfuddiannol Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif i hwyluso'r gwaith o ddarparu cyfleusterau addysg a chymunedol. Nododd, ar ôl cwblhau'r Cytundeb Partneriaeth Strategol, fod gan Awdurdodau Lleol eraill a Sefydliadau Addysg Bellach yng Nghymru gyfnod i ymrwymo i gytundeb atodol syml, sef 'Gweithred Ymlyniad' a fyddai'n eu galluogi, o'r dyddiad gweithredu, i gytuno â phob person a oedd yn barti i'r Cytundeb Partneriaeth Strategol, neu bob person sy'n dod yn barti iddo, i gael ei rwymo gan y Cytundeb (ar yr un telerau ac amodau) (*Cyfranogwyr sy'n ymuno). Pe bai'r Cabinet yn cytuno i ymrwymo i'r weithred, rhagwelwyd ei gwblhau yn ddiweddarach yn 2021

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:-

 

7.1

Cymeradwyo gweithredu, darparu a chyflawni cytundeb atodol i'r Cytundeb Partneriaeth Strategol dyddiedig 30 Medi 2020 (y "Weithred Ymlyniad") er mwyn i'r Cyfranogwyr sy'n Ymuno, o ddyddiad gweithredu'r Weithred Ymlyniad, weithredu ac ymrwymo i delerau'r Cytundeb Partneriaeth Strategol WEP dyddiedig 30 Medi 2021 fel parti iddo, er mwyn hwyluso'r gwaith o ddarparu ystod o wasanaethau seilwaith a darparu cyfleusterau addysg a chymunedol;

7.2

Cymeradwyo telerau'r Weithred Ymlyniad fel y nodir yn Atodiad A i'r adroddiad a'i grynhoi yn yr adroddiad er mwyn gweithredu'r argymhelliad uchod;

7.3

Nodi y bydd y Weithred Ymlyniad yn cael ei gyflawni fel gweithred a'i ardystio yn unol ag Erthygl 13.5 o'r Cyfansoddiad; ac

7.4

Nodi, wrth gytuno i ymrwymo i'r Weithred Ymlyniad, ar wahân i ychwanegu'r Cyfranogwyr sy'n Ymuno fel Cyfranogwyr eraill, nad yw hyn yn newid telerau presennol y Cytundeb Partneriaeth Strategol dyddiedig 30 Medi 2020, mewn unrhyw ffordd, y mae'r Cyngor yn barti iddo ac mae'n ofynnol i'r Cyngor ei weithredu ac ymrwymo iddo.

 

 

8.

PWYLLGOR CRAFFU ADDYSG A PHLANT - ADRODDIAD ARGYMHELLION INTERIM Y GRWP GORCHWYL A GORFFEN PROSES YMGYNGHORI TREFNIADAETH YSGOLION pdf eicon PDF 227 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Cabinet Adroddiad Argymhellion Interim, a gyflwynwyd gan Gadeirydd Gr?p Gorchwyl a Gorffen y Pwyllgor Craffu Addysg a Phlant ar y Broses Ymgynghori ar Drefniadaeth Ysgolion a sut yr oedd hynny'n bwydo i mewn i Gynlluniau'r Adran Addysg a Gwasanaethau Plant ar sut yr oedd yn bwriadu ymgynghori, gan gofio bod angen atebion brys gan Lywodraeth Cymru ar gategoreiddio ysgolion.

 

Cwmpas a nodau'r Adolygiad Gorchwyl a Gorffen oedd:

 

·       Adolygu'r broses bresennol o ymgysylltu ac ymgynghori ag ysgolion, disgyblion, rhieni a'r cyhoedd o ran unrhyw newidiadau arfaethedig i'r ysgol;

·       Nodi arferion gorau cenedlaethol a rhyngwladol ar ymgynghori ac ymgysylltu;

·       Adolygu'r ffordd yr ymgynghorir ag Amcanion Strategol y Cyngor mewn ysgolion a sut y maent yn cael eu cyfleu a'u deall gan ysgolion, rhieni a phreswylwyr e.e. Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg a'r Rhaglen Moderneiddio Addysg

·       Llunio argymhellion i'w hystyried gan y Cabinet

 

Nododd y Cabinet fod y gr?p wedi rhannu'r adolygiad yn ddwy ran a) sut y mae'r Awdurdod yn ymgysylltu ac yn ymgynghori wrth ddatblygu ei gynlluniau strategol (Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg, Rhaglen Moderneiddio Addysg ac ati) a b) Sut y mae'r Awdurdod yn ymgysylltu ac yn ymgynghori ar gynigion penodol ar gyfer trefniadaeth ysgolion. Roedd yr adroddiad interim presennol yn canolbwyntio ar a) uchod, gan ymgorffori chwe argymhelliad i'w hystyried.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Adroddiad Argymhellion Interim Gr?p Gorchwyl a Gorffen y Pwyllgor Craffu Addysg a Phlant ar y broses Ymgynghori ar Drefniadaeth Ysgolion.

 

9.

UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL, 1972.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw eitemau eraill o fater brys.

 

10.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R MATER CANLYNOL GAN EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y BWRDD, AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.

 

 

11.

CYFLEUSTERAU HYFFORDDI PRIFYSGOL ABERTAWE YM MHARC DEWI SANT.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ar ôl cynnal prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 10 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu faterion busnes unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf). Roedd y prawf budd cyhoeddus mewn perthynas â'r adroddiad hwn yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth er mwyn cynnal cyfrinachedd i beidio â rhagfarnu cwblhau'r trafodyn a buddiannau busnes y prydlesai arfaethedig.

 

Ystyriodd y Cabinet adroddiad ar Gyfleusterau Hyfforddi Prifysgol Abertawe ym Mharc Dewi Sant. 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

11.1

Nodi cynnydd y trafodaethau ynghylch darparu hyfforddiant nyrsys ym Mharc Dewi Sant a darparu Academi Iechyd a Llesiant ym Mhentre Awel;

11.2

Rhoi cymeradwyaeth i barhau i ddatblygu'r tendr ar gyfer dylunio cyfleusterau Prifysgol Abertawe ym Mharc Dewi Sant.  I ddechrau, bydd y gwaith cynllunio yn parhau ar ôl cael sicrwydd gan yr Is-Ganghellor bod y cynlluniau'n mynd i gael eu derbyn gan Gyngor Prifysgol Abertawe ym mis Hydref; 

11.3

Cymeradwyo gosod y tendr ac ymgysylltu â chontractwr ar ôl i Benawdau'r Telerau ar gyfer Parc Dewi Sant a Phentre Awel gael eu llofnodi yn cytuno ar brydles 10 mlynedd.