5 CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD ANJULI FAYE DAVIES PDF 95 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Cymuned Anjuli Faye Davies am ollyngiad o dan ddarpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) i siarad a phleidleisio ac i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig mewn perthynas â busnes y cyngor yng nghyfarfodydd Cyngor Cymuned Llangathen ynghylch y cynigion ar gyfer peilonau trydan yn y Sir (Cynllun Bute Energy). Dywedwyd y byddai gan y Cynghorydd Davies fuddiant personol a rhagfarnol yn y busnes hwn gan ei bod yn byw ac yn ffermio ger llwybr arfaethedig y peilonau.
Dywedwyd bod y Cynghorydd Davies yn gofyn am ollyngiad yn rhinwedd y canlynol:
Rheoliad 2(2)(d) – mae natur buddiant yr aelod yn golygu na fyddai cyfraniad yr aelod i'r busnes y mae'r buddiant yn ymwneud ag ef yn niweidio hyder y cyhoedd o ran cynnal busnes yr awdurdod perthnasol,
Rheoliad 2(2)(e) mae'r buddiant yn gyffredin i'r aelod a chyfran sylweddol o'r cyhoedd yn gyffredinol a;
Rheoliad 2(2)(f) mae cyfranogiad yr aelod yn y busnes y mae'r buddiant yn ymwneud ag ef wedi'i gyfiawnhau gan rôl neu arbenigedd penodol yr aelod.
Dywedwyd wrth y pwyllgor pe bai'n caniatáu cais y Cynghorydd Davies, y byddai angen iddo benderfynu ar hyd y gollyngiad hwnnw hefyd.
Yn dilyn trafodaeth,
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu gollyngiad o dan Reoliadau 2(2)(d), 2(2)(e) a 2(2)(f) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 i'r Cynghorydd Anjuli Faye Davies i siarad a chyflwyno sylwadau ysgrifenedig ond NID pleidleisio ar fusnes y cyngor yng nghyfarfodydd Cyngor Cymuned Llangathen ynghylch y cynigion ar gyfer peilonau trydan yn y Sir (Cynllun Bute Energy) a bod y gollyngiad yn ddilys tan ddiwedd y tymor etholiadol presennol.