Mater - cyfarfodydd

STANDARDS COMMITTEE ANNUAL REPORT FOR 2023-2024.

Cyfarfod: 19/07/2024 - Pwyllgor Safonau (eitem 4)

4 ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PWYLLGOR SAFONAU 2023-2024 pdf eicon PDF 137 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried ei Adroddiad Blynyddol drafft 2023/24 a oedd yn manylu ar y gwaith yr oedd wedi'i wneud yn ystod y cyfnod hwnnw. Os caiff ei gymeradwyo, byddai'r adroddiad yn cael ei gyflwyno i gyfarfod o'r Cyngor Sir yn y dyfodol yn unol â'r gofynion a nodir yn Neddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.

 

Mewn ymateb i ymholiadau, rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor y byddai'r wybodaeth ddiweddaraf mewn perthynas â'r g?yn ar ffurf datgelu camarfer a oedd dal heb ei datrys a gwybodaeth am nifer y cynlluniau hyfforddi a gyhoeddwyd gan Gynghorau Tref a Chymuned yn cael ei darparu i'r Pwyllgor yn ei gyfarfod nesaf.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fabwysiadu a chyflwyno Adroddiad Blynyddol drafft y Pwyllgor Safonau 2023/24 i'r Cyngor.