11 POLISI CYFLOGAU ATHRAWON ENGHREIFFTIOL 2022/23. PDF 105 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
[NODER: (1) Gan iddynt ddatgan buddiant yn y mater hwn yn gynharach, gadawodd y Cynghorwyr L.D. Evans ac A. Vaughan-Owen y cyfarfod cyn i'r eitem hon gael ei hystyried a chyn i benderfyniad gael ei wneud yn ei chylch. (2) Yn absenoldeb y Cadeirydd a'r Is-gadeirydd, cafodd ei gynnig, ei eilio a'i gytuno y byddai'r Cynghorydd A. Lenny yn cadeirio'r cyfarfod tra oedd yr eitem hon yn cael ei hystyried.]
Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi manylion am Bolisi Cyflogau Athrawon Enghreifftiol diweddaraf 2022/23.
Mae'r polisi wedi cael ei ddiweddaru i gynnwys tâl mis Medi 2022 fel y nodir yn Nogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) 2022. Mae newidiadau eraill yn cynnwys adolygu'r egwyddor pro-rata ar gyfer lwfansau TLR 1 a 2 a’r Gwyliau Banc ychwanegol i nodi angladd Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth a choroni Ei Fawrhydi y Brenin Siarl III a olygai fod yn rhaid i athrawon fod ar gael i weithio am 193 diwrnod / 1258.5 o oriau yn lle'r 195 diwrnod arferol.
Er mwyn cydymffurfio â gofynion Dogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) 2022, sy'n ei gwneud yn ofynnol i bob ysgol gael polisi tâl sy'n nodi sut y gwneir penderfyniadau cyflog,
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Polisi Cyflogau Athrawon Enghreifftiol 2022/23 cyn iddo gael ei ddosbarthu i'r ysgolion er mwyn i'w Cyrff Llywodraethu ei fabwysiadu'n ffurfiol.