10 CYNLLUN TRECHU TLODI. PDF 106 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Bu'r Cabinet yn ystyried y Cynllun Trechu Tlodi a oedd yn amlinellu ymagwedd y Cyngor tuag at fynd i'r afael â materion sy'n gysylltiedig â thlodi.
Mae'r Cynllun hwn yn canolbwyntio ar yr agenda trechu tlodi ehangach, a nodir camau allweddol dros y 12 mis nesaf a fydd yn cefnogi ymateb y Cyngor i'r argyfwng costau byw presennol. Bydd y Cynllun hwn yn cael ei adolygu pan fydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei Strategaeth Tlodi Plant, a ddisgwylir o fewn y 12 mis nesaf.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Cynllun Trechu Tlodi y Cyngor 2023.