Mater - cyfarfodydd

BURRY PORT HARBOUR PETITION TO FULL COUNCIL - UPDATE POSITION.

Cyfarfod: 19/06/2023 - Cabinet (eitem 9)

9 DEISEB HARBWR PORTH TYWYN I CYNGOR LLAWN - ADRODDIAD DIWEDDARU. pdf eicon PDF 143 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa yn Harbwr Porth Tywyn, yn dilyn deiseb a gyflwynwyd i'r Cyngor llawn ar 25 Ionawr 2023 gan Gyfeillion Marina Porth Tywyn (FBPM).

 

Nodwyd bod swyddogion sy'n cynrychioli'r adrannau Adfywio, Cyllid a Hamdden yn parhau i gyfarfod yn rheolaidd â Rheolwr Gyfarwyddwr The Marine Group, lle mae pryderon gweithredol wedi cael eu codi a'u trafod ac yn parhau i gael eu codi a'u trafod. Mae swyddogion hefyd yn cyfarfod yn rheolaidd â Chadeirydd FBPM.

 

Mae'r Cyngor Sir yn rhannu nod datganedig FBPM o fod eisiau cyfleuster diogel, gweithredol a deniadol sydd o fudd gwirioneddol i ddefnyddwyr yr harbwr a'r gymuned gyfan.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

9.1 nodi'r sefyllfa o ran rhwymedigaethau prydles Burry Port Marina Ltd (BPML) mewn perthynas â rheoli'r Harbwr;

9.2 nodi sefyllfa Cyngor Sir Caerfyrddin mewn perthynas â chyfrifoldebau landlord am brydles yr ased a'r ymgysylltu parhaus gan swyddogion â rheolwyr BPML.