Mater - cyfarfodydd

PETITION FOR ROAD SAFETY - BLACK LION ROAD, CROSSHANDS.

Cyfarfod: 19/06/2023 - Cabinet (eitem 8)

8 DEISEB AM DDIOGELWCH FFYRDD - HEOL Y LLEW DU, CROSSHANDS pdf eicon PDF 3 MB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad a oedd yn manylu ar yr ymateb i'r ddeiseb a gyflwynwyd i'r Cyngor ym mis Rhagfyr 2022 ynghylch diogelwch ffyrdd ar hyd Heol y Llew Du yn Cross Hands.

 

Yng nghyfarfod y Cyngor dywedodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith y byddai'r adran yn ymchwilio i'r materion a godwyd yn y ddeiseb ac y byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i gyfarfod o Gabinet y Cyngor yn y dyfodol.

 

Ers hynny mae swyddogion y Gwasanaeth Priffyrdd a Thrafnidiaeth wedi cynnal ymchwiliad ac mae'r canfyddiadau wedi'u nodi yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

8.1 nodi cynnwys yr adroddiad;

8.2 gwrthod cais y deisebwyr am arafu traffig yn Heol y Llew Du;

8.3 gwrthod cais y deisebwyr am newidiadau i'r gyffordd groesgam yn Heol y Llew Du;

8.4 bod swyddogion yn gweithio i ddylanwadu ar gydymffurfiaeth gyrwyr â therfynau cyflymder ar hyd Ffordd Gyswllt Economaidd Cross Hands;

8.5 cynnal Archwiliad Diogelwch Ffyrdd Cam 4 maes o law;

8.6 hysbysu'r deisebwyr yn unol â hynny.