Mater - cyfarfodydd

SYSTEM IECHYD A GOFAL I ORLLEWIN CYMRU: PA MOR BELL, PA MOR GYFLYM?

Cyfarfod: 19/06/2023 - Cabinet (eitem 6)

6 SYSTEM IECHYD A GOFAL I ORLLEWIN CYMRU: PA MOR BELL, PA MOR GYFLYM? pdf eicon PDF 212 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad a oedd yn amlinellu'r ymateb yng Ngorllewin Cymru i fwrw ymlaen â'r broses integreiddio.  Yn benodol, roedd yr papur yn amlinellu cyfle yn Sir Gaerfyrddin i ddatblygu a gweithredu system iechyd a gofal ar gyfer pobl h?n yn seiliedig ar 'yr hyn sy'n bwysig' i'r boblogaeth hon a'r hyn a fydd yn addas i'r diben nawr ac yn y dyfodol. Roedd y papur hefyd yn ystyried sut i gysoni â'r Ddogfen Drafod Weinidogol sy'n dwyn y teitl 'Yn Bellach, Yn Gyflymach' a disgwyliadau'r ddogfen honno.

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

6.1 cydnabod yr adroddiad, y cyfle a'r sefyllfa gyfredol;

6.2cymeradwyo'r cynnig a'r cynllun lefel uchel.