Mater - cyfarfodydd

ADRODDIAD BLYNYDDOL CYFARWYDDWR STATUDOL Y GWASANAETHAU CYMDEITHASOL 2022/23

Cyfarfod: 04/10/2023 - Pwyllgor Craffu Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (eitem 4)

4 ADRODDIAD BLYNYDDOL CYFARWYDDWR STATUDOL Y GWASANAETHAU CYMDEITHASOL 2022/23 pdf eicon PDF 125 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol 2022/23 ynghylch perfformiad gwasanaethau gofal cymdeithasol yn y sir.

 

Roedd yn ofynnol yn statudol i'r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol adrodd yn flynyddol wrth y Cyngor ar berfformiad yr ystod gyfan o Wasanaethau Cymdeithasol a'r modd y cânt eu darparu, yn ogystal â chynlluniau ar gyfer eu gwella.

 

Nodwyd mai adroddiad drafft oedd hwn o hyd a byddai'n cael ei ddiwygio ymhellach cyn ei gwblhau.

 

Amlygodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol rai o'r prif faterion allweddol a nodwyd yn yr adroddiad.  Dywedodd fod y gwasanaethau oedolion yn adfer o'r pandemig ac wedi bod dan straen difrifol, yn bennaf oherwydd diffyg adnoddau.  Dywedyd mai cyflwr cyffredinol y farchnad gyflogaeth oedd achos yr anawsterau recriwtio, gan nad oes digon o bobl o oedran gweithio i wneud y swyddi ar draws pob sector gan gynnwys lletygarwch.  Roedd adolygiad mawr ar recriwtio a chadw wedi bod ond nid oedd wedi datrys yr holl brinder sylfaenol o fewn y gweithlu. .

 

Nododd y Pwyllgor fod yr adroddiad, o ran pobl h?n, yn nodi hyd arosiadau yn yr ysbyty, gyda 75% ac weithiau hyd at 80% o bobl fregus ac oedrannus o fewn y gwelyau hynny, gyda'r hyd arhosiad cyfartalog yn ysbytai Glangwili a'r Tywysog Philip dros ddwywaith yr hyn oedd mewn ysbytai cyfatebol.

 

O ran anableddau dysgu, roedd yr Awdurdod wedi ateb galw newydd ac nid oedd nifer y bobl oedd yn mynd i ofal preswyl ffurfiol wedi cynyddu. Fodd bynnag, y teimlad oedd bod y cynnydd disgwyliedig ddim yn digwydd o ran defnyddio adnoddau cymunedol i gefnogi a lleihau cyfanswm y bobl mewn gofal preswyl, oherwydd yr amser oedd angen i drefnu lleoliadau eraill.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol wrth y Pwyllgor fod y gwasanaeth, mewn perthynas â phlant ag anableddau, yn gweld cynnydd yn y galw gan deuluoedd ac roedd nifer y plant ar y gofrestr amddiffyn plant hefyd wedi cynyddu. Er gwaethaf y problemau, roedd tystiolaeth yn dangos bod yr Awdurdod yn gwneud penderfyniadau diogel mewn perthynas â phlant.

 

Nododd y Cadeirydd y sylwadau cadarnhaol gan AGC a diolchodd i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol a'r staff perthnasol am eu gwaith caled.

 

Roedd y canlynol ymhlith y cwestiynau/sylwadau a godwyd ynghylch yr adroddiad:-

 

·    Mewn ymateb i'r pryder a godwyd am y diffyg ariannol uchaf erioed o ran cyllidebau'r Bwrdd Iechyd a'r effaith bosibl gallai hyn ei chael ar yr Awdurdod, dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol y byddai'n rhaid i Lywodraeth Cymru a'r Byrddau Iechyd wneud penderfyniadau anodd rhyngddynt.  Fodd bynnag, synhwyrol oedd nodi y gallai fod effaith ar unrhyw fentrau ar y cyd fel Llesiant Delta, ond bod gan yr Awdurdod berthynas dda iawn â'r Bwrdd Iechyd yn strategol a'r gobaith oedd na fyddai mentrau oedd yn arbed arian ac yn diwallu'r angen yn cael eu heffeithio. 

 

·    Mewn perthynas â'r risg a nodwyd ynghylch y gyfradd uchel o chwyddiant, ymatebodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol drwy ddweud bod yr Awdurdod yn gorfod llyncu'r diffyg amlwg a fyddai'n arwain at wneud penderfyniadau anodd. Serch hynny, roedd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4