Mater - cyfarfodydd

3:15 p.m. TYWI VALLEY SHARED USE ROUTE - LAND ACQUISITION AND THE USE OF COMPULSORY PURCHASE ORDER POWERS TO SUPPORT THE ACQUISITION OF LAND AND RIGHTS. - EXEMPT

Cyfarfod: 13/03/2023 - Cabinet (eitem 10)

LLWYBR CYD-DDEFNYDDIO DYFFRYN TYWI - CAFFAEL TIR A DEFNYDDIO PWERAU GORCHYMYN PRYNU GORFODOL I GEFNOGI CAFFAEL TIR A HAWLIAU.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[Sylwer: Roedd y Cynghorydd Ann Davies, ar ôl datgan buddiant yn Eitem hon yn gynharach, wedi gadael y cyfarfod cyn i'r cais gael ei ystyried a chyn y gwnaed penderfyniad yn ei gylch.]

 

Yn sgil cynnal prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 8 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad am ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf). Roedd prawf budd y cyhoedd mewn perthynas â'r adroddiad hwn yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth a geir ynddo oherwydd byddai datgelu'r wybodaeth hon yn tanseilio safle'r Cyngor mewn unrhyw drafodaethau parhaus ynghylch prynu darnau o dir sy'n weddill a fydd yn cyd-fynd ochr yn ochr â phroses y Gorchymyn Prynu Gorfodol

 

Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad a oedd yn eisio cymeradwyaeth i barhau â thrafodaethau ynghylch tir a chymeradwyo defnyddio pwerau Prynu Gorfodol i gaffael tir a buddiannau.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

10.1

Cymryd yr holl gamau angenrheidiol i sicrhau bod Gorchymyn Prynu Gorfodol Llwybr Cyd-ddefnyddio Dyffryn Tywi yn cael ei wneud, ei gadarnhau a'i weithredu o dan adran 226(1)(a) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, Adran 13 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 a Deddf Caffael Tir 1981 i gaffael y cyfan neu'r rhan o'r tir a ddangosir yn binc ar y Cynlluniau sydd wedi'u hatodi ynghyd â chaffael hawliau hawddfraint dros yr ardaloedd glas y disgrifir pob un ohonynt yn gyffredinol yn Atodiad A at ddiben cyflawni'r llwybr cyd-ddefnyddio.

 

10.2

Ar y cyd â 10.1 uwchben, bod yr adran Eiddo Corfforaethol yn parhau â thrafodaethau i gaffael y tir sydd ei angen ar gyfer y Llwybr Cyd-ddefnyddio trwy gytundeb, os yn bosibl, gan gynnwys, lle bo'n berthnasol, y parseli hynny o dir nad oes ganddynt ar hyn o bryd ganiatâd cynllunio ar gyfer cyflawni'r Cynllun.

 

10.3

Cadarnhau y bydd y llwybr cyd-ddefnyddio, ar ôl ei adeiladu, yn cael ei ddynodi'n 'briffordd a gynhelir gan arian cyhoeddus’.

 

10.4

Awdurdodi'r Cyfarwyddwr Lle a Seilwaith i wneud y canlynol:

 

i.       Setlo ffurf a chynnwys terfynol y Gorchymyn Prynu Gorfodol a'r holl ddogfennaeth gysylltiedig (gan gynnwys y Datganiad Rhesymau) gan gynnwys mân ddiwygiadau i'r cynlluniau a'r atodlenni sy'n dangos y tir.

 

ii.     Cymryd pob cam sydd ei angen i fynd ar drywydd gwneud y Gorchymyn Prynu Gorfodol a sicrhau ei gadarnhad gan gynnwys cyhoeddi a chyflwyno pob hysbysiad a chyflwyno achos y Cyngor mewn unrhyw ymchwiliad cyhoeddus;

 

iii.   Caffael buddiannau yn y tir o fewn y Gorchymyn Prynu Gorfodol naill ai drwy gytundebau neu'n orfodol; a

 

iv.   Chymeradwyo cytundebau gyda thirfeddianwyr sy'n nodi'r telerau ar gyfer tynnu gwrthwynebiadau i'r Gorchymyn Prynu Gorfodol yn ôl, gan gynnwys lle bo hynny'n briodol, ceisio eithrio tir neu hawliau newydd o'r Gorchymyn Prynu Gorfodol.

 

v.     Ar ôl cadarnhau'r Gorchymyn Prynu Gorfodol, gweithredu'r pwerau Gorchymyn Prynu Gorfodol a Phwerau Breinio Cyffredinol i gaffael teitl i'r tir  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 10