Mater - cyfarfodydd

WASTE STRATEGY UPDATE

Cyfarfod: 30/01/2023 - Cabinet (eitem 9)

9 Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM Y STRATEGAETH WASTRAFF pdf eicon PDF 167 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn dilyn cofnod 7 o gyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 11 Hydref 2022, rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad a oedd yn rhoi diweddariad ar y cynnydd a wnaed hyd yn hyn ynghylch Strategaeth Wastraff y Cyngor ar gyfer 2021-2025, gan gynnwys cyflwyno'r newidiadau dros dro i'r drefn casglu gwastraff wrth ymyl y ffordd. 

 

Nododd strategaeth yr Awdurdod raglen gynhwysfawr o waith i sicrhau newid trawsnewidiol o ran gwasanaethau yn unol â'i uchelgais i leihau carbon.  Rhoddwyd trosolwg o'r sefyllfa interim i'r Cabinet, a oedd yn manylu ar y newidiadau a wnaed i'r casgliadau gwastraff ymyl y ffordd a oedd wedi dechrau ar 23 Ionawr 2023.  Dywedwyd wrth y Cabinet fod yr Awdurdod yn anelu at gyflwyno newid gwasanaeth mwy hirdymor i gyflawni methodoleg casglu'r Glasbrint erbyn 2024, a fyddai'n cynnwys gwelliannau i ddarpariaeth y fflyd bresennol.

 

Rhoddwyd ystyriaeth hefyd i'r polisi rheoli gwastraff a atodir i'r adroddiad a oedd yn darparu dogfen gyfunol yn amlinellu darpariaeth yr Awdurdod o ran gwasanaethau casglu sbwriel ac ailgylchu, ei rwydwaith o Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref a  chyfleusterau ailddefnyddio yn unol ag amcan strategol yr Awdurdod o wella casgliadau gwastraff domestig ymyl y ffordd er mwyn cynyddu'r cyfraddau ailgylchu yn Sir Gaerfyrddin.

 

Cyfeiriwyd at y cosbau ariannol sylweddol a fyddai'n cael eu rhoi pe bai'r Awdurdod yn methu â chyrraedd y targedau ailgylchu statudol.  Ar ben hynny, wrth ystyried rhwymedigaethau moesol yr Awdurdod i leihau ei ôl troed carbon, roedd y Cabinet yn cydnabod yr ymdrechion a wnaed hyd yma i symud tuag at system sy'n seiliedig ar egwyddorion economi gylchol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

9.1

nodi cynnydd a chyflawniad Strategaeth Wastraff 2021.

 

9.2

Cymeradwyo'r Polisi Gwastraff ac Ailgylchu.

 


 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau