Mater - cyfarfodydd

UPDATE ON THE UK SHARED PROSPERITY FUND (UKSPF)

Cyfarfod: 30/01/2023 - Cabinet (eitem 7)

7 Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM GRONFA FFYNIANT GYFFREDIN Y DU pdf eicon PDF 151 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn dilyn cofnod 7 o gyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 31 Hydref 2022, rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad cynnydd  o ran y Gronfa Ffyniant Gyffredin.

 

Cadarnhawyd bod Llywodraeth y DU wedi cymeradwyo Cynllun Buddsoddi Rhanbarthol y De-orllewin ym mis Rhagfyr 2022 ac roedd dyraniad cyllid o £38.6m ar gyfer Sir Gaerfyrddin wedi ei sicrhau er mwyn galluogi'r Awdurdod i gyflawni rhai o amcanion strategol y Sir. Cyfeiriwyd at y goblygiadau cyfreithiol a nodwyd yn yr adroddiad lle cadarnhawyd bod Cyngor Abertawe, fel yr Awdurdod Arweiniol ar ran rhanbarth y De-orllewin yn parhau â'r atebolrwydd cyffredinol o ran cyllido a gweithrediad y Gronfa Ffyniant Gyffredin, fodd bynnag cyfrifoldeb yr Awdurdod oedd rheolaeth a chyflawniad y rhaglen yn Sir Gaerfyrddin.

 

Roedd yr adroddiad yn manylu ar y prif brosiectau o fewn y themâu Cymuned, Gwledig, Lle, Cefnogi Busnes Lleol a Chyflogadwyedd a Sgiliau. Rhoddwyd trosolwg i’r Cabinet o'r goblygiadau ariannol, y prosesau llywodraethu a'r prosesau hefyd.  Yn hyn o beth, rhoddwyd ystyriaeth i'r trefniadau gwneud penderfyniadau ar gyfer y prif brosiectau a'r prosiectau annibynnol a oedd yn cynnwys datblygu ffurflen gais a meini prawf asesu, fel yr atodir i'r adroddiad.

 

I gydnabod fod Llywodraeth y DU wedi pennu dyddiad cwblhau o 31 Mawrth 2025 ar gyfer holl weithgarwch y Gronfa Ffyniant Gyffredin, gofynnwyd am gymeradwyaeth y Cabinet i fwrw ymlaen â recriwtio staff ar gyfer timau mewnol y prif brosiectau a'r tîm Rheoli Rhaglen, ynghyd ag agor galwadau ar gyfer pob cais cyn ymrwymo i Gytundeb Lefel Gwasanaeth ffurfiol â Chyngor Abertawe.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

7.1

Cymeradwyo’r camau a gymerwyd hyd yma a'r rhai a gafodd eu cynnig i alluogi swyddogion i barhau â'u gwaith paratoi ar gyfer darparu'r cyllid, h.y. sefydlu prosesau a gweithdrefnau ar gyfer cyflawni, a datblygu cytundebau cyfreithiol ffurfiol yn ôl y gofyn.

 

7.2

Cymeradwyo'r cais arfaethedig a'r broses o wneud penderfyniadau.

 

7.3

Cymeradwyo hyblygrwydd yn y cyllidebau gwaith er mwyn eu mireinio mewn ymgynghoriad â Chyllid a'r Bartneriaeth Adfywio.

 

7.4

Dirprwyo awdurdod i'r Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth i lofnodi'r manylion am y prif brosiectau yn dilyn argymhelliad y Bartneriaeth Adfywio.

 

7.5

Symud ymlaen gyda risg o ran galw am geisiadau cyn dechrau ar Gytundeb Lefel Gwasanaeth ffurfiol â Chyngor Abertawe.

 

7.6

Dirprwyo awdurdod i'r Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth i gymeradwyo prosiectau hyd at £100k.

 

7.7

Symud ymlaen gyda risg o ran recriwtio staff ar gyfer timau mewnol y prif brosiectau a'r tîm Rheoli Rhaglen er mwyn galluogi'r rhaglen i ddechrau cyn gynted â phosib.

 


 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau