CYMORTH ARIANNOL AR GYFER CHRT / LLANELLY HOUSE
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Ar ôl cynnal prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 11 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu faterion busnes unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf). Roedd prawf budd y cyhoedd mewn perthynas â'r adroddiad hwn yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth a geir ynddo oherwydd byddai datgelu gwybodaeth am weithrediad Plas Llanelly a allai wanhau ei sefyllfa mewn perthynas â thrydydd partïon y mae'n ymwneud â nhw.
Cafodd Aelodau'r Cabinet adroddiad mewn perthynas â chymorth ariannol ar gyfer Adfywio Treftadaeth Sir Gaerfyrddin/Plas Llanelly i'w ystyried. Mae Plas Llanelli yn allweddol i gefnogi adfywio Canol Tref Llanelli ac roedd angen cymorth i sicrhau cynaliadwyedd parhaus y plas.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL barhau i gefnogi prosiect Adfywio Treftadaeth Sir Gaerfyrddin/Plas Llanelly drwy gymeradwyo pecyn cymorth o hyd at £60k y flwyddyn am 2 flynedd pellach.