Mater - cyfarfodydd

POLISI EIDDO GWAG

Cyfarfod: 27/03/2023 - Cabinet (eitem 8)

8 POLISI CARTREFI GWAG - EIN DULL O DDEFNYDDIO CARTREFI GWAG UNWAITH ETO pdf eicon PDF 209 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad a oedd yn darparu cyflwyniad i'r Polisi Cartrefi Gwag a fydd yn gosod gweledigaeth a rhaglen waith y Cyngor wrth fynd i'r afael â chartrefi preswyl preifat gwag o fewn y Sir am y 3 blynedd nesaf.  Roedd yr adroddiad yn darparu cyfeiriad clir o ran y dull gweithredu a lle y byddai ein hymdrechion yn canolbwyntio er mwyn cyflawni hyn a nodau polisi eraill.

 

Dywedwyd bod cartrefi gwag yn adnodd a oedd yn cael ei wastraffu pan oedd prinder tai ar draws y Sir, gan gynnwys wardiau gwledig.  Dywedwyd bod yr eiddo hwn yn amharu ar gymdogaethau gan o bosibl ddod yn ffocws ar gyfer ymddygiad gwrthgymdeithasol.

 

Roedd y Cyngor wedi ymrwymo i ailddefnyddio tai gwag cyn gynted â phosib ac roedd wedi gweithio gyda pherchnogion cartrefi gwag a phartneriaid i gymryd yr holl gyfleoedd sydd ar gael i helpu i fynd i'r afael â mater eiddo gwag hirdymor.

 

Nododd Aelodau'r Cabinet y gallai ailddefnyddio tai gwag helpu i fynd i'r afael â nifer o faterion tai a phroblemau cymdeithasol drwy gynyddu'r cyflenwad mewn ardaloedd lle'r oedd prinder tai a phwysau a lle'r oedd cyfleoedd i gysylltu gyda phrosiectau adfywio eraill.

 

Roedd y Polisi yn nodi'r dull gweithredu a byddai'n caniatáu i swyddogion dargedu mathau penodol o eiddo, mewn ardaloedd penodol, a byddai'n rhoi eglurder a hyder o ran unrhyw gamau a gymerir.

 

Yn ogystal, nodwyd bod cynnydd wedi'i wneud dros y pum mlynedd diwethaf i leihau'r nifer cyffredinol o gartrefi gwag trwy weithgaredd parhaus ac annog/gorfodi perchnogion tai i'w hailddefnyddio. Y rhif presennol a adroddwyd oedd 1,984 (Medi 2022). Roedd hyn yn cynrychioli tua 2.1% o'r stoc dai cyffredinol yn y Sir.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR 

 

8.1

bod y Polisi Cartrefi Gwag - ein dull o ail-ddefnyddio cartrefi gwag yn cael ei gymeradwyo

8.2

cytuno ar y weledigaeth i leihau nifer yr eiddo gwag yn y Sir i 1500 erbyn 2026.

8.3

cadarnhau'r math o eiddo y byddwn yn canolbwyntio arno a'r matrics sgorio a ddefnyddir o ran eiddo gwag.

8.4

cadarnhau bod y Polisi Cartrefi Gwag yn cyd-fynd â phenderfyniad y Cyngor i osod Premiymau'r Dreth Gyngor ar eiddo gwag tymor hir a'r modd y caiff hyn ei orfodi trwy'r polisi hwn.

8.5

bod y mesurau perfformiad yn gyson ac yn adlewyrchu'r ymdrechion sy'n cael eu gwneud i ailddefnyddio cartrefi gwag.

 


 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau