7 ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2022/23 PDF 107 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr Adroddiad Monitro ynghylch y Gyllideb Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf ar gyfer y Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol fel yr oedd ar 30 Mehefin 2022, mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2022/23.
Roedd y Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Iechyd yn rhagweld gorwariant o £538k ar y gyllideb refeniw. Roedd y prif amrywiannau ar gynlluniau cyfalaf yn dangos gwariant llawn rhagweladwy o gymharu â chyllideb net o £397k.
Mewn ymateb i ymholiad cadarnhaodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol fod achlysuron yn y gorffennol pan oedd Llywodraeth Cymru wedi clustnodi symiau untro i alluogi darparu mwy o gapasiti i ateb y galw o ran iechyd a gofal cymdeithasol a gwrthbwyso pwysau gwir gost heb orfod torri gwasanaethau mewn mannau eraill.
CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn.