6 ADRODDIAD ALLDRO CYLLIDEB REFENIW 2021/22 PDF 104 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Alldro'r Gyllideb Refeniw ar gyfer 2021/22 a oedd yn nodi’r sefyllfa ariannol fel yr oedd ar ddiwedd y flwyddyn ariannol. Nodwyd bod y Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Iechyd yn dangos amrywiant net o -£2,264k o gymharu â chyllideb gymeradwy 2021/22.
Roedd yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am y canlynol:-
- Crynodeb o'r sefyllfa ar gyfer y Pwyllgor Craffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd.
- Adroddiad ar Brif Amrywiannau cyllidebau y cytunwyd arnynt;
- Amrywiannau manwl;
- Manylion y sefyllfa Monitro Arbedion ar gyfer diwedd y flwyddyn.
PENDERFYNWYD bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn.