Mater - cyfarfodydd

WEST WALES CARE PARTNERSHIP'S DEMENTIA STRATEGY

Cyfarfod: 05/10/2022 - Pwyllgor Craffu Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (eitem 5)

5 CYMERADWYO STRATEGAETH DEMENTIA PARTNERIAETH GOFAL GORLLEWIN CYMRU pdf eicon PDF 118 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER: Roedd y Cynghorwyr M. James a H.A.L. Evans wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, a bu iddynt aros yn y cyfarfod wrth i'r Pwyllgor ei hystyried.]

 

Ystyriodd y Pwyllgor Strategaeth Dementia Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru. Roedd y strategaeth ranbarthol hon wedi'i llunio mewn partneriaeth â Chyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Ceredigion a Chyngor Sir Penfro, y Bwrdd Iechyd a phartneriaid yn y trydydd sector yn ogystal â phobl â dementia, eu gofalwyr, ac aelodau o'r teulu ledled Cymru.

 

Roedd yr adroddiad yn cefnogi sawl amcan allweddol yn y Cynllun Corfforaethol, a'r Amcan Llesiant i gefnogi pobl h?n er mwyn iddynt heneiddio'n dda a chadw'u hurddas a'u hannibyniaeth wrth wneud hynny. Byddai cymeradwyo'r Strategaeth yn galluogi gwasanaethau i gael eu darparu yn unol ag anghenion y gymuned.

 

Roedd yr adroddiad yn gofyn i Gyngor Sir Caerfyrddin gymeradwyo'r strategaeth a oedd yn mynd drwy'r broses ddemocrataidd yng Ngheredigion a Sir Benfro ar yr un pryd. Roedd eisoes wedi cael ei gymeradwyo gan y Bwrdd Iechyd.

 

Roedd y canlynol ymhlith y cwestiynau/sylwadau a godwyd ynghylch yr adroddiad:-

·       Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig fod rhai elfennau o'r strategaeth eisoes yn cael eu cyflawni ond bod angen nodi'r gwasanaethau sydd ar gael ac unrhyw fylchau gyda'r bwriad o ddatblygu mentrau newydd, mwy di-dor;

·      Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig, mewn ymateb i gwestiwn, y byddai'r strategaeth yn ymdrechu i sicrhau mynediad teg i wasanaethau sy'n gysylltiedig â dementia ar draws y sir.

 

PENDERFYNWYD ARGYMELL I'R CABINET fod Strategaeth Dementia Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru yn cael ei chymeradwyo.

 


 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau