Mater - cyfarfodydd

NET ZERO ANNUAL PROGRESS REPORT

Cyfarfod: 04/10/2022 - Pwyllgor Craffu Lle, Cynaliadwyedd a Newid Hinsawdd (eitem 8)

8 ADRODDIAD CYNNYDD Y CYNLLUN CARBON SERO NET pdf eicon PDF 106 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor Adroddiad Cynnydd Cynllun Carbon Sero Net a gyflwynwyd gan yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd.

 

Cymeradwyodd y Cyngor Sir Gynllun Carbon Sero Net ar 12 Chwefror 2020 ac roedd Cam Gweithredu 28 o'r Cynllun yn gofyn am adroddiadau perfformiad ar gynnydd tuag at ddod yn awdurdod lleol carbon sero net erbyn 2030 i'w gyhoeddi'n flynyddol.

 

Holwyd ynghylch y canlynol mewn perthynas â'r adroddiad:-

 

·       Cyfeiriwyd at y tabl, crynodeb o'r cynnydd – Ôl Troed Carbon ar dudalen 3 o'r adroddiad.  Teimlwyd y byddai'n fuddiol cynnwys ffigwr ariannol yn y tabl a fyddai'n dangos yn nhermau ariannol faint o ynni oedd yn cael ei arbed.  Dywedodd y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd fod Archwilydd Cyffredinol Cymru, ar ôl cwblhau adolygiad yn ddiweddar ar gynlluniau newid hinsawdd yng Nghymru, wedi nodi y byddai cynnwys costau ariannol a briodolir i'r ôl troed carbon yn fuddiol. Felly, bydd cost ariannol yn cael ei gynnwys yn y fersiwn nesaf o'r cynllun.


 

Yn ogystal, rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor am y gwaith fyddai'n cael ei wneud i ddatblygu'r cynllun ymhellach gan gynnwys rhagor o wybodaeth ynddo a thaflwybrau mewn perthynas â'r rhaglenni a'r cynlluniau yr oedd y Cyngor wedi ymrwymo iddynt hyd yn hyn.

 

·       Wrth ganmol cynnwys yr adroddiad, dywedwyd y byddai'n gyfle ystyried cynhyrchu trydan. Teimlwyd bod paneli solar ben to yn rhy fach ar gyfer galw ynni'r adeiladau y cawsant eu lleoli arnynt.  Nodwyd bod y Cyngor yn cynhyrchu 1 awr megawat (MWh) yn flynyddol yn gyffredinol, sef 50% yn llai na'r hyn a gynhyrchir gan y sector cymunedol yn Sir Gaerfyrddin ar hyn o bryd. Gan gofio'r wybodaeth hon, gofynnwyd a oedd unrhyw gynlluniau i gynyddu faint o drydan sy'n cael ei gynhyrchu drwy baneli solar, batris a thyrbinau gwynt o bosib?  Esboniodd y Rheolwr Datblygu Cynaliadwy fod cyrraedd sefyllfa 'carbon sero' yn amhosibl ac mai'r unig ffordd o gyrraedd 'carbon sero net' yw drwy wrthbwyso a hynny drwy gynhyrchu rhagor o ynni adnewyddadwy a dal carbon. Mewn ymateb penodol i baneli solar ben to, dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynaliadwy, er bod y Cyngor ymhlith yr awdurdodau lleol sy'n cynhyrchu'r mwyaf o ynni solar ben to yng Nghymru, mae angen buddsoddiad pellach er mwyn cyrraedd y nod o fod yn sero net erbyn 2030.

 

Mewn ymateb i'r sylwadau a godwyd, ychwanegodd y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd fod cryn dipyn o waith yn cael ei wneud ar lefel strategol i ddatblygu safleoedd ynni adnewyddadwy gan gynnwys safle Nant-y-caws oedd yn safle blaengar o ran yr economi gylchol.

 

Roedd yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd yn cydnabod bod angen bod yn fwy ystwyth ar frys gyda mwy o bwyslais ar weithio gyda'r trydydd sector.

 

·         Gofynnwyd a oedd unrhyw grantiau neu gymorth ar gael i neuaddau pentref lleol osod paneli solar?  Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd y gallai fod cefnogaeth drwy'r Rhaglen Leader a'r Biwro sy'n cyflwyno grantiau cymunedol ar gyfer gosod ffynonellau ynni adnewyddadwy.  Yn wyneb costau byw cynyddol, cydnabuwyd y byddai hwn yn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 8


 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau