Mater - cyfarfodydd

FORWARD WORK PLAN FOR 2022/23

Cyfarfod: 04/10/2022 - Pwyllgor Craffu Lle, Cynaliadwyedd a Newid Hinsawdd (eitem 6)

6 BLAENRAGLEN WAITH AR GYFER 2022/23 pdf eicon PDF 104 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor, yn unol ag Erthygl 6.2 o Gyfansoddiad y Cyngor, ei Flaengyllun Gwaith drafft ar gyfer 2022/23.  Bu'r Pwyllgor hefyd yn ystyried ei drefniadau Gorchwyl a Gorffen ar gyfer 2022/23-24. 

 

Yn ei sesiwn datblygu Blaengynllun Gwaith anffurfiol ar 21 Medi 2022, dechreuodd y Pwyllgor y broses o lunio'r blaengynllun gwaith ar gyfer 2022/23.  Mae canlyniad y sesiwn ddatblygu bellach wedi'i gyflwyno i'r Pwyllgor yn y Blaengynllun Gwaith i'w gadarnhau.

 

Datblygodd yr aelodau Flaengynllun Gwaith y Pwyllgor gan ystyried y pynciau sy'n peri pryder o fewn maes gorchwyl y Pwyllgor Craffu Lle, Cynaliadwyedd a Newid Hinsawdd, gan reoli'r agenda drwy Fethodoleg Porth. 

 

Hefyd, drwy gydol y flwyddyn, nododd yr Aelodau y byddent yn ystyried Blaengynllun Gwaith y Cabinet er mwyn nodi adroddiadau cyn gwneud penderfyniadau y maent am eu rhoi ar y Blaengynllun Gwaith Craffu

 

Roedd yr adroddiad yn rhoi sylw i'r ffaith bod y Pwyllgor, yn ei gyfarfod ar 2 Gorffennaf 2021, wedi cytuno'n ffurfiol bod y trefniadau Gorchwyl a Gorffen ar gyfer 2021/22-2023 yn cael eu cyflawni yn y drefn ganlynol:-

 

1) Adolygu'r gwaith o Reoli Tipio Anghyfreithlon yn Sir Gaerfyrddin

2) Adolygu bridio c?n yn Sir Gaerfyrddin.

 

Gofynnwyd i'r Pwyllgor nodi'r trefniadau a gytunwyd yn flaenorol ar gyfer yr adolygiadau Gorchwyl a Gorffen ar gyfer 2022/2023-2024.

 

Wrth ystyried y trefniadau ar gyfer yr adolygiadau Gorchwyl a Gorffen, codwyd pryder ynghylch yr amser y byddai'n ei gymryd i gynnal yr adolygiad bridio c?n.  Dywedodd y Cadeirydd y byddai'r Pwyllgor Craffu ond yn ymgymryd ag un Adolygiad Ymchwiliol (Gorchwyl a Gorffen) o fewn blwyddyn y cyngor, ond y gobaith oedd y byddai'r adolygiad o Reoli Tipio Anghyfreithlon yn Sir Gaerfyrddin yn cael ei gwblhau erbyn mis Ebrill 2023, gan ganiatáu i'r adolygiad bridio c?n yn Sir Gaerfyrddin ddechrau yn ystod blwyddyn y cyngor 2023-2024.

 

Yn ogystal, mewn perthynas ag adolygiad y Gr?p Gorchwyl a Gorffen o Fridio C?n yn Sir Gaerfyrddin, dywedodd y Pennaeth Tai wrth y Pwyllgor nad yw'r amodau a'r ddeddfwriaeth o ran bridio c?n wedi dod i law eto gan Lywodraeth Cymru ac felly byddai'n well ddechrau'r adolygiad y flwyddyn nesaf.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

6.1      gymeradwyo'r Blaengynllun Waith Lle, Cynaliadwyedd a Newid Hinsawdd ar gyfer 2022/22.

 

6.2          cyflwyno Blaengynllun Waith Lle, Cynaliadwyedd a Newid Hinsawdd ar gyfer 2022/23 gydag adroddiadau cyn gwneud penderfyniadau a nodwyd o Flaengynllun y Cabinet i'w cymeradwyo yn y cyfarfod nesaf.

 

6.3          Nodi'r trefniadau ar gyfer adolygiadau Gorchwyl a Gorffen ar gyfer 2022/23 - 2023/2024 fel y nodir o fewn yr adroddiad.

 

 


 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau