5 CRONFA FFYNIANT GYFFREDIN Y DU PDF 116 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad a oedd yn manylu ar lefel y cyllid i'w ddarparu i Awdurdodau Lleol ar draws rhanbarth De-Orllewin Cymru yn ystod y 3 blynedd nesaf yn unol â meysydd blaenoriaeth Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
Gofynnwyd i'r Cabinet gymeradwyo Cynllun Buddsoddi Rhanbarthol De-Orllewin Cymru a gyflwynwyd yn Atodiad A i'r adroddiad, a oedd wedi'i gydlynu gan Gyngor Abertawe fel yr Awdurdod arweiniol ar ran rhanbarth y De-orllewin, i gael ei gymeradwyo gan Lywodraeth y DU a rhoi'r Gronfa ar waith ar ôl hynny.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:
5.1 |
Cymeradwyo'r camau a gymerwyd hyd yn hyn i alluogi'r Sir i elwa o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU;
|
5.2 |
Cymeradwyo'r Cynllun Buddsoddi Rhanbarthol ar gyfer De-orllewin Cymru sy'n nodi sut y bydd Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn cael ei defnyddio yn y rhanbarth rhwng 2022/23 a 2024/25, cyn cyflwyno'r cynllun i Lywodraeth y DU. |