Mater - cyfarfodydd

IMPACT OF NATIONAL SOCIAL CARE PRESSURES IN CARMARTHENSHIRE - REPORT OF THE STATUTORY DIRECTOR OF SOCIAL SERVICES.

Cyfarfod: 11/10/2021 - Cabinet (Eitem 8)

8 EFFAITH PWYSAU CENEDLAETHOL O RAN GOFAL CYMDEITHASOL YN SIR GAERFYRDDIN - ADRODDIAD CYFARWYDDWR STATUDOL Y GWASANAETHAU CYMDEITHASOL. pdf eicon PDF 567 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Atgoffwyd y Cabinet, o dan y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, fod gan Gyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol ddyletswydd i gynghori Cynghorwyr ynghylch - ymysg pethau eraill - yr heriau, y risgiau a'r amgylchiadau lle roedd materion staffio'n effeithio ar allu'r awdurdod i gyflawni ei gyfrifoldebau statudol, ac i friffio'r Prif Weithredwr a'r Cynghorwyr ynghylch materion oedd yn debygol o achosi pryder ymhlith y cyhoedd a strategaethau i ymdrin â'r sefyllfaoedd hynny.

Yn unol â hynny, rhoddodd y Cabinet ystyriaeth i adroddiad ar yr heriau oedd yn  wynebu Gofal Cymdeithasol yng Nghymru yn deillio o'r pandemig COVID-19, effaith hyn ar drigolion Sir Gaerfyrddin, a rhai o'r camau oedd yn cael eu cymryd i leihau'r effaith honno. Er bod y pwysau ar ei fwyaf yn y gwasanaethau i bobl h?n, roedd yr adroddiad yn nodi hefyd bwysau ym meysydd Iechyd Meddwl, Anableddau Dysgu a'r Gwasanaethau Plant. Roedd yr adroddiad yn nodi y byddai unrhyw risgiau sylweddol yn y dyfodol yn cael eu hystyried yn ofalus a byddid yn adrodd yn eu cylch lle bo'r angen. Sicrhawyd y Cabinet fod y sefyllfa'n cael ei rheoli'n lleol ond roedd yn anochel yn effeithio ar ansawdd y gofal roedd unigolion yn ei gael a darpariaeth gyffredinol y gofal hwnnw. Nodwyd bod gan yr Awdurdod system gadarn o adrodd, gwneud penderfyniadau a rheoli ar waith ar ffurf llinellau corfforaethol clir ac arweinyddiaeth wleidyddol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi cynnwys yr adroddiad a'r goblygiadau a'r camau allweddol oedd yn cael eu cymryd.