7 STRATEGAETH WASTRAFF I'R DYFODOL. PDF 674 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Rhoddodd y Cabinet ystyriaeth i Strategaeth Wastraff arfaethedig Sir Gaerfyrddin 2021-2025, a oedd yn manylu ar yr ystyriaethau, y mesurau a'r strategaeth arfaethedig ar gyfer gwella'r gwasanaeth casglu gwastraff wrth ymyl y ffordd yn y dyfodol, er mwyn cyflawni'r mesurau a nodwyd yn strategaethau Llywodraeth Cymru 'Tuag at Ddyfodol Diwastraff' a 'Mwy nag Ailgylchu'. Er bod y model gwasanaeth presennol wedi galluogi'r Awdurdod i ragori ar y targed statudol o 64%, barnwyd bod angen newid pellach i gyrraedd y targed ailgylchu o 70% o 2024/25, y targed disgwyliedig o 80% erbyn 2030 a darparu sylfaen ar gyfer gwelliannau i sicrhau dim gwastraff erbyn 2050.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL
7.1 cymeradwyo'r cyfeiriad a bennwyd ar gyfer y gwasanaeth, sef ateb dros dro ac yna newid mwy hirdymor i'r gwasanaeth, gan gynnwys y cynigion interim canlynol:
· symud i gasgliadau ailgylchu wythnosol;
· newid i gasgliadau gwastraff gweddilliol bob tair wythnos;
· casglu gwydr ar wahân wrth ymyl y ffordd (bob 3 wythnos am y tro);
7.2 dechrau prynu'r cerbydau ychwanegol sydd eu hangen ar gyfer yr ateb dros dro;
7.3 datblygu'r rhaglen o newid mwy hirdymor i'r gwasanaeth er mwyn symud yn 2024
· i gasgliadau ailgylchu sy'n cydymffurfio â "Glasbrint" Llywodraeth Cymru
· ailgylchu gwydr wythnosol fel rhan o ddull casglu didoli wrth ymyl y ffordd;
· casglu deunydd ychwanegol – tecstilau, Offer Domestig Bach a batris.