Mater - cyfarfodydd

ADOPTED CARMARTHENSHIRE LOCAL DEVELOPMENT PLAN ANNUAL MONITORING REPORT.

Cyfarfod: 11/10/2021 - Cabinet (eitem 6)

6 ADRODDIAD MONITRO BLYNYDDOL 2019/21 CYNLLUN DATBLYGU LLEOL MABWYSIEDIG SIR GAERFYRDDIN. pdf eicon PDF 356 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cabinet ystyriaeth i'r Adroddiad Monitro Blynyddol ar gyfer Cynllun Datblygu Lleol Sir Gaerfyrddin a fabwysiadwyd, a oedd wedi'i baratoi'n unol â darpariaethau Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 a Rheoliadau Cynllun Datblygu Lleol 2005. Er gwaethaf barnu bod cynnydd wedi'i wneud o ran gweithredu llawer o bolisïau ac amcanion y Cynllun a fabwysiadwyd, roedd elfennau a rhannau ohono nad oeddent yn cael eu cyflawni yn ôl y bwriad. Roedd Pandemig Covid-19 a'r cyfyngiadau cysylltiedig wedi ychwanegu at y broblem. Yn hyn o beth, roedd yn anochel bod rhai o ganfyddiadau'r Adroddiad hwn yn adleisio'r heriau a brofwyd gan rai sectorau a chymdeithas.

Yn unol â dyletswydd statudol y Cyngor, byddai'r Adroddiad yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru a'i gyhoeddi ar wefan y Cyngor erbyn 31 Hydref 2021. Byddai ymgynghoriad anffurfiol yn cyd-fynd â hyn a fyddai'n rhoi cyfle i bartïon â diddordeb roi sylwadau ar y materion allweddol a godwyd. Er nad oedd yn ofyniad statudol, roedd ymgynghoriad o'r fath yn gyfle pwysig i gyflwyno sylwadau, a lle bo'n briodol, i'r sylwadau hynny gyfrannu at gynnwys Adroddiadau Monitro Blynyddol dilynol.Byddai cynnwys yr Adroddiad Monitro Blynyddol presennol, ynghyd â chynnwys y tair dogfen flaenorol, yn cael ei ddefnyddio wrth baratoi'r Cynllun Datblygu Lleol  Diwygiedig 2018 – 2033 a'i sylfaen dystiolaeth gysylltiedig.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR y dylid cymeradwyo'r Adroddiad Monitro Blynyddol ar gyfer Cynllun Datblygu Lleol Sir Gaerfyrddin, ac awdurdodi swyddogion i wneud newidiadau teipograffyddol neu ffeithiol yn ôl yr angen i wella ei eglurder a'i gywirdeb.

 


 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau