Mater - cyfarfodydd

EDUCATION & CHILDREN SCRUTINY COMMITTEE - TASK AND FINISH GROUP INTERIM RECOMMENDATIONS REPORT SCHOOL ORGANISATION CONSULTATION PROCESS

Cyfarfod: 27/09/2021 - Cabinet (eitem 8)

8 PWYLLGOR CRAFFU ADDYSG A PHLANT - ADRODDIAD ARGYMHELLION INTERIM Y GRWP GORCHWYL A GORFFEN PROSES YMGYNGHORI TREFNIADAETH YSGOLION pdf eicon PDF 227 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Cabinet Adroddiad Argymhellion Interim, a gyflwynwyd gan Gadeirydd Gr?p Gorchwyl a Gorffen y Pwyllgor Craffu Addysg a Phlant ar y Broses Ymgynghori ar Drefniadaeth Ysgolion a sut yr oedd hynny'n bwydo i mewn i Gynlluniau'r Adran Addysg a Gwasanaethau Plant ar sut yr oedd yn bwriadu ymgynghori, gan gofio bod angen atebion brys gan Lywodraeth Cymru ar gategoreiddio ysgolion.

 

Cwmpas a nodau'r Adolygiad Gorchwyl a Gorffen oedd:

 

·       Adolygu'r broses bresennol o ymgysylltu ac ymgynghori ag ysgolion, disgyblion, rhieni a'r cyhoedd o ran unrhyw newidiadau arfaethedig i'r ysgol;

·       Nodi arferion gorau cenedlaethol a rhyngwladol ar ymgynghori ac ymgysylltu;

·       Adolygu'r ffordd yr ymgynghorir ag Amcanion Strategol y Cyngor mewn ysgolion a sut y maent yn cael eu cyfleu a'u deall gan ysgolion, rhieni a phreswylwyr e.e. Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg a'r Rhaglen Moderneiddio Addysg

·       Llunio argymhellion i'w hystyried gan y Cabinet

 

Nododd y Cabinet fod y gr?p wedi rhannu'r adolygiad yn ddwy ran a) sut y mae'r Awdurdod yn ymgysylltu ac yn ymgynghori wrth ddatblygu ei gynlluniau strategol (Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg, Rhaglen Moderneiddio Addysg ac ati) a b) Sut y mae'r Awdurdod yn ymgysylltu ac yn ymgynghori ar gynigion penodol ar gyfer trefniadaeth ysgolion. Roedd yr adroddiad interim presennol yn canolbwyntio ar a) uchod, gan ymgorffori chwe argymhelliad i'w hystyried.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Adroddiad Argymhellion Interim Gr?p Gorchwyl a Gorffen y Pwyllgor Craffu Addysg a Phlant ar y broses Ymgynghori ar Drefniadaeth Ysgolion.