Mater - cyfarfodydd

MODERNISING EDUCATION PROGRAMME - MUTUAL INVESTMENT MODEL - DEED OF ADHERENCE

Cyfarfod: 27/09/2021 - Cabinet (eitem 7)

7 RHAGLEN MODERNEIDDIO ADDYSG - MODEL BUDDSODDI CYDFUDDIANOL - GWEITHRED YMLYNIAD pdf eicon PDF 426 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Atgoffwyd y Cabinet ei fod, yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Medi 2020, wedi penderfynu ymrwymo i Gytundeb Partneriaeth Strategol gyda WEPCo Limited a ffurfiwyd gan Lywodraeth Cymru a Meridian Investments o dan Fodel Buddsoddi Cydfuddiannol Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif i hwyluso'r gwaith o ddarparu cyfleusterau addysg a chymunedol. Nododd, ar ôl cwblhau'r Cytundeb Partneriaeth Strategol, fod gan Awdurdodau Lleol eraill a Sefydliadau Addysg Bellach yng Nghymru gyfnod i ymrwymo i gytundeb atodol syml, sef 'Gweithred Ymlyniad' a fyddai'n eu galluogi, o'r dyddiad gweithredu, i gytuno â phob person a oedd yn barti i'r Cytundeb Partneriaeth Strategol, neu bob person sy'n dod yn barti iddo, i gael ei rwymo gan y Cytundeb (ar yr un telerau ac amodau) (*Cyfranogwyr sy'n ymuno). Pe bai'r Cabinet yn cytuno i ymrwymo i'r weithred, rhagwelwyd ei gwblhau yn ddiweddarach yn 2021

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:-

 

7.1

Cymeradwyo gweithredu, darparu a chyflawni cytundeb atodol i'r Cytundeb Partneriaeth Strategol dyddiedig 30 Medi 2020 (y "Weithred Ymlyniad") er mwyn i'r Cyfranogwyr sy'n Ymuno, o ddyddiad gweithredu'r Weithred Ymlyniad, weithredu ac ymrwymo i delerau'r Cytundeb Partneriaeth Strategol WEP dyddiedig 30 Medi 2021 fel parti iddo, er mwyn hwyluso'r gwaith o ddarparu ystod o wasanaethau seilwaith a darparu cyfleusterau addysg a chymunedol;

7.2

Cymeradwyo telerau'r Weithred Ymlyniad fel y nodir yn Atodiad A i'r adroddiad a'i grynhoi yn yr adroddiad er mwyn gweithredu'r argymhelliad uchod;

7.3

Nodi y bydd y Weithred Ymlyniad yn cael ei gyflawni fel gweithred a'i ardystio yn unol ag Erthygl 13.5 o'r Cyfansoddiad; ac

7.4

Nodi, wrth gytuno i ymrwymo i'r Weithred Ymlyniad, ar wahân i ychwanegu'r Cyfranogwyr sy'n Ymuno fel Cyfranogwyr eraill, nad yw hyn yn newid telerau presennol y Cytundeb Partneriaeth Strategol dyddiedig 30 Medi 2020, mewn unrhyw ffordd, y mae'r Cyngor yn barti iddo ac mae'n ofynnol i'r Cyngor ei weithredu ac ymrwymo iddo.