Mater - cyfarfodydd

CARTREFI CROESO

Cyfarfod: 13/09/2021 - Cabinet (eitem 14)

14 CARTREFI CROESO pdf eicon PDF 541 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad ar gwmni Cartrefi Croeso, sef Cwmni Tai Lleol y Cyngor, a sefydlwyd yn 2018 i gefnogi'r Cyngor i ddarparu cartrefi fforddiadwy i'w gwerthu a'u rhentu gan sicrhau amrywiaeth o opsiynau i'w helpu i gyflawni ei ymrwymiad tai fforddiadwy i ddiwallu anghenion a dyheadau tai fforddiadwy, gan gefnogi twf economaidd ac adfywio strategol.

 

Roedd yr adroddiad yn manylu ar y cynnydd a wnaed gan gwmni Cartrefi Croeso hyd yma ac yn mynd i'r afael â rôl y cwmni yn y dyfodol yn sgil yr amgylchiadau a oedd wedi codi yn dilyn sefydlu'r cwmni yn y lle cyntaf. Yn ogystal, roedd yr adroddiad yn esbonio sut y byddai'r Cyngor bellach yn arwain ar bob datblygiad tai fforddiadwy deiliadaeth gymysg yn y dyfodol o ganlyniad i ddatblygu sgiliau a chapasiti yn sylweddol ar gyfer y dyfodol.  Byddai hyn yn caniatáu darparu cartrefi fforddiadwy newydd a fyddai'n parhau i gyfrannu’n sylweddol at adferiad economaidd y Sir, ar ôl COVID.

 

Bu'r Cabinet yn ystyried y dull arfaethedig ar gyfer y dyfodol a fyddai'n galluogi'r Cyngor i arwain ar bob datblygiad tai fforddiadwy deiliadaeth gymysg. Byddai'r dull hwn yn galluogi'r Cyngor ei hun i fanteisio i'r eithaf ar yr holl gyfleoedd ariannu, gan gynllunio, comisiynu a darparu'r holl dai fforddiadwy a ddarperir ledled y sir yn strategol.  Nododd Aelodau'r Cabinet y byddai'r opsiwn hwn yn lleihau costau parhaus y Cwmni yn sylweddol.  Er mwyn sicrhau bod cyfle i ddefnyddio'r Cwmni pe bai angen yn y dyfodol, ac os ystyrir ei bod yn briodol gwneud hynny, cynigiodd yr adroddiad y dylai Cartrefi Croeso gael ei ddynodi yn gwmni segur ond parhau i fodoli ar gofrestr y cwmnïau yn Nh?'r Cwmnïau.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

14.1

Nodi'r cynnydd a wnaed hyd yma o ran datblygiadau tai fforddiadwy deiliadaeth gymysg Cartrefi Croeso;

 

14.2

Cadarnhau bod y Cyngor yn ymgymryd â'r holl ddatblygiadau tai fforddiadwy deiliadaeth gymysg yn y dyfodol a bod Cartrefi Croeso, fel cwmni, yn cael ei ddynodi yn segur ond yn parhau i fodoli ar gofrestr y cwmnïau yn Nh?'r Cwmniau;

 

14.3

Gweithredu'r broses gyfreithiol ar gyfer Cartrefi Croeso i roi'r gorau i fasnachu ond cael ei gadw fel Cwmni "segur", rhag ofn bydd y Cyngor am werthu cartrefi drwy'r cyfrwng hwn rywbryd yn y dyfodol;

 

14.4

Caniatáu i'r Prif Weithredwr, ar ôl ymgynghori â Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, ac yn unol â'r trefniadau dirprwyo presennol, i weithredu ar ran y cyfranddaliwr (y Cyngor) mewn perthynas â'r Cytundeb Cyfranddaliwr.