Mater - cyfarfodydd

COVID-19 PUBLIC REALM MEASURES

Cyfarfod: 13/09/2021 - Cabinet (eitem 15)

15 MESURAU MANNAU CYHOEDDUS COVID-19 pdf eicon PDF 1 MB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad a oedd yn cynnig opsiynau ynghyd ag argymhellion ar fesurau a gyflwynwyd mewn ymateb i bandemig Covid-19 yng nghanol trefi Caerfyrddin, Llanelli a Rhydaman.

 

Nododd yr Aelodau Cabinet fod ymgynghoriad wedi’i gynnal gyda’r cyhoedd a busnesau rhwng 16 Tachwedd 2020 a 4 Ionawr 2021 a hynny ar-lein oherwydd cyfyngiadau Covid. Crynhowyd y prif ganfyddiadau yn adroddiad llawn yr ymgynghoriad a oedd wedi'i atodi i'r adroddiad.

 

Nodwyd bod llawer o'r newidiadau i'r mannau cyhoeddus wedi'u hategu drwy gyfrwng gorchmynion cyfreithiol a ddrafftiwyd naill ai dros dro neu ar sail arbrofol a oedd yn ddilys am hyd at 18 mis o ddechrau mis Awst 2020 gyda'r newidiadau canlynol yng nghanol y trefi yn cael eu rhoi ar waith:-

 

· Terfynau Cyflymder - Gorchmynion Dros Dro

· Newidiadau parcio - Gorchmynion Arbrofol

· Gwahardd Gyrru a Mynediad - Gorchmynion Dros Dro

 

Terfynau Cyflymder - Gorchmynion Dros Dro: Mae ymyriadau rheoli traffig o ran gostwng y terfyn cyflymder i 20mya yn cynnig diogelwch ar y ffyrdd hirdymor a buddion teithio llesol ac roeddent yn unol â deddfwriaeth arfaethedig Llywodraeth Cymru ar gyfer terfynau cyflymder o 20mya mewn ardaloedd trefol.  Roedd yr adroddiad yn argymell y dylid gwneud y gorchmynion terfyn cyflymder dros dro presennol, a oedd yn dod i ben ym mis Ionawr 2022, yn barhaol drwy broses statudol y Gorchymyn Rheoleiddio Traffig fel y nodir yn atodlen 1 yr adroddiad.

 

Newidiadau parcio - Gorchmynion Arbrofol:  Roedd nifer o’r newidiadau i ardaloedd parcio wedi bod yn llwyddiannus iawn, ac awgrymodd yr adroddiad y dylai rhain fod yn barhaol, ac fe’u rhestrir yn Atodlen 2 yr adroddiad. Serch hynny, dylid dileu rhai eraill nad oedd wedi bod mor llwyddiannus. Fe’u rhestrir yn Atodlen 3 yr adroddiad. 

 

Gwahardd Gyrru a Mynediad - Gorchmynion Dros Dro:  Roedd yr adroddiad yn amlinellu'r opsiynau mewn perthynas â Rheoli Traffig (Mynediad yn Unig) a Cherddwyr.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

15.1 bod y terfynau cyflymder a nodir yn Atodlen 1 yn cael eu hyrwyddo fel terfynau cyflymder parhaol.

 

15.2 bod y mannau parcio a nodir yn Atodlen 2 fel Gorchmynion Arbrofol yn cael eu cadarnhau fel rhai parhaol a bod Gorchmynion Rheoleiddio Traffig yn cael eu llunio yn unol â hynny.

 

15.3 bod y mannau parcio yng Nghaerfyrddin yn cael eu dileu fel y nodir yn Atodlen 3

 

15.4 bod y gorchymyn traffig 'Mynediad yn Unig' dros dro ar Heol y D?r, Caerfyrddin yn cael ei hyrwyddo fel un parhaol ac yn cael ei orfodi.

 

15.5 bod y mesurau i gerddwyr yng nghanol trefi Caerfyrddin a Llanelli yn cael eu dileu gan nad oes eu hangen mwyach am resymau sy'n gysylltiedig â Covid (Opsiwn 2).

 

 

 

Cyn dirwyn y cyfarfod i ben, ac yn dilyn caniatâd y Cadeirydd, cyhoeddodd y Cynghorydd Tremlett fod y Cyngor Sir a Llesiant Delta ar ddydd Mercher, 8 Medi, 2021 wedi ennill y wobr Arian ar y cyd yn y categori Arloesi ar gyfer y Rhaglen Connect yng Ngwobrau Rhagoriaeth Trawsnewid y Sector Cyhoeddus a gynhaliwyd yn Llundain. Mynegodd yr Arweinydd ei longyfarchiadau i'r tîm  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 15


 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau