11 DIWEDDARU RHAGLEN GYFALAF 2021/22 PDF 411 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gyllideb ar gyfer rhaglen gyfalaf 2021/22 ar 30 Mehefin, 2021.
Yn adrannol rhagwelwyd gwariant net o £91,568k o gymharu â chyllideb net weithredol o £130,490k gan roi -£38,922k o amrywiant. Nododd Aelodau'r Cabinet fod yr amrywiant a oedd yn cael ei ragweld ar hyn o bryd yn ymwneud yn bennaf ag oedi gyda datblygiad Pentre Awel a rhai datblygiadau ysgol oherwydd y cyfyngiadau sy'n gysylltiedig â phandemig COVID19.
Roedd y gyllideb net yn cynnwys y Cyfrif Refeniw Tai gwreiddiol a'r Gronfa Gyffredinol, a gymeradwywyd gan y Cyngor ar 3 Mawrth, llithriad o 2020/21. Nodwyd bod rhai o'r cyllidebau hefyd wedi cael eu diwygio yn unol â’r gwahaniaethau yn y dyraniadau grant o gymharu â'r dyraniadau disgwyliedig pan gafodd y rhaglen ei chymeradwyo.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn Diweddariad y Rhaglen Gyfalaf 2021/22.