10 ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB REFENIW Y CYNGOR - 1 EBRILL 2021 - 30 MEHEFIN 2021 PDF 327 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad monitro'r gyllideb refeniw a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol fel yr oedd ar 30 Mehefin 2021, o ran 2021/2022. Er bod maint ymateb COVID19 yn lleihau, roedd sefyllfa'r gyllideb yn cydnabod y pwysau ariannol parhaus a wynebir gan yr Awdurdod yn ogystal â'r cymorth ariannol ychwanegol a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru.
Yn gyffredinol, roedd yr adroddiad monitro yn rhagweld tanwariant ar gyfer y flwyddyn ar lefel adrannol o £285k gyda thanwariant o £508k ar gyllideb refeniw net yr Awdurdod. Dywedwyd bod hyn o ganlyniad i gyfuniad o gostau ychwanegol sy'n gysylltiedig â COVID-19 ac incwm a gollwyd a gafodd ei ad-dalu i raddau helaeth o dan gynllun caledi Llywodraeth Cymru. Hefyd, effeithiwyd ar rai gwasanaethau oherwydd iddynt gael eu hatal neu oherwydd y cyfyngiadau symud a mesurau cadw pellter cymdeithasol yn chwarter 1.
Nododd Aelodau'r Cabinet, o ran cyllidebau Ebrill-Mehefin, fod cyfanswm o £6 miliwn o ran gwariant ychwanegol a cholli incwm wedi'i hawlio o dan gynllun caledi Llywodraeth Cymru.
Tynnwyd sylw'r Cabinet at y ffaith bod lefelau casglu'r Dreth Gyngor yn parhau i fod yn is na'r lefelau y cyllidebwyd ar eu cyfer, a byddai hyn yn parhau i gael ei gael ei fonitro'n agos gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, yn enwedig wrth i'r cynllun ffyrlo ddod i ben.
Wrth nodi bod y gorwariant a ragwelwyd o £273k yn y Gwasanaethau Hamdden a Diwylliant, a bod adennill incwm a gollwyd yn cael ei ariannu ar hyn o bryd gan Lywodraeth Cymru tan 30 Medi 2021, dywedwyd bod staff wrthi'n datblygu syniadau arloesol er mwyn hyrwyddo ac annog y cyhoedd i ddychwelyd i gyfleusterau hamdden ledled Sir Gaerfyrddin er mwyn cynyddu refeniw incwm.
Roedd y Cyfrif Refeniw Tai yn rhagweld tanwariant o £1,476k ar gyfer 2021/22. Darparwyd manylion am hyn yn Atodiad B a oedd ynghlwm i'r adroddiad.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:
10.1 Bod adroddiad monitro'r gyllideb yn cal ei dderbyn ac ystyriaeth yn cael ei roi i'r sefyllfa gyllidebol a'r camau unioni priodol.
10.2 Bod y Prif Swyddogion a'r Penaethiaid Gwasanaeth yn adolygu'n feirniadol yr opsiynau sydd ar gael iddynt i gyfyngu ar y gorwariant a ragwelwyd ar gyllidebau, yn ogystal â chydnabod y pwysau y mae Covid-19 wedi'i roi ar gyllideb gyffredinol yr Awdurdod.