Mater - cyfarfodydd

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB REFENIW Y CYNGOR

Cyfarfod: 13/09/2021 - Cabinet (eitem 9)

9 ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB REFENIW Y CYNGOR - 2020/2021 pdf eicon PDF 262 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cabinet yn ystyried Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw'r Cyngor a oedd yn rhoi sefyllfa ariannol diwedd blwyddyn i aelodau mewn perthynas â 2020/21.

 

Roedd y sefyllfa gyllidebol yn cydnabod y pwysau ychwanegol sylweddol a roddwyd ar yr Awdurdod wrth ymateb i bandemig Covid-19 yn ogystal â'r gefnogaeth ychwanegol a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru.

 

Roedd y ffigurau alldro terfynol yn dangos tanwariant ar gyfer y flwyddyn ar lefel adrannol o £1,434k.  Ar ôl ystyried y tanwariant ar daliadau cyfalaf a'r symudiad mewn cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd a chronfeydd wrth gefn Adrannol, roedd y sefyllfa net ar gyfer yr Awdurdod yn golygu tanwariant o £814k.

 

Yn ogystal, roedd yr adroddiad yn cynnwys manylion ar y gwariant a'r incwm mewn perthynas â Covid-19.

 

Nododd Aelodau'r Cabinet fod y tanwariant yn deillio o gyfuniad o'r cyllid grant ychwanegol sylweddol a gafwyd gan Lywodraeth Cymru cyn diwedd y flwyddyn, a oedd hefyd yn cynnwys cyllid o tua £5m ar gyfer ysgolion.  Y costau ychwanegol yn gysylltiedig â COVID19 a'r incwm a gollwyd a gafodd ei ad-dalu i raddau helaeth o dan gynllun caledi Llywodraeth Cymru.  Roedd gwasanaethau wedi cael eu hatal neu eu lleihau oherwydd y cyfyngiadau symud a'r angen i gadw pellter cymdeithasol yn ogystal â swyddi gwag staff.

 

Nododd yr Aelodau hefyd fod lefelau casglu'r Dreth Gyngor yn is wrth gymharu â'r lefelau y cyllidebwyd ar eu cyfer, er bod modd defnyddio'r cyllid penodol a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y gostyngiad hwn.

 

Roedd y Cyfrif Refeniw Tai a oedd ynghlwm i'r adroddiad yn Atodiad B yn rhagweld y byddai tanwariant o £3,0603K ar gyfer 2020/21. Dywedwyd bod hyn o ganlyniad i ostyngiad cyffredinol yn y galw oherwydd COVID19, gyda dim ond gwasanaethu brys a gwasanaethau deddfwriaethol yn cael eu cyflawni am gyfnodau sylweddol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw y Cyngor ar gyfer diwedd blwyddyn 2020/21 yn cael ei dderbyn.