9 CYLLIDEB COSTAU BLYNYDDOL Y CYD-BWYLLGOR PDF 211 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Rhoddwyd gwybod i'r Cyd-bwyllgor, fel rhan o'r Cytundeb Cyd-bwyllgor, fod y pedwar Cyngor sy'n cymryd rhan wedi cytuno y byddai Cyngor Sir Caerfyrddin yn gweithredu fel y Corff sy'n Gyfrifol am gyflawni Rhwymedigaethau'r Cynghorau mewn perthynas â Bargen Ddinesig Bae Abertawe.
Fel rhan o'r cytundeb hwn, roedd yn ofynnol i Gyngor Sir Caerfyrddin roi cyllideb o'r costau blynyddol i'w gymeradwyo, fel y nodir yng Nghymal 19.
Rhoddodd y Cyd-bwyllgor ystyriaeth i’r gyllideb weithredol ddrafft, a oedd yn cynnwys cyfraniadau cyllido prosiectau ar sail cyfraniad o 1.5%, ynghyd â chyfraniadau gan bartneriaid fel y manylir yn yr adroddiad.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r gyllideb dreiglol 3 blynedd 2018/19 i 2020/21 fel y nodir yn y Cytundeb Cyd-bwyllgor, a chymeradwyo cyllidebau dangosol ar gyfer y 2 flynedd ganlynol 2021/22 a 2022/23.