Penderfyniadau

Use the below search options at the bottom of the page to find information regarding recent decisions that have been taken by the council’s decision making bodies.

Alternatively you can visit the officer decisions page for information on officer delegated decisions that have been taken by council officers.

Cyhoeddwyd y penderfyniadau

02/05/2019 - RHANBARTH Y GORLLEWIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO ref: 33    Recommendations Approved

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cynllunio

Gwnaed yn y cyfarfod: 02/05/2019 - Pwyllgor Cynllunio

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 10/05/2019

Effective from: 02/05/2019

Penderfyniad:

 

3.1   PENDERFYNWYD caniatáu'r cais cynllunio canlynol yn unol â'r amodau a nodwyd yn Adroddiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

W/37160

Adeilad amaethyddol i storio peiriannau fferm, biniau bwyd ar gyfer da byw a storio cynnyrch, Pwll Llallau, Cwmfelin-boeth, Hendy-gwyn ar Daf, SA34 0RU

 

(NODER: Gadawodd y Cynghorydd S. M. Allen, a oedd wedi datgan buddiant yn gynharach yn yr eitem hon, Siambr y Cyngor tra oedd y Pwyllgor yn ystyried y cais)

 

3.2       PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ohirio ystyried y cais cynllunio canlynol er mwyn i ymchwiliadau pellach gael eu cynnal yn ymwneud â pherchenogaeth tir ac er mwyn i'r Pwyllgor ymweld â'r safle:

 

W/38125

Cynllun i ddatblygu 36 o breswylfeydd a gwaith cysylltiedig ar dir i'r de o ystad Dôl y Dderwen, Llangain, Sir Gaerfyrddin SA33 5BE

 

Y RHESWM: Er mwyn galluogi'r Pwyllgor i weld y trefniadau o ran mynd i mewn ac allan o'r safle yn sgil pryderon am ddiogelwch priffyrdd.

 

 


15/04/2019 - Cais Faes Tref neu Bentref dan adran 15 o Ddeddf Tiroedd Comin 2006. ref: 32    Recommendations Approved

Ar ran Cyngor Sir Caerfyrddin, sef yr Awdurdod Cofrestru, ystyried a phenderfynu ar y cais dyddiedig 4 Mawrth 2017 am gofrestru tir ym Maespiode, Llandybie yn Faes Tref neu Bentref dan adran 15 o Ddeddf Tiroedd Comin 2006.

 

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pennaeth Gweinyddiaeth a'r Gyfraith a'r Swyddog Monitro

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 16/04/2019

Effective from: 26/04/2019

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD A WNAED

 

Bod y cais yn cael ei wrthod ar sail gyfreithiol ac na ddylai unrhyw ran o’r tir y mae’r cais yn ymwneud ag ef gael ei hychwanegu at y gofrestr statudol o Feysydd Tref neu Bentref a gynhelir dan Ddeddf Tiroedd Comin 2006.

 

Prif swyddog: Linda Rees Jones