Penderfyniadau

Use the below search options at the bottom of the page to find information regarding recent decisions that have been taken by the council’s decision making bodies.

Alternatively you can visit the officer decisions page for information on officer delegated decisions that have been taken by council officers.

Cynharach - Hwyrach

Cyhoeddwyd y penderfyniadau

12/09/2018 - EXECUTIVE BOARD RECOMMENDATION: DRAFT LOCAL DEVELOPMENT ORDER - LLANELLI TOWN CENTRE ref: 24    Recommendations Approved

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyngor Sir

Gwnaed yn y cyfarfod: 12/09/2018 - Cyngor Sir

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 28/09/2018

Effective from: 12/09/2018

Penderfyniad:

Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor fod y Bwrdd Gweithredol, yn ei gyfarfod ar 2Gorffennaf 2018 (gweler Cofnod 7) wedi ystyried adroddiad ynghylch y cynigion i gyflwyno Gorchymyn Datblygu Lleol ar gyfer Canol Tref Llanelli. Pe byddai'n cael ei fabwysiadu byddai'r Gorchymyn yn caniatáu ar gyfer amrywiaeth o ddefnydd o fewn ardal ofodol benodol yng nghanol y dref i symud ymlaen heb fod yr angen am ganiatâd cynllunio.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fabwysiadu'r argymhellion canlynol gan y Bwrdd Gweithredol:

 

“9.1 Derbyn y sylwadau sydd wedi dod i law mewn perthynas â'r Gorchymyn Datblygu Lleol Drafft ar gyfer Canol Tref Llanelli;

9.2   Cymeradwyo'r argymhellion y manylwyd arnynt yn yr adroddiad;

9.3  Cymeradwyo cyflwyno'r Gorchymyn Datblygu Lleol (sy'n cynnwys argymhellion yr adroddiad a'r wybodaeth ddiweddaraf am dystiolaeth) i Lywodraeth Cymru gael cytuno arno;

9.4 Rhoi awdurdod dirprwyedig i swyddogion wneud addasiadau teipograffyddol neu ffeithiol ansylweddol yn ôl yr angen, i wella eglurder a chywirdeb y Gorchymyn Datblygu Lleol;

9.5 Rhoi awdurdod dirprwyedig i'r swyddogion ddiweddaru'r sylfaen dystiolaeth a gwneud unrhyw newidiadau canlyniadol i'r Gorchymyn Datblygu Lleol, a sicrhau bod unrhyw faterion ychwanegol o ran cydymffurfiaeth gyfreithiol hefyd yn cael eu hintegreiddio.”

 


21/08/2018 - Llesiant Delta Wellbeing Limited - Trefniadau Llywodraethu ref: 23    Recommendations Approved

Yn dilyn penderfyniad y Bwrdd Gweithredol I sefydlu Cwmni Masnachu Awdurdod Lleol o’r enw Llesiant Delta Wellbeing Ltd, rhoddwyd awdurdod dirprwyedig I’r Cyfarwyddwr Cymunedau a Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol gytuno ar y strwythau Llywodraethu mewn perthynas a’r cwmni. 

 

Mae’r strwythurau hyn wedi’I  cwblhau bellach.

 

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyfarwyddwyr Cymunedau a Gwasanaethau Corfforaethol

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 03/09/2018

Effective from: 11/09/2018

Penderfyniad:

 

1.    Cymeradwyo’r Trefniadau Llywodraethu ar gyfer Llesiant Delta Wellbeing Ltd fel y nodir yn y Cytundeb Cyfranddalwyr rhwng y Cyngor a’r Cwmni

 

2.    Yn unol ag awdudod dirprwyedig a roddwyd yn flaenorol gan y Bwrdd Gweithredol

 


30/07/2018 - Ystyried a phenderfynu (ar ran Cyngor Sir Caerfyrddin fel Awdurdod Cofrestru) ar sail ei rinweddau cyfreithiol, y cais am gofrestru tir a elwir Caeau Hamdden neu Gaeau Chwarae Llanerch, fel Maes Pentref neu Faes Tref o dan adran 15 o Ddeddf Tiroedd C ref: 22    Recommendations Approved

Ystyried a phenderfynu (ar ran Cyngor Sir Caerfyrddin fel Awdurdod Cofrestru) ar sail ei rinweddau cyfreithiol, y cais am gofrestru tir a elwir Caeau Hamdden neu Gaeau Chwarae Llanerch, fel Maes Pentref neu Faes Tref o dan adran 15 o Ddeddf Tiroedd Comin 2006, dyddiedig 1af Mawrth 2017 ac a wnaed gan Ms Sharon Burdess.

 

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Prif Weithredwr

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 30/07/2018

Effective from: 07/08/2018

Penderfyniad:

Gwrthod y cais a pheidio ag ychwanegu unrhyw ran o'r tir y mae'r cais yn ymwneud ag ef, at y gofrestr statudol o Feysydd Tref neu Bentref a gynhelir dan Ddeddf Tiroedd Comin 2006.

 


04/07/2018 - Canolfan Alwadau Rhydaman ref: 19    Recommendations Approved

Ystyried terfynu'r Cytundeb Cyd-fenter presennol â Llywodraeth Cymru.

 

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyfarwyddwr Adfywio a Pholisi

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 05/07/2018

Effective from: 13/07/2018

Penderfyniad:

Yn unol â'r Awdurdod Dirprwyedig a roddwyd imi gan y Bwrdd Gweithredol ar 4ydd Mehefin 2018 (gweler cofnod 23) yr wyf yn fodlon bod y telerau yr wyf wedi eu trafod, fel y nodwyd yn yr adroddiad, yn briodol i'r Awdurdod ac felly’n cymeradwyo setlo a dod â chyfran Llywodraeth Cymru yn y Gyd-fenter i ben yn gynnar.

 


29/05/2018 - Trefniadau Llywodraethu a Rheoli - Cwmni Teckal1 o ran Trin Gwastraff Cyngor Sir Caerfyrddin ref: 15    Recommendations Approved

Cadarnhau trefniadau llywodraethu a rheoli'r cwmni teckal newydd arfaethedig ar gyfer rheoli gwastraff gan gynnwys cytuno ar ei Erthyglau Cymdeithasu.

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 18/06/2018

Effective from: 27/06/2018

Penderfyniad:

Sefydlu'n ffurfiol y cwmni newydd sef "CWM Environmental Limited” sy'n cydymffurfio â gofynion Teckal yn unol â'i Erthyglau Cymdeithasu a'i strwythur llywodraethu newydd.

 

Prif swyddog: Chris Moore


23/01/2018 - W/35450 - PROPOSED RESIDENTIAL DEVELOPMENT INCLUDING 42 NO. DWELLINGS AT LAND ADJACENT TO LAUGHARNE PRIMARY SCHOOL, LAUGHARNE, SA33 4SQ ref: 14    Recommendations Approved

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cynllunio

Gwnaed yn y cyfarfod: 23/01/2018 - Pwyllgor Cynllunio

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 14/02/2018

Effective from: 23/01/2018

Penderfyniad:

Cyfeiriodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu at ymweliad preifat y Pwyllgor â'r safle'n gynharach y diwrnod hwnnw (gweler cofnod 4.3 cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio ar 16 Tachwedd 2017), er mwyn i'r Pwyllgor gael golwg ar y pryderon oedd wedi'u lleisio ynghylch y cynnydd mewn traffig a fyddai'n digwydd yn sgil y datblygiad arfaethedig, er diogelwch cerddwyr, yn enwedig y plant sy'n cerdded i'r ysgol ac o'r ysgol. Cyfeiriodd, gyda chymorth sleidiau PowerPoint, at adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio a oedd yn rhoi arfarniad o'r safle, ynghyd â disgrifiad o'r datblygiad, crynodeb o'r ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad a gwybodaeth am y polisïau lleol a chenedlaethol a oedd yn berthnasol wrth asesu'r cais.

 

Cyfeiriwyd yn benodol at hanes cynllunio'r safle mewn perthynas â chymeradwyo cais cynllunio W/09082 yn 2008, yn amodol ar Gytundeb Adran 106 i ddarparu manteision i'r gymuned, y ffaith fod y gymeradwyaeth honno wedi dod i ben yn 2013, a phenderfyniad Arolygydd Llywodraeth Cymru i gynnwys y safle yn ei hadolygiad rhwymol ynghylch yr CDLl, a gyhoeddwyd ar 16 Hydref 2014 heb unrhyw ofynion neu amodau penodol y bydd y manteision i'r gymuned y cytunwyd arnynt o dan W/09082 yn cael eu cynnwys mewn unrhyw ganiatâd cynllunio newydd. O ganlyniad i'r penderfyniad hwnnw, rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor y byddai angen ystyried y cais yn unol â deddfwriaeth gynllunio statudol bresennol, gan gynnwys Rheoliadau Ardoll Seilwaith Cymunedol 2010, a osodai gyfyngiadau ar y defnydd o Rwymedigaethau Cynllunio Adran 106, ac felly ni ellid cynnwys y manteision i'r gymuned y cytunwyd arnynt yn flaenorol yn y cais newydd.  Fodd bynnag, pe byddai'r Pwyllgor yn cymeradwyo'r cais, byddai dal angen i'r ymgeisydd gychwyn ar Gytundeb Adran 106 a fyddai'n cynnwys cyfraniad o £26k at addysg gynradd ac uwchradd yn nalgylch y safle, a gwelliannau i'r priffyrdd gan gynnwys darparu llwybr troed ar hyd rhan flaen y safle hyd at bentref Broadway.

 

I grynhoi, rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y Pennaeth Cynllunio yn argymell cymeradwyo'r cais am y rhesymau a nodwyd yn ei hadroddiad ysgrifenedig ac yn amodol ar fod yr ymgeisydd yn cychwyn ar Gytundeb Adran 106.

 

Cyflwynwyd sylwadau ar y manteision i'r gymuned y cytunwyd arnynt yn flaenorol fel rhan o gais cynllunio W/09082 ac yn benodol, ar y problemau o ran trosglwyddo perchnogaeth tir. Dadleuwyd y dylai'r datblygwr gynnwys y manteision hynny fel rhan o unrhyw gais cynllunio newydd a gymeradwyir ar gyfer y tir. Cyflwynwyd sylwadau ychwanegol ar y mynedfeydd ar wahân ar gyfer yr elfennau tai fforddiadwy a'r tai preifat o'r datblygiad arfaethedig, a chysylltu'r elfennau hynny â'i gilydd er mwyn osgoi eu gwahanu.

 

Mewn ymateb i'r sylwadau, rhoddwyd gwybod gan asiant y Datblygwr bod y cais wedi bod yn destun ymgynghoriad helaeth ac na chyflwynwyd dim gwrthwynebiadau gan ymgyngoreion statudol, yn amodol ar amodau priodol, a'i fod hefyd yn cydymffurfio â pholisïau cynllunio lleol a chenedlaethol. O ran y gymeradwyaeth flaenorol, a'r cytundeb Adran 106, roedd y rheiny wedi dod i ben a byddai angen ystyried unrhyw gymeradwyaeth newydd a'r cytundeb Adran 106, yn unol â deddfwriaeth gyfredol yn ogystal â sicrhau eu bod yn berthnasol, yn angenrheidiol, yn rhesymol a'u bod yn cydymffurfio â Rheoliadau Ardoll Seilwaith Cymunedol. O ran safle'r elfen Tai Fforddiadwy, roedd hynny wedi'i benderfynu mewn ymgynghoriad â darparwr tai cymdeithasol arfaethedig er mwyn lleoli'r datblygiad wrth ochr ei ystâd, Cwrt Woodford, am resymau rheoli. Gofynnodd am i'r Pwyllgor gymeradwyo'r cais, fel yr argymhellir gan y Pennaeth Cynllunio, gan fod y cais yn cydymffurfio â pholisïau cynllunio presennol.

 

Cyfeiriodd yr Uwch-gyfreithiwr at y caniatâd cynllunio blaenorol a chadarnhaodd, pan ddaeth i ben yn 2013, fod y Cytundeb Adran 106 hefyd wedi dod i ben. O ganlyniad, byddai angen i unrhyw gais newydd am ddatblygu'r safle gael ei ystyried yng nghyd-destun polisïau cynllunio lleol a chenedlaethol presennol yn ogystal ag adroddiad sylwadau Arolygydd Llywodraeth Cymru.

 

Ymatebodd y Pennaeth Cynllunio a'r Uwch-swyddog Rheoli Datblygu i'r materion a godwyd.

 

O ystyried y sylwadau a gyflwynwyd, roedd y Pwyllgor o'r farn y dylai'r broses o ystyried y cais gael ei gohirio er mwyn galluogi'r Pennaeth Cynllunio i gael trafodaethau pellach â'r ymgeisydd ynghylch pa fanteision a fyddai'n cael eu darparu i'r gymuned, gan ystyried polisi SP16 y Cynllun Datblygu Unedol, a hefyd sôn am y pryderon a godwyd ynghylch y mynedfeydd ar wahân i'r safle a bod y diffyg cyswllt rhwng y ddwy elfen yn cael effaith negyddol ar breswylwyr, yn enwedig y plant sy'n gorfod cerdded ar hyd y briffordd gyhoeddus i Ysgol Talacharn.

 

PENDERFYNWYD gohirio'r broses o ystyried cais cynllunio W/35450 i alluogi'r Pennaeth Cynllunio i drafod ymhellach â'r ymgeisydd y materion a godwyd uchod.

 

 

 


 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau